Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE CENTRAL I-I INSURANCE COMPANY, LIMITEO. GUARANTEED BY THE 3tibrtrpoot anir Wrrnbon aufr dloiis Insurance Ota. Assets exceed ° = = £ 11,000,000. FIRE. BURGLARY. WORKMEN'S COMPENSATION. I PERSONAL ACCIDENT. THIRD PARTY INDEMNITY, Including Driving Accidents. PLATE GLASS, &c. | "JB KINDL Y § Special attention is called to the Company's FORE- I 1 MOST" Personal Accident & Disease Policy, which a WRITE FOR provides for Free Medical Attendance of Assured's nnA^nr^Tiic own Doctor, in addition to the usual Compensation PROSPECTUS FOR ACCLDENTS AND DISEASES. I Branch Office for THE LIVERPOOL & LONDON & GLOBE for LIFE — "mmi INSURANCE. Head Office 1, CORNHILL, LONDON, E.C. HUGH LEWIS, Manager & Secretary. _11-
YR HEN GWYN.
YR HEN GWYN. Mae'n hen stori nad oes i'r Cymro gyfiawn- der yn ei wlad ei hun. Rhaid iddo ddioddef ei gospi yn ami am mai Cymro unieithog yw, a chaed engraifft arall o hyn yn Rhuthin ddydd Llun diweddaf. Cymro unieithog oedd un o'r personau a gyhuddid yn y llys, ond Saeson oedd yr ynadon. Gofynodd y Cymro am gael rhoddi ei dystiolaeth yn Gymraeg, ond ni roddid caniatad iddo heb iddo yng nghyntaf dalu costau'r cyfieithydd Paham y dylid gosod y baich o dalu am gyfieithydd ar Gymro yn ei wlad ei hun, nia gwyddom. Os mai er budd yr Ynadon Seisnig a'r cyfreithwyr Seisnig y gelwid am wasanaeth cyfieithydd, onid hwy ddylasent dahi am dano? Mae'r Saeson yn ddigon parod i ddweyd mai ein dyledswydd ni yw dysgu Saesneg er eu budd hwy, ond credwn ei bod yn hen bryd i ni yng Nghymru i newid y stori, a gofyn ar i'r Sais ddysgu'r Gymraeg, yn ogystal a symud y man wahaniaethau yma a'r rhwys- trau diachos a osodir ar ffordd y Cymro unieithog ar bob amgylchiad. Beth pe bae ein haelodau Seneddol yn nhymor eu di- frawder yn cymeryd at bwnc o'r fath ? Oni fuasai yn rhywbeth i gadw eu bodolaeth yn wybyddus i'r cyhoedd yn yr hen wlad ? Hwyrach y daw Mr. J. D. Rees a'r mater ger bron un o'r dyddiau nesaf yma ? Os gwna, pob llwydd iddo!
[No title]
DADOROHIJDDIWYD cof-golofn i'r bardd Tafolog yng nghladdfa Machynlleth dydd lau diweddaf. Mae yn golofn hardd, ac yn gerfiedig uwchben enw'r bardd mae y nod cyfrin, gyda'r frawddeg Goreu Dawn, Dawn Awen ac islaw yr enw coffa y mae englyn beddargraph o wneuthuriad Tafolog ei hun. Wele'r englyn Heibio'r haul, o'm corph breulyd-i gana Esgynodd fy ysbryd; Yma hunaf am enyd, Nes daw y farn, -Nos da fyd. CANWYD dau neu dri o emynau Tafolog wrth ddadorchuddio ei gofadail ym Machyn- Ileth dydd lau. Wele un ohonynt:— O ardaloedd uchel ddydd, Hyfryd bresenoldeb Duw Yno mae trysorau ffydd. Yno mae ein Iesu'n byw: Man cyfarfod seintiau'r byd 0 bob oes ac o bob gwlad Dyna'r unig gartref clyd, Dyna ddedwydd Dy ein Tad. Y MAE Mr. Humphrey Roberts, B.A., mab i Mrs. Roberts, Bryntirion, Abermaw, wedi ei benodi gan Bwyllgor Aadysg Lerpwl i ddysgu y Gymraeg yn y dosparthiadau a gynhelir y gauaf nesaf yn y ddinas honno.
PERTHYNAS CYMRU A SWYDDFA…
PERTHYNAS CYMRU A SWYDDFA GYHOEDDUS Y COFNODION. [Gan Huw J. Huws, Ysgrifennydd Cymmro- dorion Caerdydd]. Mabwysiadwyd y penderfyniad canlynol gan Gynghor Cymmrodorion Caerdydd mewn cyfarfod yn ddiweddar :— "Yn herwydd fod camgymeriadau mewn adysgrifennu ac adnabod disgrifiadau Cym- reig, ac mewn ysgrifennu enwau lleoedd ac enwau personau yn Rhestrau'r Rolls' ddygir allan gan Swyddfa Gyhoeddus y Cofnodion Llundain-camgymeriadau sydd yn amlwg yn codi oherwydd diffyg gwybod- aeth o'r Iaith Gymraeg, a chan fod yn Swyddfa y Cofnodion bentyrau lawer o bapurau heb eu rhestru a adnabyddir fel cofnodion Cymreig, fod yn bwysig iawn sicrhau yn ddiymdroi wasanaeth ysgolhaig hanesyddol Cymreig, ac i'w enw gael ei ychwanegu at restr swyddogion sefydlog swyddfa y Cofnodion Cyhoeddus." Mae gwaith gwych yn cael ei wneyd gan Swyddfa y Cofnodion Cyhoeddus, a throir allan restrau a chofnodion yr edrychir arnynt fel safon Hanes, ac ystyrir hwynt yr awdurdod uwchaf ar darddiad a ffynhonell hanes Prydain. Yn y maes eang a chyn- hwysfawr hwn y cafodd Haneswyr goreu'r Deyrnas Gyfunol eu ffeithiau, ac ar y rhai hyn yr adeiladwyd y gweithiau safonol ar hanes y wlad. Tra y deil myfyrwyr hanesyddol Cymreig yr un edmygedd a pharch tuag at y rhestrau a'r cofnodion hyn, eto i gyd rhaid dweyd fod y cofnodion ymhell iawn o fod yn gywir, ac felly yn colli eu gwerth pan yn ymwneyd a hanes Cymru ac enwau lleoedd a phersonau Cymreig. Nid oes odid i gyfrol ddaw allan nad yw yn dryfrith o gamgymeriadau, un a'i mewn adysgrifenu neu mewn adnabyddiaeth o enwau Cymreig. Maent mor llawn o gamgymeriadau fel ag i wneud y cyfrolau hyn yn gwbl ddiwerth i bawb ond myfyrwyr Cymreig, ac mewn ami i gyfeiriad maent yn hollol gamarweiniol. Mae wrth fy llaw dair neu bedair beirniad- aeth, a'r rhai hyn yn llym iawn, ar y dull anfoddhaol yr ymwneir a'r cofnodion Cym- reig. Mi a gymeraf un a ymddanghosodd yn yr English Historical Review, y cyhoeddiad safonol Hanesyddol uwchaf yn Lloegr. Ysgrifenna'r beirniad hwn yn 1893 fel a ganlyn -"Mae Cymru, yn y mater o ad- ysgrifenu Enwau Lleoedd, yn cael ei thrin mor ddrwg fel mai gresyn na fuasai gwas- anaeth ysgolhaig profiadol wedi ei sicrhau er unioni'r cam (E. H. R., cyf. 8, tud. 135-140). Gellid yn hawdd ychwanegu dyfyniadau tebyg. Rhaid cofio, hefyd, mai gwr o Sais ysgrifenodd y feirniadaeth uchod, ac nis gall beirniaid Seisnig ond pigo allan y ddeg- fed ran o'r brychau a'r camgymeriadau sydd yn amlwg i'r ysgolhaig Cymreig. Nis gellir ychwaith ddweyd fod y camgymeiiad- au yn lleihau fel yr a'r gwaith o gofreatru rhagddo, canys mae'r cofnodion yn ymwneud a Chymru yn y gyfrol ddiweddaf gyhoedd- wyd (cyf. 2 o'r Calendar of Charter Rolls ") mor llawn o frychau nes bod yn Hinder ysbryd i'r Cymro a'i darlleno, ac mae'r eglurhadau roddir y fath nes y camarweinir pob myfyriwr, nad yw Gymro, hyd ddiwedd amser. Nid ydym ar un cyfrif yn taflu anair ar y gwyr dysgedig fu'n casglu'r wybodaeth vnghyd. Na, mae'r parch a'r clod uwchaf yn ddyledus iddynt am eu gwaith yn gyffredinol. Ond y mae'r dull o ofyn help a gwasanaeth y Cymro hwn nea arall a ddigwydd ymweled a'r Swyddfa, ac a dybiant hwy sydd yn hyddysg mewn Enwau Cymreig, wedi profi. yn fethiant dybryd, a pha ryfedd! Ni wna dim y tro ond cael gwr dysgedig a phrofiadol mewn Hanes Oymreig yn sefydlog yn Swyddfa y Cofnod-