Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

jCYNNYRCH Y BRIFYSGOL.

GRADDIO MR. LLOYD GEORGE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GRADDIO MR. LLOYD GEORGE. Dydd Gwener diweddaf bu Prifysgol Cymru yn anrhydeddu un o blant athrylith- gar ein cenedl. Yn eu gwaith yn cyflwyno y gradd o Ll.D. i Mr. D. Lloyd George y mae'n brawf fod rheolwyr y brifysgol wedi sylweddoli o'r diwedd mai'r unig ffordd i wneud y Brifysgol yn sefydliad gwir genedl- aethol ydyw, trwy gydnabod o bryd i bryd y rhai sydd wedi enwogi eu hunain o blith plant ein pobl. Ein prifysgol ni ddylai fod C5 y cyntaf, bob amser, i anrhydeddu ein doniau galluocaf, yn hytrach na gadael i brifysgolion mwy henafol ac enwog i ddar- ganfod gwerth y cyfryw, ac i ninnau ddilyn yn wasaidd yn ol yr un camrau. Ymysg y rhai oedd i gael y graddau anrhydeddus, cyflwynwyd D.Sc. i'r A thro J. Lloyd-Williams a'r Prifathro Griffiths, o Gaerdydd, ond y gwr a gafodd y derbyniad tywysogaidd gan y dorf oedd yr aelod tros Gaernarfon. Cyflwynwyd ef mewn arawd Gymraeg gan yr Athro J. Morris Jones, ac ar derfyn y seremoni bu raid i'r efrydwyr gael ei anrhydeddu hefyd trwy lusgo ei gerbyd drwy yr ystrydoedd a ff arflo gorym- daith na fu ei bath ym Mangor ers talm. Dyma araith yr areithiwr cyhoeddus-yr Athro J. Morris Jones-wrth gyflwyno Mr-. Lloyd-George i dderbyn y gradd Heddyw y mae Cymru, trwy ei Phrifysgol, yrt chwennych anrhydeddu'r enwocaf o'i meibion, y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George. Cyfuwch yw'r anrhydedd a osodwyd eisoes arno ag na ddichon ei rhodd oreu hi chwanegu dim at ei enw na'i urddas; eto ni bydd diystyr ganddo ei hatling hi. Ni raid i mi yngwydd y gynulleidfa geisio traethu ei hanes ef; y mae ei weittiredoedd yn ysgrifenedig yng nghroniclau'r deyrnas, a'i gampau'n hysbys i chwi oil. Dringodd o'r bwthyn i'r Senedd esgyn- nodd i Gadair y Bwrdd Masnach, ac oddiyno i Gangelloriaeth v Drvsorfa hvn oil nid trwv ffafr na chymorth neb, ond trwy ei ddiwydrwydd, a'i wrol- deb, a'i athrylith ddisglair ei hun. Yn fore bu'n ymladd brwydr y tlawd a'r gwan, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo. Carodd Gymru, ac ymdrechodd drosti lawer ymdrech deg. Glynodd wrth ei egwyddor drwy bob tywydd, yn gadarn a diymod fel trum Eryri. Eto nid dyn plaid yn unig mo hono; ei ragoriaeth ef ydyw y gall godi uwchlaw plaid, a gweini lies yr holl wlad. Canmolir ei wasanaeth yn y Bwrdd Masnach ar bob tu, y Llywydd goreu. meddant, a fu yno yng nghof neb. Clodforir ei ddeddfau gan bob gradd a dosbarth ar ddynion, gan y cyfalafwr yn gystal a'r gweithiwr, gan y llongwr a'r perchennog llongau. Drwy ymddyrchafu uwch- law pleidgarwch y gallodd heddychu pleidiau cyn- hennus; trwy ei ddychymig treiddgar a'i gydym- deimlad eang gallai uno achosion dwyblaid ynddo'i hun. Felly yr heddychodd ymrafael y ffyrdd haearn —peth nas gallasai ond odid undyn yn y deyrnas ond ef-pryd yr arbedodd i'r wlad golledion a dioddef- iadau tu hwnt i bob amgyffred, ac yr enillodd iddo £ hun enw a fydd byw. Etifeddodd hefyd y fendith sydd i'r tangnefeddwyr. Gwn, y gwr gwyn, o gariad, Fynd i'th lys fendith y wlad." Fe syll Cymru ar ei esgyniad yn llawen, nid yn drist. Nid yw ef yn llai iddi hi am ei fod yn fwy i'r Ymerodraeth. Y mae Cymru hefyd yn rhan o'r Ymerodraeth, ac wedi gwneuthur ei rhan i'w saernio. Ni chyll Cymru mo'i hanes ef; fe'i trysorir ganddi fel aur, ac fe erys yn galondid ac yn ysbrydiaeth i'w meibion dros byth. Os swynodd ef y Saeson fi chyfaredd ei lais arian, nid anghofiodd iaith ei fam, yr iaith y dysgodd lefaru ynddi; ar ei enau mor ddilediaith ag erioed y mae sain y ber heniaith sy yn y bryniau." Os rhoddes Prydain ei gwobrau goreu iddo, a'i thrysor dan ei ofal, ni ddwg neb mo'i galon oddiar Gymru, ac ni phaid hithau a llawen- ychu ynddo ef. Y mae geiriau Gronwy am Sior arall yn Wtr am hwn, a gellir eu darllen fel proffwyd- oliaeth- Glyw digamrwysg gwlad Gymru, Cynnydd a llywydd ei llu, For odiaeth holl dir Prydain, Penteulti hen Gymru gain, Llyw unig ein llawenydd- Mwy cu in ni bu ni bydd."

[No title]