Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU LLENYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU LLENYDDOL. Ychydig amser yn ol yr oeddwn yn cyfeirio at gynnyrch y wasg Gymreig ynglyn a llyfrau ysgol, ac er fod cyfres helaeth o lawlyfrau ar wahanol faterion wedi eu troi allan eisoes, rhaid addef nad yw'r gwaith ond megys yn dechreu. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cydnabod fod angen am ychwanegiad yn y maes hwn, a deallaf fod ym mwriad pwyllgor Llundain roddi gwobr am lawlyfr arbennig ynglyn a dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol. Bydd yn ddyddorol gweled a lwyddir i gael gwaith fydd yn rhagori ar y man weithiau sydd eisoes at wasanaeth ein hathrawon ac os ceir, bydd yn werth rhoddi cybceddusrwydd iddo ar fyrder. Tra yn son am lyfrau ysgol wele sypyn i law o weithiau diweddaraf gwasg Mr. Southall, o Gasnewydd ar Wysg. Gwyr pawb sydd yn ymwneud ag addysg yng Nghymru faint mae Mr. Southall wedi lafurio ar ran cael yr iaith Gymraeg i'n hysgolion dyddiol. Er mai Sais yw, y mae wedi bod yn fwy pybyr bron dros y mudiad nag a fu ein cenedlaetholwyr mwyaf selog. Ac i gadarnhau ei safle y mae wedi cyhoeddi nifer o lawlyfrau addas i ysgolfeistri ac ereill ar y pwnc. Ymhlith ei gynnyrchion diweddaraf ceir The Latin Element in Welsh, sef llawlyfr bychan yn nodi'r fath doraeth o eiriau Cym- raeg sydd wedi eu dyfynu o'r Lladin. Y mae hyn i'w briodoli yn bennaf i deyrnasiad y Rhufeiniwr ym Mhrydain; a chan mai Lladin oedd yr iaith a arferid ganddynt yn swyddogol, nid syndod fod y fath nifer o enwau a chyfeiriadau Lladinaidd wedi aros yn ein hiaith. Yr awdwr yw Mr. S. J. Evans, Llangefni, gwr ag sydd ynawdurdod ar ramadeg y Gymraeg ac yn un a haedda ganmoliaeth am ei lafur parhaus ar ran yr iaith yn ein hysgolion canolradd. Welsh Lyrics. Wele argraffiad poblogaidd o delynegion Cymreig wedi eu cyfieithu i'r Saesneg gan y Parch. E. 0. Jones, Llanidloes. Nid oes eisieu canmol gwaith Mr. Jones fel cyfieith- ydd, oherwydd y mae yn cael ei gydnabod bellach fel un o'r rhai goreu feddwn yn y maes hwn. Da gennym weled argraffiad rhad o'r telynegion, ac er hwylusdod i'r plant, y mae byr-fvwgraffiad o'r awdwyr wedi eu gosod ynglyn a'u gweithiau. Gall y plentyn ysgol weled trwy gyfrwng gwaith fel hwn fod yn ein llenyddiaeth, wedi'r cyfan, rhywbeth gwerth ei gadw mewn cof. Dringo'r Andes. Mae gwaith dyddorol Eluned Morgan wedi ei ddwyn allan am swllt! Gwna lyfr dar- llen addas iawn i blant Cymru. Gwisgir y disgrifiadau o'r Andes mewn iaith mor syml, a swynol, gan Eluned, nes pery i ni feddwl mai teithiau ymysg rhai o gymoedd a bryniau rhamantus yr hen wlad sydd yn cael eu disgrifio. Da gennym ddeall fod yr awdures ar ymweliad arall a'r hen wlad, ac fod yn ei bwriad i aros yma hyd nes yr a Eisteddfod Llangollen heibio. Glamorgan. Dyma un o'r cyfrolau mwyaf dyddorol ac addysgiadol sydd wedi dod allan o'r wasg Gymreig yn ddiweddar. Hanes a disgrifiad o Sir Forganwg yw'r gyfrol, a ffrwyth un o gystadleuthau yr Eisteddfod Genedlaethol. Mr. A. Morris, F.R.Hist.S. yw'r awdwr, ac y mae wedi llwyddo i roddi un o'r disgrifiadau mwyaf dyddorol sydd gennym o Sir Forgan- wg a'i phobl. Er mai at wasanaeth yr efrydydd cyffredin y bwriedir y gyfrol yn bennaf, y mae yn y gwaith olion ymchwil ac astudiaeth manwl, a haedda le yn llyfrgell yr hanesydd yn ogystal ag ar fwrdd y plentyn ysgol. Cyflwynir y gwaith i aelodau Cymdeithas Morganwg Llundain, ac nis gellid ei chyflwyno i garedigion mwy cywir o'r hen Sir. Pe caem hanes pob Sir yng Nghymru ar gynllun llwyr fel hwn ni fyddai angen gofidio nad yw hanes Cymru wedi ei gael. Ar wahan i'w werth hanesyddol y mae yn llyfr darllenadwy ddigon, ac wedi ei droi allan yn ddestlus o swyddfa Mr. Southall. Yn sicr y mae llenyddiaeth Cymru tan ddyled neillduol i wasg Cas- newydd am y cyfrolau rhagorol a droir allan oddiyno. Alawon Cymru. Ymddangosodd y delyneg a ganlyn yn y Westminster Gazette ddydd Sadwrn diweddaf Adieu, My Dear Cambria. (A New English Version.) Farewell to thee, Cymru, Farewell, my own mountain, Farewell, sparkling fountain, Green fields of my flock! And woods where in boyhood I wandered, beholding The heath-flower unfolding, The ash-leaf unlock. My ship's on the shore- And, alas we must sever My grief that I ever Should sail the far seas! Farewell! my fond mother, All mothers excelling, Adieu! dear old dwelling Hid up in the trees. In hoar Ocean's ear How our brook seems to whisper 0 say shall he prosper, Safe home shall he fleet ? With hands full or empty There shall he stand knocking, Till dear ones come flocking Their exile to greet?" Then let Cymru's breezes, Fresh caught from the billow, Again lull my pillow, Again light my cheek, Until for the long rest I'm ready, I'm ready And with my tired body Her bosom I seek. Alfred Perceval Graves.

[No title]

Advertising

Am Gymry. Llundain.