Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

. EISTEDDFOD CAERDYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD CAERDYDD. Cor Llundain yn Ennill. Buddugoliaeth Ardderchog. Eisteddfod fawr Caerdydd oedd prif gynulliad byd y gan yn ystod Gwyl y Banc. Yr oedd hyrwyddwyr y mudiad wedi gwneud ymdrechion egniol i sicrhau gwyl lwydd- iannus, a chan fod y cystadleuon i barhau am ddau ddiwrnod, yr oeddent i ryw fesur i'w cyfiawnhau am ei galw yn Semi-National Eisteddfod. Profodd y cynulliadau ddaeth ynghyd fod dyddordeb cyffredinol yn cael ei gymeryd yn yr Eisteddfod, ac mae'r ffaith fod rhai o gorau enwocaf y Deheubarth wedi cystadlu yno yn dystiolaeth o'r safon uchel a .ddisgwylid gyrraedd yn yr Wyl. Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn pabell eang yn Cathays Park-y babell oedd wedi ei threfnu yno ychydig wythnosau yn ol gogyfer a'r Arddangosfa Iechyd fu yn y ddinas. Llywyddwyd yn y cyfarfodydd ddydd Llun gan Syr Alfred Thomas, A.S., a Mr. Henry Radcliffe, ac arweiniwyd gan y ddau arwr eisteddfodol, Mabon a Cynonfardd. Beirniaid y canu oeddent Dr. S. Coleridge Taylor, Mr. D. Emlyn Evans, a Dr. Roland Rogers a chan mai Eisteddfod gwyr y gan yn unig ydoedd, ar eu hysgwyddau hwy y syrthiodd holl waith y ddau ddiwrnod. Ar y dydd cyntaf cafwyd wyth o wahanol gystadleuthau, a bu hyn yn ddigon i gadw'r arweinyddion a phawb yn llawn "mynd" am dros wyth awr o amser. Yn odfa'r boreu ni chaed cynulliad mawr iawn, oherwydd yr oedd y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr a'u cyfeillion yn y gwahanol ragbrofion a gynhelid yn y neuadd drefol a lleoedd ereill. Ond erbyn adeg y cynull- iad prydnawnol, yr oedd y pum mil seddau oil yn llawn. Daeth saith 0 gorau i'r ail gystadleuaeth gorawl-o 50 i 60 o leisiau-sef Barry, Treorci, Pontnewydd, Grangetown, Briton Ferry, Tonyrefail, a Penygraig. Canasant oil yn hynod o swynol, ond y goreu oedd Briton Ferry, a chawsant y wobr o Jb25. Am chwareu ar y berdoneg, goreu Mr. L. Mott, Cheltenham, allan o 16 o ymgeiswyr. Canwyd alawon ar y delyn gan Mr. Tom Bryant ar derfyn odfa'r boreu, a mawr fwyn- hawyd ei ddetholiadau. Dechreuwyd y cynulliad prydnawnol trwy gael can yr Eisteddfod Gwlad y Gan," gan Mr. Gwynne Davies, Llundain, a thraddod- odd Syr Alfred Thomas araith ar werth yr hen sefydliad. Ar ol hyn caed amryw o gystadleuon ar unawdau, y rhai a enillwyd fel a ganlyn- Unawd Tenor, Mr. Gwilym Price, mab i Rhedynog Price, a rhoddwyd cymeradwy- aeth uchel i Mr. A. R. Lewis, Treforris. Unawd Soprano, Miss Elizabeth Hall, Burry Port. Pedwarawd, Miss E. Hall a'i chyfeillion, o Caerdydd. Unawd Baritone, Mr. Tom Lewis, Hen- goed. Her-Unawd agored, Madame Edith Gunter Lewis, o Abertillery. Yr oedd yn agos i chwech o'r gloch cyn y Ilwyddwyd i ddechreu ar waith Y BRIF GYSTADLEUAETH GORAWL, 'c er fod tri o gorau i vmgeisio, ni chwynai'r gwrandawyr am ddiweddarwch yr amser. Y prif ddarnau oeddent Come with torches (Mendelssohn), a My love dwelt in a northern land (Elgar), a rhoddid gwobr o gan gini i'r buddugol, ynghyd a medal aur i'r arweinydd. Canasant yn y drefn a ganlyn:—1, Cor Undebol Rhymney (Mr. John Price); 2, Cor Cymry Llundain (Mr. Merlin Morgan) 3, Cor Caerdydd (Mr. Roderick Williams). Rhoddwyd datganiad campus gan Gor Rhymney i ddechreu'r gystadleuaeth, ac yr oedd yn eglur y byddai'n rhaid wrth ganu uwchraddol i guro'r fath ddatganiad. Pan wnaeth Cor Llundain ei ymddangosiad ar y llwyfan, rhoddwyd iddo groesaw byddarol, a gwnaed cyfeiriadau hapus atynt gan Mabon, yr arweinydd. Ni wyddai neb beth oedd defnydd y c6r hwn, gan mai ieuanc ydoedd, ac heb wneud un gwrhydri cenedlaethol fel y ddau arall. Canasant y glee i gychwyn, a gwelwyd ar unwaith fod yna ddefnydd penigamp ynddo, a phan orffenasant mewn perffaith gywair yr oedd yn amlwg ei fod yn bwriadu gwneud cais am y wobr. Yn y chorus mawr profasant eu hunain yn wir feistriaid y gain, a phan orffenasant yr oedd y gymeradwyaeth yn gyffredinol, a phawb wedi eu synnu gan gyfoeth y lleisiau a'r modd y disgnfiwyd y darn ganddynt. Yn olaf, daeth c6r enwog Caerdydd, ac er yn gyfoethog o ddefnydd a Ilais, eto teimlid nad oeddent wedi rhoddi portread digon byw o'r ddau ddarn, fel ag a wnaed gan y ddau arall. Traddododd Dr. Coleridge Taylor ei feir- niadaeth ef a'i ddau gydfeirniaid, a llawen- ychai wrth glywsd y fath ganu mor ragorol. Canmolodd y tri chor yn fawr, ond dywedodd fod yn rhaid iddynt roddi'r wobr i'r c6r oedd wedi rhoddi'r cyflwyniad goreu o ysbryd y darnau a genid ganddynt. Yn eu barn unfrydol hwy, yr oedd Cor Llundain ar y blaen, a phan wnaed hyn yn hysbys yr oedd y gymeradwyaeth yn eithriadol, a bu rai o fechgyn y c6r am gadeirio Merlin yn y man. Llongyfarchwyd hwy gan bawb o wyr y gan yn y Deheudir, a chafodd Mr. Merlin Morgan glod uchel am ei ddull dihafal o gyflwyno'r darnau a'r "ysbrydiaeth" oedd wedi ei lwyddo i ennyn ym mhob aelod o'r cor. Er fod y nifer yn llai na'r ddau ereill, eto llwyddasant i wneud argraff hynod ffafriol ar bawb drwy gyfoeth a phurdeb eu lleisiau. Yr oedd oriau man y boreu wedi torri cyn i aelodau cor Cymry Llundain ddod yn ol o'-a hymweliad llwyddiannus, a phrif dref y Deheudir. Cawsant ddiwrnod eithriadol o luddedig. Bu raid iddynt gychwyn o'u cartrefi cyn wyth o'r gloch y boreu, a thyrru i Paddington er cyfarfod a'r tren arbennig oedd i'w cludo i Gaerdydd. Llwyddasant i gael un cyfarfyddiad tua banner dydd i dderbyn y cyfarwyddiadau terfynol oddi- wrth eu harweinydd, a chan fod pob aelod wedi dod o'r brif-ddinas gyda'r bwriad o ennill y gamp nid oedd angen am eu calon- ogi yn y gwaith. Yr oeddem yn canu yn rhagorol yn y gwahanol rehearsals," meddai Mr. Tim Evans, ond ni chanasom erioed cystal ag yng Nghaerdydd. Yr oedd pob un ar ei oreu, ac mewn hwyl canu, fel yr oedd yn rhaid wrth rywbeth eithriadol cyn ein curo yn y brwdfrydedd hapus hwn." Mae'n wir fod rhai o bobl y Sowth yn meddwl mai math o bicnic oedd y cyfan gan bobl ieuainc Llun- dain, ond ar ol i ni ganu yr oedd y syniad yn dra gwahanol, a gwelsant ar unwaith fod boys Llundain yn rhai o ddifrif, ac y byddai yn gofyn am rywbeth lied dda cyn eu curo." A dyna fel y bu hefyd. Yr oedd y dyfarn- iad yn un hollol deg a phoblogaidd, ac nid oedd neb yn fwy parod i dalu gwarogaeth i Mr. Merlin Morgan nag aelodau y ddau gor enwog oeddent wedi eu gorchfygu ar y tro. Yr oedd y fuddugoliaeth nodedig yn brawf fod defnyddiau rhagorol yn ein plith, ond gwneud y defnydd priodol o honynt. Parhaodd yr Eisteddfod dros ddydd Mawrth, a chaed cynulliadau mawr eto. Cor Meibion Abertawe oedd y buddugwyr ar y dydd hwn.

A BYD Y GAN.