Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YR ANFFYDDLONIAID.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ANFFYDDLONIAID. Cynlielir cynhadledd fawr yng Nghaer- dydd yn un o'r wythnosau dyfodol i geisio trefnu ar gynllun priodol i ofalu am Addysg Cymru, ac i ymdrin a'r pwysigrwydd o gael Gweinidog tros Gymru yn y Senedd. Nid yw'r naill fater na'r Hall ond ceisiadau ar ran y genedl fel cyfangorff, heb rithyn o sectyddiaetli na phartiaeth ynglyn a liwy, er hyn oil wele rai o wyr blaenaf ein gwlad yn ceisio gwneud yr oil o fewn eu cyrraedd i godi rhwyatrau- ar y ffordd, ac i daflu anfri ac amheuaeth ar y rhai sydd wedi galw'r gynhadledd ynghyd. Gan mai Llywodraeth Ryddfrydol sydd mewn grym ceisir gosod allan mai cynnyrch y llywodraeth honno yw'r gynhadledd. Ond y gwir yw fod y ddau bwnc wedi bod tan ystyriaeth droion pan oedd y Weinyddiaeth Doriaidd mewn grym; ac mae arweinwyr y ddwyblaid yn cyduno fod yma le i wella rhywfaint ar safle Cymru yn y Cyngor Ymherodrol, ac fod yn bryd iddi gael ei lie priodol fel un o'r pedair cenedl a ffurfiant y deyrnas unedig hon. Ond pan y mae cyfle fel hwn, i ni wneud rhywbeth tros godi parch a safle ein gwlad, wele'r Esgobion Cymreig yn cilio o'r neilltu. Gan na allant ddweyd mai mater partiol yw, wele un o honynt-yr Esgob Oweri-yn dod allan i amddiffyn y gyfundrefn addysg bresennol a d weyd fod hon yn fwy diogel o lawer na'r hyn a fwriedir wneud, a'i fod ef yn bleidiol dros gadw pethau fel y maent. Ac eto does neb ar hyd y blynyddau wedi bod yn beirniadu y Central Welsh Board" yn fwy na'r arweinwyr eglwysig hyn Nid yw'r cyfan ond math o esgusawd gwael tros gadw draw rhag gwneud un lies i genedl y Cymry. Pe bae'r Ymneillduwyr wedi ym- ddwyn fel hyn, byddai'r Wasg Doriaidd yn eu galw yn fradwyr ac yn erlidwyr, a phob casbeth arall; ond yn awr wele'r esgobion yn cael eu hesgusodi o dan yr hen syniad mai a materion crefyddol yn unig y dylid disgwyl eu cefnogaeth. C, 0 Un arall o feirniaid y bwriad yw Arglwydd Kenyon, ond druan o hono, byddai yn llawer gwell iddo aros yn ddistaw rhag dangos y fath anwybodaeth. Mae Arglwydd Glantawe, yr wythnos hon, wedi. profi fod pob un o honiadau Kenyon yn anghywir, a diau y ceir clywed rhagor am y beirniaid anffyddlon hyn yn y gynhadledd ei hun. Ar ol yr esiamplau hyn o anffyddlondeb, bydd Cymru yn gwybod ym mhwy i roddi ei hymddiriedaeth mewn materion cenedl- aethol, ac ofer fydd i'r Esgobion, na'r Sais- garwyr o ddosbarth Kenyon honni eu bod hwy, o leiaf, yn barod i symud yr un cam, na chodi eu cri dros unrhyw fater a lesha y genedl fel cyfangorff. I'w gwerin, a'i phobl gyffredin ei hun, y mae'n rhaid i Gymfu edrych am wir gefnogaeth. (

Y PARCH. ROBERT PARRY WEDI…

Advertising