Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Gohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebiaethau. HELYNT WOOD GREEN. At Olttgydd CYMRO LLUNDAIN. SYR,-Yn eich rhifyn diweddaf ymddangosodd nodyn o dan y penawd uchod, yr hwn, mewn dau beth o leiaf, sydd a thuedd ynddo i gamarwain eich darllenwyr. Dymunaf eich caniatad i'w cywiro ar fyr eiriau. (1) Yn y modd mwyat pendant y gwadat tod un- rhyw anghydwelediad poenus" (nac arall) wedi bod ym mhlith aelodau Eglwys Wood Green fel y cyfryw. (2) Ni ddewiswyd Mr. Nathaniel J. Evans erioed i fod yn flaenor yn Eglwys Wood Green.—Ydwyf, Syr, yr eiddoch, R. GRIFFITHS, Mehefin 30ain, 1908. Ysgrifennydd yr Eglwys. [Tra'n diolchl i Mr. Griffiths am y "cywiriad" uchod, nid yw ond teg a'n darllenwyr i ni ddatgan ar yr un pryd mai hannerog yw yr eglurhad. Yn adroddiadau swyddogol y C.M. gosodwydMr. N. J, Evans fel blaenor yn eglwys Wood GreeD. Nid .oes a fynnom ni pa le ei dewiswyd yn flaenor, .digon yw cydnabyddiaeth y C.M. mai blaenor yn Wood Green ydoedd. Ac mae'r gwadiad na fu anghydwelediad poenus yn Wood Green yn groes i gofnodion y C.M., yr hwn a ddanfonodd is-bwyll- gor i'r eglwys er mwyn gwneud ymholiadau lleol. Felly na rodder y bai am yr anghywirdeb ar ysgwyddau y CELT; ni wnaethom ni ddim ond cofnodi ffeithiau swyddogol y cyfarfod misol.- GOL,]

MOLAWD

MAE'R DYDD YN BYRHAU.

[No title]

Advertising