Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
UN o uchelwyliau y Gogledd ar Wyl y Banc yn mis Awst nesaf fydd Eisteddfod Corwen. Mae rhaglen faith o destynau wedi ei pharatoi, a disgwylir amryw o gorau enwog i'r brif gystadleuaeth.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Pa un a'i anwadalwch y tywydd, yntegwen gysurol y Gol. yn ei gadair, oedd yr achos; yr oedd tymer y cwmni ddaeth i'r cyfarfod yr wythnos hon mewn cywair tra beirniadol. Pigo beiau a chwyno oher- wydd rhyw fan bethau oedd neges amryw o'r ym- welwyr, fel pe bae'nt am wneud ystafell y Gol. yn fath o Mecca bererindodol lie y gellir pasio pender- fyniadau diamcan a chwerylgar.' NORICK oedd y cyntaf i daflu ei linyn mesur dros y Gol. i'w gondemnio am wrthod cyhoeddi llith o'i eiddo ar y blaid Gymreig; ond protestiai y doethawr nad oedd y fath blaid yn bod, ac am hynny 'doedd' angen ei beirniadu. MACHRETH oedd y nesaf, a chan godi pastwn enfawr i'w daro ar y bwrdd, wele ef yn galw am wr- du'r wasg i dd'od ymlaen i gael cerydd. Pa reswm, meddai, sydd yn y llinell Apostoliaeth wiliog" yn fy englyn. "Apostolaeth wibiog oeddwn wedi ei. ddweyd, a dyna fyddai'n synwyr hefyd. WOOD GREEN.—Pan welodd y Gol. wyneb Mr. Griffiths yn y dorf gwnaeth ymddiheurad iddo am fod ei lythyr wedi ei gau allan o'r rhifyn diweddaf. 'Does yr un Sant," meddai, all fod yn gyfrifol am waith gwr du'r wasg, neu fe fuaswn i yn myned. Yr oeddwn wedi trefnu lie iddo, ond cauwyd y drws yn ei erbyn o ddiffyg lie. Gwelwch ef yn y rhifyn hwn." ROSSERONIAN yn canu yn bruddaidd am fod y dydd yn byrhau. Cheer up, Rosseronian. Ewch am- dro i'r Franco-British, a chewch weled fod y nos yno yn troi'n oleu dydd. MAELOR.—Drwg gennym i'r wibdaith i Epping Forest droi allan mor anftafriol ddydd Mercher diweddaf. Ond cymerwch gysur gallasai fod yn llawer gwaeth, ac yr ydym wedi cael tywydd rhagorol am rai wythnosau. J. DAVIF-S.-Nid am ei fod yn Sais yr ydym yn siarad ar ran Mr. Roch, ond oherwydd ei ddatganiad o blaid y polisi cenedlaethol yng Nghymru. Pa les i ni os aiff yr Ymherodraeth yn eang a thrystfawr os. na fydd ein gwlad fechan ni ar ei henill. LLINOS WYRE.—Diolch am ychydig o ganmoliaeth- Mae yr hen Bencerdd yn hawlio pob gair o glod ellir ddweyd am dano. A ydych yn paratoi gogyfer a'r Awdl neu'r Goron yn Eisteddfod Llundain ? PICA BACH.—Croesaw i hanes gwyr y Cricket. Rhoddwch hanes yr hyn wneir gennych yn ystod y gweddill o'r tymor.
... BYD Y GAN. \-
BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. MR. DAVID EVANs.-Myned yn y blaen o hyd y mae y Baritone ieuanc o'r ddinas hon. Y mae i ganu yng Ngyngerddau Eisteddfod Llangollen eleni, a hefyd yng ngwyl bwysig Norwich. Bu yn ddiweddar yn canu yng nghyng- erddau y Pavilion, Colwyn Bay; ac yr oedd mor gymeradwy fel yr estynwyd amser ei ymrwymiad. Y mae hefyd wedi trefnu i ganu yno yr haf nesaf. Mewn adroddiad o'i waith yn Colwyn Bay, dywed y Welsh Coast Pioneer: Of the many excellent male singers heard at the Pier Pavilion concerts during the past few years-and these, of course, include some of the very best voca- lists in the country-few, if any, have made so pronounced a success on their first appear- ance here as Mr. David Evans He has a delightfully pure baritone voice of great range, and he uses it to the best possible advantage, without the least apparent effort. Mr. Ffrangcon Davies is reputed to be his teacher, and never was there a clearer case of like master, like man.' Excepting in point of dramatic declamation and physical appearance, Mr. Evans might well be taken for his distinguished fellow-countryman; the voice and method of production are strangely alike He sings with his soul and head as well as voice. CERDDORIAETH A BARDDONIAETH. Mewn Rhagymadrodd i lyfryn yn cynnwys nifer o benillion gan un loan Rhys, darllenais y dydd o'r blaen, sylw o'r eiddo y Proffeswr Anwyl i'r perwyl fod Barddoniaeth Cymru o dan ddyled i Gerddoriaeth fod yr olaf wedi galw i fodolaeth lawer o gynyrchion bardd- onol fyddant fyw yn hir iawn. Nid wyf yn honni bod yn awdurdod o fath yn y byd ar Farddoniaeth, ac nis gwn lawer o'i hanes ynglyn a Chymru eto gwn fod llawer o gynyrchion Ceiriog, Mynyddog, Talhaiarn, Llew Llwyfo, Watcyn Wyn, Eifion Wyn, Morris Jones, Elfed, ac ereill, yn rhai ydynt yn denu y cerddorion i roddi ynddynt ffurf seiniawl. Y maent eisoes mor "ganadwy" fel nad oes eisieu ond y wreichionen o galon y cerddor i beri iddynt synu y byd a'u swynion rhai, fe ddichon, na welodd llygaid y darllenydd mo honynt! Na ddigied y beirdd os awgrymir fod Cerddoriaeth yn abl i wneud mwy o Fardd- oniaeth nag a geir drwy ddarlleniad o honi. Ymddengys i mi-sydd yn edrych ar y mater drwy "wydrau" y cerddor—fod yn bosibl i hynny gymeryd lle-a'i fod yn cymeryd lie yn fynych. Yn y cyfryw am- gylchiad, yr hyn nas gall y Bardd ei wneud, y mae ei frawd, y cerddor, yn ei wneud drosto. Nid ydyw hyn yn syndod yn y byd, pan y cofir y fath ddefnyddiau sydd at law y cerddor i liwio y farddoniaeth. Y mae ganddo foddion i gynyrchu effeithiau am- rywiol iawn ac y mae y cyfryw eto yn amrywio yn ol y nifer a'r math o offerynau a lleisiau a elwir at ei wasanaeth Dichon yr atebir fi fod Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," fel cynnyrch bardd- onol, yn gwbl ddealladwy ac yn ddigon effeithiol ar wahan i unrhyw gerddoriaeth. Byddai ameu hyn yn ameu gallu barddon- iaeth i ddweyd yr hyn a fyn ond nid ydyw perffeithrwydd barddonol ond cydmariaethol, fel pob perffeithrwydd dynol arall; ac er mai anmherfFaith ydyw cerddoriaeth ar ei goreu, y mae wedi hir brofi y gall, serch hynny, helpu i anfon y genadwri farddonol gartre. beth fuasai mesur dylanwad Pantycelyn" yn hanes y Cymry heb y gan ? Llawer iawn llai nag ydyw-fel llawer o farddoniaeth ragorol arall na fu canu arno. MARWOLAETH MR. MALDWYN HUMPHREYS.— Bydd yn chwith gan lawer glywed am yr amgylchiad hwn, gan fod y cantor yn bur gymeradwy drwy Gymru oll. Ers rhai blynyddoedd, modd bynnag, yr oedd wedi ymneillduo, i raddau helaeth, o'r llwyfan Gerddorol, ac yn cadw y Commercial Hotel, Aberystwyth. Fel llawer ereill, aeth drwy gwrs o ddis- gyblaeth leisiol, &c., yn y ddinas hon. Bu o dan Cummings a Randegger. Yn yr R.A.M. enillodd y bathodynau bronze, arian, a& aur, &c. Mewn amser daeth yn Feirniad yn yr R.A.M. ar ereill o ymgeiswyr am wob- rwyon. Bu yn cymeryd rhan yng Ngwyliau Norwich, Bryste, &c. yng nghyngerddau y Palas Grisial; Albert Hall; St. Jamesr Hall, a llu ereill. Bu ar daith yn yr America,. lie y cafodd groesawiad ardderchog. Canodd o flaen y Frenhines Victoria, Tywysog a Thywysoges Cymru. Yn sicr yr oedd yn sefyll yn rheng flaenaf Tenoriaid Cymru yn ei ddydd. Nid oedd ei lais yn nerthol iawn, eto gallai daflu llawer o yni id do. Yr oedd yn llais clochaidd, pur, a swynol. Bu farw ar y 30ain o Fehefin, yn yr oedran gweddol gynar o 51 mlwydd, a chladdwyd ef ar y 3ydd cyfisol ym Machynlleth. CANTAWD TywysOG CYAIIRU.Da iawn ydyw deall fod gwaith swynol Owain Alaw newydd gael ei ganu yn Felinheli, gyda chymeradwyaeth mawr. Dylai y gantawd gael sylw mwy mynych gan y corau. Gellir eu sicrhau fod yn y gwaith hwn lawer o swyn.
[No title]
MAE argraffiad rhad o Ganiadau yr Athro- J. Morris Jones yn awr ar werth. Gellir eu cael oddiwrth y cyhoeddwyr, Mri. Fox a Jones, Kemp Hall, Oxford, am 3/9 gyda'r post.
[No title]
fod o fudd arbennig i ieuenctyd y ddinas am eleni, a sicr y gwna pawb eu goreu i wneud y tymor yn un eithriadol o lwyddianus yn ei hanes. RADNOR STREET.—Bu aelodau Cymdeithas Lenyddol yr eglwys hon am wibdaith i Hampton Court ddydd Iau, yr wythnos ddi- weddaf, a chaed diwrnod eithriadol o haf- aidd i fwynhau'r wyl. Rhoddwyr y bleser- daith hon oedd Mr. a Mrs. Richards, Park Walk, a Mr. P. W. Williams, Earl's Court, pobl sydd yn cymeryd dyddordeb arbennig yn llwyddiant yr achos yn Radnor Street. Daeth rhyw bedwar ugain o'r cyfeillion ynghyd, a threfnid cerbyd trydanol at eu gwasanaeth o Hammersmith. Cyrhaeddwyd Hampton Court ar ol awr o deithio, a chaed nawnddydd pleserus ar lan yr afon yn Hampton i orffen y mwyniant. Rhoddwyd arlwy foethus o de, &c., yn un o'r prif westy- dai, a chaed seibiant yng ngerddi palas henafol Hampton i dynu lluniau'r cwmni er mwyn profi eu hapusrwydd i'r oesau a ddel. Ym mrig yr hwyr dychwelwyd i Hammer- smith, ac ar derfyn y daith talwyd diolch cynnes y dorf i'r rhai oeddent wedi trefnu mor hael a gofalus am gysur y dydd. Nid oes eisieu pryderu am lwyddiant eglwys fel hon os bydd rhai o'r aelodau amlycaf yn gofalu am gysur a diddanwch yr ieuainc a'r dieithr yn eu mysg. Miss LLEWELA DAVIES.—Yr oedd y cyng- erdd a drefnwyd gan y foneddiges hon yn un o'r gwleddoedd goreu a gaed ers talm gan dalentau cerddorol y ddinas. Yn un peth, nis gallai ond ychydig o blant y gan anturio rhoddi cyngerdd ar brydnawn yn yr wythnos. Pobl y nos ydym ni, Gymry, bron yn ddieithriad. Ond apeliai Miss Davies yn bennaf y tro hwn at ei chefnogwyr Seisnig, ac i'r perwyl hynny rhoddwyd palasdy Arglwydd Sutherland at ei gwasanaeth. Daeth llu mawr o urddasolion yno i wrando ar Miss Davies yn dangos ei medr ar y berdoneg, ac i glywed y cantorion oedd yn ei chynorthwyo. Yr oedd yr oil wedi dewis darnau clasurol, a chanasant yn rhagorol. Am Miss Davies ei hun, gwnaeth ei rhan fel y medr hi, ac fe wyr pawb am dani bellach ei bod yn un o'r goreuon sydd gennym ar y berdoneg. BATTERSEA RISE.-Myned ar gynnydd y mae yr eglwys uchod, yn araf, ond nid yn llai sicr serch hynny. Mae y cyfeillion yn y lie yn gweithio yn ddygyn, a phawb ar eu goreu i wneud cymaint ag a allant er her- wyddo yr achos da. Nos Saboth diweddaf, y 5ed o Orffenaf, anrhegwyd yr eglwys yn y lie a llestri Cymundeb newyddion gan un o garedigion yr achos, sef Mrs. David Evans, Henderson Road a gallwn ddweyd eu bod yn deilwng iawn o Mrs. Evans, yn ogystal a'r gwrthrych er coifadwriaeth i'r hwn y maent wedi eu cyflwyno i ni, sef ein diweddar gyfaill, Mr. David Evans. Bu Mr. Evans yn ifyddlon a gweithgar iawn gyda yr achos yn Battersea Rise o'r cychwyniad, a cholled fawr i ni oedd ei golli mor ddisyfyd tua blwyddyn yn ol. Mae yn dda gennym feddwl, er hynny, fod eu briod yn parhau i weithio eto mor egniol ag erioed. A dyma brawf ychwanegol at liaws o brofion ereill o'i haelioni a'i chariad at yr achos. Mae yr Eglwys yn y lie yn teimlo yn ddiolchgar dros ben iddi am y rhodd hwn, ac ar yr un pryd yn dymuno am nodded y nef iddi hi a Miss Owen am flwyddi lawer i wasanaethu y Meistr. D.E.T.