Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd y Gol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd y Gol. Tymor y croesawu yw hwn Y dydd o'r blaen bu Mr. John Hinds yn rhoddi croesaw i Undeb y Cymdeithasau; yr wythnos ddi- weddaf rhoddodd Mr. Llewelyn Williams groesaw i aelodau'r Orsedd. Yr wythnos nesaf mae Mr. Vincent Evans ac Arglwydd Tredegar yn bwriadu croesawu y Cymmro- dorion; ac y mae Bardd yr Offis wedi cael ei ddal gan yr un dwymyn Y mae wedi rhoddi gwahoddiad i'r pum bardd newydd, a urddwyd yn yr Orsedd, y dydd o'r blaen, i ddod i'w gyfarfod yn yr ystafell hon yr wythnos nesaf, a disgwylia Eifionydd a Dyfed, ac ereill, i'w cyfarfod. Ceir yr hanes yn y nesaf. Hyd hynny, gofynwn am amyneddgarwch y frawdoliaeth oil. Gair i'r hysbvsebwyr.—Gan i adroddiad yr Orsedd fyned yn lied faith yn ein rhifyn diweddaf, bu raid gadael rhai mAn hysbys- iadau o'r neilltu ond y mae popeth yn ei le yr wythnos hon eto. Felly, ffarwel am wythnos arall!

Y DYFODOL.

[No title]

Advertising

Am Gymry Llundain.