Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFODYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFODYDD. Cyfarfod Misol Llundain, gynhaliwyd yn Jewin Mehefin 24ain. Llywydd, y Parch. R. O. Williams. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Wm. Hughes, Falmouth Road. Darllenwyd a chadarn- hawyd cofnodion y cyfarfod diweddaf. Darllenwyd llythyrau oddiwrth y cyfeillion canlynol yn cydnabod cydymdeimlad y C.M. a. hwynt:—Mr. Jas. Evans, Clapham gweddw y diweddar Barch. J. Williams, B.A., Wrexham, a'r Parch. R. Parry, B.A., Llanrug. Gwnaeth y Parch. J. E Davies, M.A., sylwadau tyner iawn at y golled i'r cyfundeb drwy farwolaeth yr Hybarch Thomas Rees, D.D., Cefn. Gwr gafodd oes hir i wasanaethu ein Harglwydd, ac a wnaeth hynny gyda gallu, ffyddlondeb, a dylanwad mawr. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad dwysaf y C.M. i'r weddw a'r plant yn eu galar. Mewn canlyniad i gylch-lythyr dderbyniwyd oddiwrth G.M. Arfon, penderfynwyd ymuno a'r ymdrech canmoladwy o godi tysteb i'r Parch. R. Parry, B.A., Llanrug, ac anogir i'r Eglwysi ddanfon eu cyfraniadau i Drysorydd y C.M. Ynglyn ag apel y Gymanfa Gyffredinol am gydweithrediad y C.M. yn y bwriad o godi Trysorfa Goffawdwriaethol i'r diweddar Dr. J. Pugh, pender- fynwyd gwahodd y Parch. J. Morgan Jones, Caer- dydd, i Lundain, ac enwyd Mr. Wm. Evans i wneud y trefniadau. Penderfynwyd cynnal y C.M. nesaf Gorffennaf 22ain. Rhoddodd Mr. J. Morgan adroddiad o ymweliad y Cenhadon a, Falmouth Road er holi a gosod y Blaen- oriaid newydd yn eu swydd. Hefyd rhoddodd y Parch. P. H. Griffiths adroddiad o ymweliad y Cenhadon a, Wilton Square i'r un pwrpas. Amlyg- wyd boddlonrwydd i'r atebion yn y ddau achos, a chadarnhawyd yr adroddiadau. Yna galwyd ar y Blaenoriaid newydd oedd yn bresennol o'r ddwy Eglwys, o Eglwys Ealing, a hefyd Mr. Eynon, Clapham Junction, i dderbyn deheulaw Cymdeithas, a thraddodwyd cynghor nodedig o werthfawr iddynt gan y Llywydd, yn yr hwn yr anogai hwynt i flaenori mewn gwaith yn eu Heglwysi, gan fod yn ffyddlon i Grist fel y Pen. Rhoddodd Mr. Wm. Evans adrodd- iad neillduol o gynwysfawr o holl weithrediadau y Gymanfa Gyffredinol yn Lerpwl, ac hysbysodd fod y Gymanfa wedi caniatau y grant o ^100 i Lundain am y fiwyddyn nesaf. Ategwyd hyn gan Mr. J. Jenkins, y Parch. P. H. Griffiths, a'r Llywydd, a diolchwyd i'r cyfeillion hyn am ein cynrychioli mor llwyddianus. Rhoddodd y Parch. J. E. Davies, M.A., a Mr. J. Burrell adroddiad manwl a helaeth o weithrediadau Cymdeithasfa yr Hendre ar fater apal Mr. N. J. Evans. Caniatawyd cais y Parch. J. Wilson Roberts am lythyr trosglwyddiad i undeb a Chyfarfod Misol Dwyrain Morganwg, a phenodwyd y Parch. D. Oliver i gynrychioli y C M. yn y cyfarfod sefydlu yn Ynyshir. Datganodd y Parch. J. E. Davies, M.A., a Mr. J. Burrell gydymdeimlad y C.M. o'i golled fawr drwy ymadawiad Mr. Roberts, yr hwn syddL wedi bod yn weinidog llafurus, yn bregethwr pob- logaidd, ac yn aelod ffyddlawn o'r C.M., a dymunir Duw yn rhwydd iddo yn ei gylch newydd. Cadarn- hawyd yr adroddiad canlynol o eiddo y Pwyllgor Addvsg (a) Fod y Parch. D. Oliver i weithredu fel ysgrif- ennydd y Dosbarth Dwyreiniol. (b) Fod Mr. J. Abel Jones, Wilton Square, yn caei caniatad i eistedd am yr arholiad i ymgeiswyr am y weinidogaeth yn Awst nesaf. Os bydd yn llwydd- iannus, fod ysgrifennydd y Pwyllgor Addysg i drefnu iddo ddechreu ar gwrs yn yr ysgol rhagbaratoawl yn Nhrefecca. (c) Awgrymwyd fod Mr. J. W. Jones, Wilton. Square, i gael caniatad i eistedd am yr un arholiad yn Awst, ar yr amod ei fod yn cael cymeradwyaeth y dosbarth fel pregethwr, a chymeradwyaeth ei Eglwys, wedi ei arholi yno gan ymwelwyr o'r Cyfarfod' Misol yn flaenorol. Enwyd y Parch. S. E. Prydderch a Mr. Humphrey Hughes fel ymwelwyr. (d) Fod y C.M. yn Gorph i drefnu ar gyfer arholiad i'r ymgeiswyr am y weinidogaeth yn Llundain Awst 18 drwy nodi lie i gynnal yr arholiad, a dau i arolygu yr eisteddiadau. Hefyd os bydd angen, fod ysgrifennydd y Pwyllgor Addysg yn cael ei awdur- dodi i drefnu gydag ysgrifennydd C.M. Gogledd Aber- teifi, fel y gall Mr. J. W. Jones eistedd yr arholiad yno yn ystod ei wyliau yng Nnghrymru. Pender- fynwyd fod y Pwyllgor Arbennig sydd wedi bod yn gofalu am Tottenham er yr Hydref yn aros yn ei swydd hyd ddiwedd Gorffennaf, ac yn y cyfamser fod Pwyllgor yr Achosion Newyddion i baratoi adroddiad i G.M. Gorffennaf parthed i ddyfodol yr achos yn Tottenham. Derbyniwyd gydag unfrydedd mawr gynnyg y cyfeillion yn Clapham i wneud cyfnewid- iadau yn y capel, er mwyn gosod cofadail i fewn am un o'r aelodau, y gofadail i gymeryd y ffurf o ffenestr liwiedig. Hysbyswyd fod pris y tender am gapel newydd Ealing wedi ei ddarostwng, a rhoddwyd caniatad i'r cyfeillion yno i wario BLOO yn ychwan- egol at y swm ganiatawyd iddynt wario ynglyn ag adeiladu y capel. Rhoddodd Mr. J. Burrell allwedd y safle i'r cadeirydd, a phenodwyd Mr. Wm. Evans i gymeryd gofal o honi yn ei le. Da iawn oedcl gennym weled yn bresennol y Parch. J. Tudno Williams, M.A., a'r Parch. Joseph Lewis, Pontar- dulais. Diweddwyd drwy weddi gan y Parch. Joseph Lewis. F. KNOYLE, Ysgrifennydd.

- Notes and News.