Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
GWYL Y CYMMRODORION
GWYL Y CYMMRODORION YN NEUADD Y PYSGODWYR. Hen arferiad y Cymmrodorion yw cynnal cwrdd diddan i derfynu'r tymor. Yn yr hen amser gynt, pan oedd Sior yn teyrn- asu," roeddent yn fwy diddan fyth. Y pryd hynny 'roedd pob cyfarfod yn wledd a phob cynulliad yn csel ei gadw ymlaen tan oriau man y boreu, os ydym i gredu beth ddywed Llywelyn Ddu o Fon am danynt. Mewn llythyr at ei frawd William, yn Awst 1757, dywed Llywelyn fel hyn am Risiart-y brawd arall oedd yn y Navy Office-" Last night was the Cymmrodorion meeting for August, and I suppose brother could hardly write to you, for he was busy in ye office till seven, and at eight they (the Cymmrodorion) meet, and seldom part till twelve or two in the morning-all boozy." Yn yr un llythyr addefa eu bod yn bobl ddysgedig, yn hoff o ganu, "and admire poetry, for they are people of high taste." Mae Cymmrodorion yr oes hon wedi cadw i fynu y cymeriad olaf hwn, maent yn bobl ddiwylliedig, ac o chwaeth lenorol dda, a diolch i Mr. Vincent Evans, mae'r oriau ,cyfarfod wedi eu lleihau. Y tro hwn dechreu- wyd y gweithrediadau am hanner awr wedi wyth, a chanwyd Hen Wlad fy Nhadau i derfynu cyn unarddeg o'r gloch, ac nid oedd neb wedi meddwi, oherwydd diodydd titotal- yddol yn unig yw arlwy arferol y Finsent. Ydyw, mae cant a hanner o flynyddau wedi gwneud cyfnewidiad mawr yn hanes yr hen Gymdeithas anrhydeddus. Er hynny oil, yr un yw'r amcan heddyw ag yn y dydd- iau gynt, sef noddi ein llenyddiaeth a chadw yr hen iaith yn fyw, a hawdd y gellid deall fod mwy o fri ar y Gymraeg yn awr nag y bu er's talm, oherwydd clywyd mwy o'i hacenion y tro hwn nag a glywid er's blyn- yddau yn y cyfarfodydd cymdeithasol hyn ar ddiwedd tymor. Eleni llwyddodd y frawdoliaeth i gael gwahoddiad caredig gan Gwmni'r Pysgod- wyr, i dreulio noson yn eu neuadd hardd, gerllaw pont Llundain. Mae cwmni'r pys- godwyr yn un o'r rhai cyfoethocaf yn y ddinas, a'r neuadd sydd ganddynt yn adeilad hardd, yn llawn o drysorau drudfawr a daeth tua chwe chant o wahoddedigion yno i f wynhau noson lawen mewn ymgom a chan. Croesawyd yr aelodau gan Arglwyd Tre- degar, llywydd y Gymdeithas, a Mr. Wrench Towse, un o awdurdodau Cwmni'r Pysgod- wyr ac ymhlith y dyrfa urddasol ddaeth ynghyd, gwelsom y Dr. Henry Owen (trys- orydd), Mr. Wynfford Philipps-yr Arglwydd newydd—a Mrs. Philipps; Arglwydd Glan- tawe, Syr J. Herbert Roberts a'i briod Mr. Ellis J. Griffith, A.S., a'i briod Syr Clifford Cory Mr. Timothy Davies, A.S., a'i briod Y Cadfridog Syr James Hills Johnes a'i briod a Mrs. Johnes Dolaucothi y Cad- fridog R. Owen Jones, C.B. yr Henadur Robert Hughes, Caerdydd, a Mrs. Hughes; Mr. a Mrs. Aeron Thomas; Mrs. Llewelyn Williams; Parchn. Hartwell Jones, J, E. Navies, M.A., a'i briod, J. Crowle Ellis, Francis Knoyle, J. Hugh Edwards, a Mardy Rees; Mr. a Mrs. J. T. Lewis Mr. a Mrs. J. Foulkes Jones; Mr. a Mrs. Wilfred Rowlands Mr. a Mrs. W. Price Mr. a Mrs. L. J. Griffith; Mr. J. Burrell; Mr. P. W. Williams; a Mr. a Mrs. A. Rhys Roberts. Yn y brif neuadd yr oedd cerddorfa'r "Coldstream Guards," o dan arweiniad Dr. MacKenzie Rogan, Hon. R.A.M., a rhodd- asant ddetholiad nodedig o gerddoriaeth yn ystod y noson. Yn yr ail neuadd yr oedd Cor Merlin Morgan yn canu alawon Cym- reig gyda mawr swyn, a rhoddasant fodd- lonrwydd eyffredinol yn eu detholiadau. Bob yn ail a'r cor daeth Miss Cordelia Rhys, yr hon oedd mewn gwisg Gymreig swynol, gan ganu penillion i ddyddori'r cwmni, a chaed cryn foddhad wrth ei gwrando yn canu a ganlyn :— Hoffa Cymry gwladgar Llundan Glywed telyn Cymru'n tincian Swyn y delyn sy'n hudoliaeth Ar hyd diroedd Cymmrodoriaeth. Hoffa'r boneddigion gwladgar Sydd heb ch ac 11" i'w llafar, Garu'r wlad a gar eu calon Ar hyd dyrrau'r Cymmrodorion. Mae i'n Llywydd enw gloew- Cymru lan a bia hwnnw Tredegar" sydd yn barod wron, 0 waed eirias Cymmrodorion. Yma 'n neuadd y Pysgodwyr, Vincent" geir yn ddigon difyr, Mae'n arweinydd pererinion Ar hyd dir y Cymmrodorion. Ond rhaid i'r Cymmrodorion presennol gymeryd dalen o lyfr eu hynafiaid a phwr- casu telyn eto er gwneud eu rhaglen yn gyflawn. Hyd y flwyddyn hon yr oedd Pencerdd Gwalia yn harddu'r wyl a'i delyn her, ond y mae dyddiau henaint wedi ei orfodi yntau bellach i fod yn fwy gofalus o'i oriau, a dyna, yn ddiau, oedd y rheswm na chaed clywed tine ei delyn y tro hwn. Hwyrach y ceir rhyw delynor ieuanc i lanw'r bwlch cyn hir, ac y daw canu penillion yn beth arferedig yn y cynulliadau hapus hyn. Yn y ddwy ystafell eang arall yr oedd byrddeidiau llawn o foethau wedi eu paratoi, ac o amgylch y rhai hyn y gwelid ugeiniau yn mwynhau eu hunain bob yn ail a'r gan a'r gleber, a theimlad pawb oedd, eu bod yn ddyledus iawn i Mr. Vincent Evans, yr ysgrifennydd, ac i Gwmni'r Pysgodwyr am drefnu a rhoddi y fath fwyniant i'r aelodau am y tro. Ar derfyn y canu a'r mwynhad, caed gair o ddiolch gan Arglwydd Tredegar ar ran y Gymdeithas i Gwmni'r Pysgodwyr am roddi'r ystafelloedd at ein cysur a threfnu'r fath foethau yn rhad i ni; ac wrth gydnabod y diolch, dywedodd eucynrychiolydd y byddai yn bleser ganddynt eto ar ryw adeg fod o wasanaeth i bobl mor anrhydeddus a Chym- deithas y Cymmrodorion.
A BYD Y GAN..
A BYD Y GAN.. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CERDDORIAETH A CHREFYDD.—Wedi ym- ddangosiad fy sylwadau ar y testyn hwn, yn y rhifyn diweddaf, digwyddais ddarllen sylwadau Dr. Walford Davies ar Bach a'i ddylanwad ar Gerddoriaeth ddiweddar." Dywed While modern music is far in advance of Bach in the power of giving character and event, it lacks the organic power of that composer the age of Bach is distinguished by the melodic and the harmonic (elements), which are by far the most important to music. There is no denying that orderly sound is better than chaotic sound, and we hope for a modern Bach who will beautify our music. Probably Bach erred on the intellectual side, just as much as Wagner on the emotional. Still Bach was the teacher of the future. He achieved the result of definiteness of com- position and of exuberance without restraint, which is needed now." Da gennyf gael cadarnhad, mor fuan, oddiwrth gerddor o safle Dr. Davies, i'm gosodiad. Er cadw celfyddyd yn y safle aruchel y bwriadwyd iddi ei chyrraedd, rhaid iddi osgoi amwysedd (vagueness)—o ran ffurf a mater. Rhaid iddi lefaru yn effeithiol wrth y galon ddynol. Nid tegan ddylai fod, eithr moddion i gludo neges calon un i galonau llawer. Dylai y cerddor gofio hyn, a bod yn gywir i'r gelfyddyd urddasol a roddwyd iddo i'w meithrin. JOHN PARRY (Bardd Alaw).—Dyma gerddor mwy o gryn lawer na Bardd y Brenhin, fel y dengys ffeithiau ei hanes. Ganwyd ef yn Ninbych, Chwefror y 18fed, 1776. Saer maen ydoedd ei dad, felly gwelir na chafodd ei eni a llwy arian yn ei enau. Dysgodd chwareu ar y chwibanogl pan yn hogyn. Gwnaeth yr offeryn hwn o gorsen, ac arno dysgodd chwareu holl alawon pob- logaidd y dydd. Dysgodd hefyd chwareu ar y clarionet. Ymddengys iddo gael gwersi yn egwyddorion elfenol cerddoriaeth gan wr yn Ninbych. Oawn ei fod yn chwareu y clarionet yn y gwasanaeth Eglwysig yn y dref. Yn 1793 ymunodd a seindorf Cartreflu Sir Ddinbych, ac yn 1797 penodwyd ef yn arweinydd iddi-prawf ei fod wedi gweithio yn galed gyda'r gan, ac fod ei allu yn cael ei gydnabod. Nid oedd ond 21ain oed pan y cafodd y swydd hon. Dywedir am dano pan yr amadawodd a'r Cartreflu yn 1807, y gallai chwareu ar unrhyw chwythgorn, a'i fod yn lied ddeheuig fel chwareuwr ar y grythen, y berdoneg, a'r delyn! Symudodd i'r ddinas hon yn y flwyddyn 1809, a daeth i sylw mawr fel chwareuwr ar y flageolet. Wele ychydig o'i hanes boreuaf pan y daeth yma :— Pan aethum i Lundain," meddai yn hir ar ol hynny, mewn llythyr at gyfaill, "yr oedd gennyf bron bopeth i'w ddysgu; gan hynny, ymroddais i efrydu o ddifrif, fel y gallwn dd'od a'm gwaith allan heb ryw lawer o wallau goramlwg. Cyfyngais fy hun i gyfansoddiadau lleisiol-caneuon yn bennaf, a darnau hawdd i'r delyn a'r ber- doneg, hefyd ddeuawdau i'r flute a'r chwyth- offerynau ereill, ac ni cheisiais erioed ehedeg uwchlaw fy nghyraeddiadau, gan y gwn yn dda fod llawer o gerddorion yn rhodfeydd uwchaf y gelfyddyd ag ydynt yn llawer mwy galluog na mi i gynyrchu cyfansoddiadau uwchraddol. Yr wyf yn deall anianawd pob offeryn a ddefnyddir yn y gerddorfa felly, anfynych y mae yn angenrheidiol cael re- hearsal gydag un o'm cyfansoddiadau. Gallaf gyfansoddi i'r gerddorfa gyda rhwyddineb neillduol, ac yn weddol gywir, gobeithiaf; yr wyf yn gyfarwydd a gallu y gwahanol offerynau, a byddaf yn ceisio gwybod medr y gwahanol offerynwyr, ac yna yn ysgrifennu ar eu cyfer. Yr wyf, hyd y mae ynnof, yn ymlwybro yn heddychol trwy fywyd, mewn cyfeillgarwch a'm holl frodyr cerddorol, heb ymyraeth a neb, ac, yr wyf yn gobeithio, heb fod yn wrthddrych gelyniaeth un dyn." Dodir y llythyr i mewn yma, gan y credaf y bydd yn dda i bob cerddor ieuanc drysori ei gynnwys yn y cof. Oddiwrth yr hyn ddywed, yr oedd ynddo duedd naturiol gref at gerddoriaeth offerynol; felly cyfyngai ei hun, mewn cerddoriaeth leisiol, i ganeuon yn bennaf. Gwyddai fesur ei allu, a gweith- redai o fewn terfynau rhesymol. Er ym- berffeithio yn yr adran offerynol, dysgodd chwareu ar y rhan fwyaf o'r offerynau. Gwyddai beth ellid ei ddisgwyl oddiwrth bob offeryn, a phur anaml y ceid oddiwrthynt effeithiau nad oeddynt wedi eu rhagdybio ganddo.
[No title]
Ferthyr yn bygwth ymddiswyddo fel protest yn erbyn swyddogion y llys. Byddai hyn yn weithred ffolach fyth! Does neb yn fwy teyrngar i'r Brenin na gweithwyr Cymru, ac yn sicr ni fyddai neb o honynt mor ffol a chefnogi alltud o Scotyn yn erbyn Iorwerth, eu teyrn. Ar yr un pryd rhaid addef mai gweithred ffol i'r eithaf ar ran rhywrai oedd ceisio gwneud y Brenin yn fath o benadur mympwyol, oherwydd mewn oes ddemocrat- aidd fel hon rhaid gofalu rhag cynneu fflam chwyldroad a dyna wneir os caniateir i ymddygiadau o'r natur yma gael eu cyf- lawni yn ddiwrthwynebiad gan uchelwyr ..ein gwlad.