Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE CAMBRIAN CHORAL SOCIETY. Conductor Mr. T. VINCENT DAVIES. e-) /JHE above Society is now preparing for the Vy coming Winter Season. Ladies and Gentlemen, with good voices, and desirous of becoming members, should write to the Secretary— Mr. LEWIS WILLIA.MS, B.A., 83, Kelvin Road, Highbury, N.
URDDAU'R BRENIN.
URDDAU'R BRENIN. Uchelgais pennaf y Seneddwr cyffredin ym mhob oes yw ceisio esgyn i'r cyntedd cyfrin hwnnw lie y gwasgerir ffafrau swydd- ogol ac urddau Brenhinol ym mhlith y rhai fo'n ymgiprys am danynt. Nid camp hawdd ydyw hyn i bob dosbarth. Gall fod gwr yn meddu ar ddawn ac athrylith tuhwnt i fesur, ac eto fod yn alltud o'r gymdeithas gyseg- redig hon, ac nid yw maith wasanaeth yn y Senedd na ffyddlondeb i etholaeth ac egwyddorion rhyddid a chydraddoldeb ynddynt eu hunain yn un cymhwyster i gael y dyrchafiad cymdeithasol hwn. Yn yr oes faterol hon rhaid cael allwedd o aur i agor y drws i'r lie dymunol yma, a phan geir ychydig dalent yn ogystal a chyfoeth, y mae'r ffordd yn dod yn hawddach fyth. Cyflwynir yr urddau Brenhinol ddwy waith yn y flwyddyn. Gwasgerir y rhoddion cyntaf fel math o galenig dechreu blwyddyn, ac yna daw ail fasgedaid o'r rhoddion hyn ganol haf pan yn gwneud dathliad swyddogol o ddydd pen blwydd y teyrn. Dydd Gwener diweddaf gwnaed y rhestr o enwau derbynwyr y ffafrau penblwydd, am j eleni, yn hysbys i'r cyhoedd. Yr oedd cryn ddyfalu wedi bod er's dyddiau pwy fuasai'r dewis, ddynion y tro hwn, ac er fod llu yn cael eu henwi, teimlid fod y rhestr yn rhy faith, hyd yn oed i ryddfrydigrwydd y Weinyddiaeth hael hon, i ofyn i'r Brenin i fendithio yr holl haid. Y canlyniad fu i'r nifer gael eu cwtogi, a llwyddwyd, yn ol y syniad cyffredin, i wneud cyfiawnder am y tro, a rhoddi ffafrau i bawb oeddent yn wir- ioneddol haeddu y trysorau anrhydeddus a adwaenir fel teitlau. O'r pedwar person sydd wedi eu danfon i'r Ty uchaf, mae un yn aelod tros ranbarth o Gymru. Mae Mr. John Wynford Philipps wedi cynrychioli Sir Benfro yn y Senedd er's 1898, ac er mai aelod distaw ydyw, y mae yn wr amlwg iawn. Yn un peth, mae o daldra corfforol uwchlaw'r cyffredin, ond ar wahan i fesur ei gorff y mae'n gyfar- wyddwr blaenllaw ar In o longau sy'n cysylltu y wlad hon ag Affrica ac India. Oherwydd ei safle fel perchennog llongau a'i fedr masnachol, yn ogystal ac am ei gyfoeth, y mae wedi haeddu y dyrchafiad presennol, a diau y caiff Cymru gymaint o'i wasanaeth yn y Ty uchaf ag a gafodd oddi- C) MR. WYNFORD PHILIPPS, A.S. [Yr Arglwydd Cymreig newydd. Nid yw eto wedi- penderfynu pa enw i'w ddewis.] wrtho pan eisteddai fel gwr cyffredin dros bobl Penfro yn y Ty isaf. Fel y rhaghysbyswyd gennym yn ein rhifyn diweddaf, gwr arall i dderbyn o ffafrau'r blaid Ryddfrydol y tro hwn oedd Mr. J. Herbert Roberts, yr aelod tros ran- SYR J. HERBERT ROBERTS, Barwnig, A.S. barth o swydd Dinbych. Gwnaed ef yn farwnig, ac o hyn allan bydd Syr Herbert Roberts yn un o berchenogion teitlau yn ein cenedl. Gweithiwr tawel a chyson yw Mr. Roberts wedi bod ar hyd y blynyddau. Glynodd yn ffyddlon i egwyddorion Ym- neillduaeth drwy yr holl amser, ac ni cheir neb yn y Senedd yn fwy cadarn nag ef dros ddirwest a phurdeb cymdeithasol. Merch i'r hyglod W. S. Caine yw ei briod, ac er mai Saesnes yw, mae'n ddigon Cymreig ei hysbryd i ddysgu hen iaith y Cymry i'w phlant. Nid oedd yr un aelod o Gymru yn fwy teilwng o'r anrhydedd hwn nag efe, a sicr y bydd Cymry ym mhob man yn eyd- lawenhau ar roddiad y teitl yma arno. Mae dau ereill wedi cael anrhydedd Ilai. Gwnaed Mr. W. Howell Davies, yr aelod Cymroaidd tros ran o Fryste, yn farchog, ac hefyd Mr. R. J. Price, gwr a welodd oleu dydd ym mhellfaoedd Sir Benfro, ond sydd yn awr yn trigo yn Lloegr. Gwr arall a enwir yn y rhestr hon yw Mr. T. Rees Price, o Ddeheu Affrica, y gwr sydd yn rheoli rheilffyrdd Trefedigaeth y Transvaal, a brodor o Aberdare. Diau y teimla ambell un fod ei hawliau ef wedi eu hanwybyddu y tro hwn, ac fod y Prif Weinidog wedi gwneud anhegwch ag ef drwy ei anwybyddu, ond ar y cyfan mae'r rhestr yn lied foddhaus, ac os oes gwerth o gwbl yn yr urddau hyn y mae o ryw gysur i ni ddeall fod personau tra theilwng wedi eu meddu y tro hwn.
[No title]
Doctor Lloyd-George. Yr wythnos ddiweddaf anrhydeddwyd Mr. Lloyd-George a'r gradd o Ddoctor yn, y Gyfraith gan Brifysgol Rhydychen, a chan fod Prifysgol Cymru wedi trefnu i roddi cyffelyb anrhydedd arno ym mis Tachwedd nesaf, gall Mr. Lloyd-George, heb un pryder, bellach, hawlio'r teitl Doctor o flaen neu ar ol ei enw ar bob achlysur. Diwrnod mawr yn Rhydychen yw dydd cyflwyno'r graddau, a chaed cynulliad parchus yno ddydd Mercher, Mehefin 24ain, i wylied y gweithrediadau. Ymysg yr ymwelwyr 'roedd nifer o Gymry blaenllaw, a rhoddwyd derbyniad calonog i'r aelod tros Gaernarfon pan aeth i dderbyn ei radd; yn wir, efe oedd y ffefryn gan yr ymwelwyr yn ogystal a chan y myfyrwyr. Hogiau direidus yw y rhain bob amser, ac nid oedd ball ar eu difyrwch y tro hWil chwaith. Gofynent i Mr. Lloyd-George am eu blwydd-dal, a beth oedd ei farn am Pudsey, tra gwaeddai'r Cymry Clywch, clywch," uwchben araith Ladinaidd y canghellydd am dano. Mae'n llawenydd gweled y brifysgol hon yn cyf- Iwyno gradd i heretic gwleidyddol fel y Cymro hwn, ond os y teimlai yn awyddus am ei waed rhyw bum mlynedd yn ol, efe, yn ddiau yw esiampl a ffefryn pennaf efryd- wyr ein gwlad heddyw. Pob llwydd iddo feddu y teitl hwn eto am flwyddi lawer. Gardd-wyl y Brenin. Mae cryn siarad yn y byd gwleidyddol ynglyn ag absenoldeb rhyw bedwar o aelodau Seneddol o blith gwahoddedigion y Brenin i'r ardd-wyl a roed ganddo rhyw bythefnos yn ol. Cydnabyddir fod y Brenin bob amser uwchlaw plaid na mympwyon crefydd, a'i fod yn dosbarthu ei ffafrau ymhlith ei ddeil- iaid yn ddiwahaniaeth. Bu cryn feirniadu, yn y Senedd, ar ei fwriad i dalu ymweliad a Brenin Russia, a theimlir yn gyffredin mai math o gosp am hynny yw'r cau allan hyn o restr gwahoddedigion y teyrn. Prin y gellir credu fod y Brenin ei hun yn gyfrifol am y fath ymddygiad ffol. Byddai hyn yn ei ddarostwng ar unwaith o urddas Brenin i fod yn gydradd a rhyw sgweier snobyddol gwledig. Mae Mr. Keir Hardie yn un o'r rhai gawsant y sen hwn, ac mae'r aelod tros