Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
IB. T. PRICE, cBwifdct", Sanitaxu &uiiueef &e. 5, LOUVAINE ROAD, BATTERSEA, S.W., is prepared to undertake Contracts in all kinds of Building Work. Alterations, Repairs, Decorations, Shop Fitting, Sanitation. — ESTIMATES FREE. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Waleh PRESIDENT—The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). rnHE next Term begins in September, 1908. A J_ number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, ;£10 with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, El. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar.
Y CYNHAEAF CYNTAF.
Y CYNHAEAF CYNTAF. Dydd Sadwrn diweddaf cauwyd drws Ty'r Senedd am dros ddeufis o amser, a ffodd yr aelodau i bedwar cwr y ddaear i chwilio am seibiant a thawelwch. Ar derfyn y tymor, priodol yw taflu cipdrem dros y gwaith gyflawnwyd ganddynt; ac er fod y rhestr ar y cychwyn yn edrych braidd yn siomedig,. rhaid addef mai nid tymor diffrwyth fu, er cymaint y siomedigaethau. Dim ond un mesur mawr a lwyddwyd i wneud yn ddeddf, ond y mae hwnnw yn un chwyldroadol. Peth hawdd yw siarad am roddi blwydd-dal i'r hen a'r methedig; ond, pan aed i geisio rhoddi'r egwyddor mewn gweithrediad, caed fod llu mawr o anhawsterau ar y ffordd ac er i'r Arglwyddi geisio cwtogi ar y cynllun, llwyddwyd yn y diwedd i yrru y cyfan drwy'r ddau Dy, a chael bendith y Brenin ar y Mesur cyn ymwahanu. Caed cynhaeaf toreithiog o fan fesurau yn ystod yr amser, ac mae nifer y mesurau a osodwyd ar Ddeddf-lyfrau y wlad yn agos i gant-a-hanner er pan y caed araith y Brenin ddechreu'r flwyddyn. Y drwg yw fod y rhai mwyaf pwysig wedi eu gohirio hyd y Tymor Hydrefol, a disgwylir cryn lawer o ddadlu yn ystod misoedd y gauaf, cyn y daw Mesur y Trwyddedau, ac un neu ddau ereill, drwy y ddau Dy. Beth bynnag fydd tynged y Mesurau hyn yr ydym wedi cael prawf digonol eisoes nad yw Ty'r Cyffredin yn abl i sicrhau deddfau sy'n unol a barn y wlad tra y mae cyfan- soddiad y Ty uchaf yr hyn ydyw. Ar eu gwaethaf y bu raid i'r Arglwyddi dderbyn Mesur y Blwydd-dal i'r hen, ac ar eu gwaethaf eto y bydd raid cael deddfau i ymwneud a lleihad Trwyddedau yn y deyrnas. Pa un a yw Ty'r Cyffredin yn ddigon cadarn i hyn o waith nid oes ond amser yn unig all brofi, ond y mae'n rhy hwyr o'r dydd i'r Rhyddfrydwyr i wneud un math o gytundebau ar y prif fesurau hyn. Mae gormod o fargeinio wedi bod eisoes ar ami i gwestiwn, ac os ydym am i'r blaid gadw ei safle a'i pharch ymhlith y gweith- wyr rhaid iddi roddi prawf ei bod o ddifrif gyda'r materion hyn. Hyderwn y ceir digon o undeb a digon o wroldeb i wthio Mesur y Trwyddedau drwy y Ty isaf yn ddiymdroi ar ddechreu'r tymor Hydrefol, ac os gwneir hyn daw'r wlad i weled mai yn y blaid Ryddfrydol, wedi'r holl siarad, y gorwedd iachawdwriaeth y bobl.
-_-"----____-----__---NODIADAU…
NODIADAU LLENYDDOL. Beirdd Newydd a Hen. Dyma dymor y beirdd ac adeg yr Eistedd- fod Genedlaethol. Yn Awst mae rhyddid i'r hil farddol i ganu faint a fynont, oherwydd mae'n hen arfer i'r awen siomedig gael ei ffordd ar ol colli yn yr ymdrech am y gadair neu'r goron. Eleni mae'r Eisteddfod ychydig yn fwy diweddar nag arfer, er hynny wele'r Geninen Eistcddfodol wedi gwneud ei hymddangosiad gyda'i phrydlon- deb nodweddiadol. Ac ni fydd raid i'r un bardd fynychu'r wyl flynyddol ar ol darllen hon. Mae yma ddigon o farddoniaeth o bob math nes gyrru llenor cyffredin i gyhoeddi anathema uwchben y mil englynion sydd megys yn britho ei thudalenau. 'Does ryfedd fod Eifionydd ei hun yn englynwr mor dda ac yn gynghaneddwr mor rhwydd oherwydd pe bae wedi gwneud dim ond darllen y rhai hyn byddai pob asgwrn o hono yn clecian y mesurau caethion wrth gerdded yn ol a blaen i'r swyddfa. Ond nid englynion yw'r cyfan sydd ynddi. Ceir yma lu mawr o riangerddi pryddestau, telynegion, cywyddau ac awdlau a'r oil yn gynnyrch y fath amrywiaeth o feirdd nes gellir dweyd gyda phriodoldeb, Wele Fynegai i feirdd Cymru heddyw Agorir gyda phryddest ar "Morfa Rhianedd," o waith Bryfdir, buddugol yn Llandudno yn 1908, a'r darn maith nesaf sydd yn canlyn yw cywydd o waith Morwyllt a enillodd y gamp yn 1869, a gellir gosod y naill a'r Hall fel pegynau i ddynodi dyddiadau cynnwys y gweddill. Yma rhoddir pryddest goffa y diweddar Barch. W. Ryle Davies, ar yr hon yr enillodd Rhuddwawr yn Llundain, 1902, ac yma hefyd gwelir Cywydd y Mynydd," gan Feren, ac un i'r Gobenydd gan Fethel. Ond beth am yr englynion ? Y maent mor amrywiol a doniol a dim yn y gyfrol. Edrycher ar y rhain ar y Y Fran Wen "— Y fran wen! myn gafr, un hyndd-yw hi Mewn awyr, glep barod, Wibia i achwyn am bechod Neu i daenu bai nad yw'n bod. Anelwig yw dan haulwen-neu gwaeau Tragywydd ga'i haden; Nid oedd heb ei da ddiben Fawr iawn o heed ar fran wen
HEN GERDDORION CYMRU.
HEN GERDDORION CYMRU. MOSES DAVIES, MERTHYR TYDFIL. Wele enw cerddor yr ydwyf yn lied sicr na chlyw- odd mwyafrif ddarllenwyr y CELT erioed am dano. Bu Rhagluniaeth yn garedig iawn tuagat ein gwlad pan anrhegwyd iddi y baban gafodd yr enw Moses Davies-nid yn o m irlrlrt noul,nn un lialoofli ot. LUClill U CO LA J. 1U.\AV/ gJXIUIUU J llV/JLUVUil. UV gerddoriaeth ei oes, ac fod ei gynnyrch yn werthfawr iawn, eithr am mai tad ydoedd i William Davies, Mynorydd," merch yr hwn ydyw yr enwog Mrs. Mary Davies, ein Pencerddes. Er fod Merthyr yn lie mor enwog yn hanes dadblygiad "y Gan," yng Nghymru, nis gall honni Moses Davies fel ei phlentyn yn gyfangwbl, canys ganwyd ef yn Defynog, Sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1799. Symudodd ei rieni i Ferthyr pan ydoedd ein gwrthddrych yn bum mlwydd oed. Dechreuodd astudio cerddoriaeth pan yn ddeunaw mlwydd oed, ac ni fu yn hir cyn dechreu cyfranu ei wybodaeth i ereill, canys cynhaliai ddosbarthau cerddorol yn y lie. Dywedir yr arferai gardiau paentiedig i egluro nodau, &c., i'r efrydwyr. Pan yn 28ain mlwydd oed dewiswyd ef yn arweinydd y canu yng nghapel mawr Pontmorlais. Yno gwnaeth gyfnewidiad pwysig yn y dull o ganu, peth fuasid wedi ei ddwyn oddiam- gylch yn hwyr neu hwyrach gan arall, ond y cerddor hwn a'i gwnaeth ym Mhontmorlais. Yr oedd yn arferiad y pryd hynny i'r merched ganu rhan y tenor, ac iddynt hwythau ganu rhan y sopranos. Penderfynodd Moses Davies fabwysiadu y dull presennol o ganu; ond, drwy hyn, syrthiodd allan a'r hen arweinydd, a rhoddodd ei swydd i fyny. Ar gais yr eglwys ymgymerodd a hi drachefn yn 1834, a buan y sylwid fod gwelliant mawr yn y canu. Caraswn wybod am ba hyd y bu yn ei swydd cyn mabwysiadu y dull newydd o ganu. Ceir fod yr hen arwein- ydd wedi dal ati," gan gadw y cerddor hwn allan o'r swydd am rai blynyddau. Mor araf y mae hen arferion yn marw, onide ? Yr oedd Moses Davies yn selog gyda'r adfywiad dirwestol ym Merthyr. Ffurfiodd gor dirwestol yno, a dysgodd ddarnau pwr- pasol i'r mudiad ymdeith-donau, &c. Byddai hefyd yn dysgu canu yng nghapel Seisnig y Bedyddwyr ar y pryd. Yr oedd ganddo hefyd ddosbarth egwyddorol yn ysgoldy cenedlaethol Dewi Sant. C) Yn 1842 daeth i Lundain, er mwyn man- tais i'w ddau fab, pa rai aethant i astudio yn y Somerset School of Design. Ar ol chwe' blynedd dychwelodd i Ferthyr, a bu unwaith eto yn Arweinydd ym Mhontmorlais; ond nid hir y parhaodd yn y swydd, canys o herwydd ymyraeth "cythraul y canu," neu ryw gythraul bychan arall, ymadawodd Mr. Davies a'r Methodistiaid, ac aeth yn aelod o Eglwys Dewi Sant, lie y bu yn arweinydd y gan am rai blynyddau. Bll farw yn 1866, yn 66 mlwydd oed, ac y mae ei gorph yn gorwedd yng nghladdfa Cefn- coedycymer. Yr oedd yn gyfansoddwr a hawliai tua dwy-ar-hugain o donau cynulleidfaol. Ceir rhai o honynt yn y casgliadau canlynol Bremhill," yn Caniadau Seion (Mills). Tiverley," yn Telyn Seion (Beynon). Corinth," Soar," Pontrobert," Maes- plwm," India," Portmadoc," a "Yates- bury," yn Haleliwia (Caerfyrddin). Nis gwn a oes gymaint ag un o'r tonau hyn mewn arferiad y blynyddau hyn ond buont yn wasanaethgar yn eu dydd—dydd y pethan bychain, heb ba rai ni fuasem yn yr ystad yr ydym ynddi yn bresennol. PEDR ALAW.