Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Cleber o'r Clwb.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cleber o'r Clwb. Nos FERCHER. Son am urddau anrhydeddus y gwahanol Gymdeithasau enwog oeddem heno, pan ddaeth Syr Alfred Thomas i fewn, bron ar golli ei anadl, ac yn chwys dyferol. Helo, Syr Alfred," gwaeddai Dr. Bryant, be'di'r helynt ? A yw y Suffragettes ar eich gwarthaf ? No, no," chwarddai Alfred, rwy' wedi cael llonydd erioed gan y merched yma, a does berygl iddynt dd'od i'm poeni yn awr." Wel, be ydi'r brys yma sydd arnoch," holai John Hugh, yn wenieithus, a yw'r Weinyddiaeth mewn perygl, neu'r Aelodau Cymreig wedi penderfynu dod yn genedl- aetholwyr." "Dim o'r fath beth," atebodd Syr Alfred, yn bendant, a jawst ariod, ni wnewch chi na'ch League byth eu gyrru i'r llwybr peryglus hynny. Na, yr hyn sy'n fy mlino heddyw yw'r newydd fod Gomer a'i fryd am ddod yn M.P. I ddilyn camrau Newnes" ? ymholai Jay Williams, yn bryderus. Nage, am a wn ni," meddai Syr Alfred, ond mae'n anhawdd gwybod beth yw move Gomer. Feallai mai am gynrychioli pobl Abertawe y mae yn y diwedd, ond ei fryd yn awr yw dod allan fel Labour candidate yn erbyn Roch yn Sir Benfro." Gomer fel Labour candidate! ha, ba, ha," chwarddai John Hinds." Wel ie," ebai Syr Alfred, dyna'r trie yn awr yng Nghymru. Rhedeg rhywun a'i alw'n Labour man er mwyn rhannu'r pleid- iau. Dyna'r cynllun yn fy etholaeth fy hun, a dyna'r bwriad, hefyd, yng Nghaerdydd, os na ddaw un o bleidwyr y menywod allan yn erbyn Ivor Guest a'i League of Old Women.' Ond pa gysylltiadau sydd rhwng Gomer a Phenfro, ar waban i'w anwybodaeth o achos Llafur," ymholai Watkin Williams. "0," ebai Norick, gwlad y Baptis yw Sir Benfro, ac ond cael ymgeisydd cynnefin a'r dwr, fe nofia i fuddugoliaeth yn y Sir hon bob amser." Ond beth am rannu'r blaid Ryddfrydol yn y Sir" ? ychwanegai Bryant. "Ie, dyna'r drwg," ebai Syr Alfred. 'Rwyf newydd fod ar war Lloyd George yn ei annog i ddanfon llythyr bygythiol i Gomer, i ddweyd na chaiff e ddim o'r old age pension-ac mae Gomer ar fin cyrraedd yr oedran, wyddoch-os bydd iddo daflu'r blaid i helynt y tro hwn, a rhoddi achos i'r ddau Fail i lawenhau—y Western a'r Daily." Ond a'i Cymro yw y Lort Williams yma, sydd i ymladd achos y Ceidwadwyr yn erbyn Roch," holai D. R. Hughes. "Ie, ie," atebai Goronwy Owen, a hen bupil i mi yn y dosparthau Cymraeg. Bu ddwywaith yn cael gwersi gennyf, ac aeth allan o'i go am nas gallwn ddysgu Cymraeg iddo ymhen wythnos." "Acmae yn Gymro o ochr ei hen-famgu," eglurodd Llewelyn Williams. Mae'n debyg mai un o Suffragettes Sir Benfro yn yr oesau boreu oedd yr hen wreigan honno, ac Mae Lort wedi llwyddo i olrhain ei achau yn ol i'r ganrif cyn y ddiweddaf, a phrofi fod rhai o'r hynafiaid wedi bod yn preswylio ym Mhenfro. Ond yn nghanolbarth Lloegr y ganwyd Lort, ac eistedda ar hyn o bryd ar Cryngor Sir Llundain dros un o ranbarthau yr East End. Wedi'r cyfan," ebai Syr Alfred, "Gomer yw'r unig Gymro gwirioneddol sydd ar y *naes, waeth Sais ac eglwyswr yw Roch, er ei fod yn byw yn Aberteifi. Dyn dierth yw Lort Williams, ond y mae Gomer yn Gymro ac yn true son of the soil. A dyna'r bobl sydd eisieu arnom ni fel CYrychiol wyr," ebai John Hugh. "Beth! Pobl o sort Gomer," gwaeddai Norick, mewn syndod. Chwarddodd pawb ar hyn, a gwelodd John Hugh nad oedd ei League wedi dewis y dyn goreu wedi'r cyfan. Ac er mwyn cysuro ei deimladau dirwywyd ef i dalu am lemon squash i'r cwmni'n round er mwyn eu cadw yn dymherus ar noson mor boeth. A gwelodd Alfred mai doeth oedd y cyn- ygiad, ac felly gadawyd llonydd i bethau Cymreig am y gweddill o'r noson. AP SHON.

POBL Y MAE SON AM DANYNT.

Advertising