Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CROESAW'R TYMOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CROESAW'R TYMOR. Dyma ni eto ar derfyn blwyddyn arall o'n hanes ac wrth ganu ffarwel i'r hen flwyddyn gadawer i ni wneud hynny yn swn dawns a llawenydd y tymor. Son am farw a chanu ffarwel pruddaidd ydym yn ol dyddiau'r calendar, ond daw'r Nadolig a'i hoywder i'n hadgoffa o adfywiad a dechreu bywyd gwell; ac yn ysbryd yr wyl honno yr ydym am annerch ein darllenwyr wrth droi rhifyn diweddaf y flwyddyn o'n dwylaw. Wrth gyflwyno ein dymuniadau goreu am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'r rhai sydd wedi bod mor ffyddlon i ni ar hyd yr amser, dymunwn ddatgan hefyd ein diolch i'n llu gohebwyr ar wasgar sydd wedi ein calonogi A'-Lt cenhadaethau siriol o wythnos i wythnos. Gwir fod ein anhaws- terau yn Ilawer a'n ffaeleddau yn aneirif er hynny, credwn nad yw'r ychydig ym- drechion a wneir gennym drwy y cyhoedd- iad bychan hwn yn gwbl ofer. Codi Cymru a'i phlant i fwy o acrhydedd yw einhamean, ac os llwyddwn yn y gorchwyl yna, bydd diwedd pob blwyddyn yn ddydd gwyn i ni tra'n gwasanaethu ein cenedl yn y cylch dinod hwn. Boed i fendithion goreu'r tymor a gwenau llwyddiant ddod i ran pawb o garwyr lien a chymeriad da ein cenedl yn ystod y flwyddyn sydd ar dorri arnom.