Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
EDRYDD y Parch, Daniel Rowlands, M.A., hanes/n dyddorol am John Elias. Yr oedd fy ni* id (meddai) yn adnabod Mr. Elias yn dda, ¡tC yn gyfeillgar iawn gydag ef. Tra yn synmi, fel y gwnelai cynifer, wrth ei weled yn gallu darllen mor glir yn yr odfeu- on heb spectol, fe ofynodd iddo un diwrnod sut yr oedd yn gallu gwneud hynny. Ei ateb syml yntau oedd, Yr wyf yn agor fy llygaid bob boreu mewn dwr oer." Wedi clywed fy nhad yn dweyd hynny, fe ddarfu i minnau, o ymyraeth plentyn, boreu dran- oeth, wneud yr un peth. Yr oedd dipyn yn anodd mentro ar y dechreu; ond yr ydwyf wedi gwneud felly hyd heddyw ac nid oes gennyf spectol ar fy elw. Ychydig cyn goddiweddyd fy anwyl a thra pharchedig athraw, y Dr. Lewis Edwards, gan ei wael- edd olaf, daeth ef a nifer o gyfeillion ereill i gerbyd y digwyddwn fod ynddo ar y "Cambrian Railway." Wedi ychydig o ymddiddan cyfeillgar, gofynodd beth oedd y Ilyfr: Ilyfr Saesneg newydd ddigwyddai fod yn fy Haw. Estynais y llyfr iddo; a thra yr oeddwn i yn dweyd yn ei gylch, yr oedd yntau yn troi ei ddalenau ac yn ei edrych. Yn y man dywedais, Yr ydych yn gweled heb spectol, Dr. Edwards?" Ydwyf," ebai yntau. A oes gennych un ? Oes." Ymhle y mae hi ? Adref." Pam na fuasech yn dod a hi gyda chwi ? Am fy mod yn gweled yn well hebddi!" "A ydych yn agor eich llygaid bob boreu mewn dwr oer?" "Ydwyf." Wrth gyngor John Elias?" "Ie." YR unig ymgeisydd i ennill y radd o D.D. ym, Mhrifysgol Llundain eleni ydyw y Parch. H. Maldwyn Hughes, B.A., B.D., Liscard, awydd Gaer. Mab i'r diweddar Ddr. John Hughes (Glanystwyth) ydyw. Ystyrir ef yn un o bregethwyr blaenaf yr enwad. Nid yw ond 33 mlwydd oed, ac y mae eisoes wedi dringo i'r safleoedd pwysicaf. Nid oes ond efe a'r Parch. Frank Ballard, M.A., D.D., wedi ennill y radd uchod gyda'r Cyfundeb Wesleyaidd. Yn Ysgol Kingswood yr addysgwyd ef, a chafodd yrfa lwyddiannus dros ben yng Ngoleg y Brifysgol Aber- ystwyth, a thair blynedd yn Didsbury, Yn yflwyddyn 1898 y dechreuodd bregethu, a dangosodd ar y cychwyn fod ynddo ddefnydd pregethwr poblogaidd. NID yw pob efrydydd yn abl i wneud fferylliaeth (chemistry) yn bwnc dyddorol mewn ysgol, ond dyma fel yr ysgrifenodd un o blant Ysgol Sir Tregaron ar y "black board" yn ystodun o'r gwersi 0 "halen" a sulphuric Ceir digon o "muriatic,' Fel niwl caddugawl codi wna Yn nwy arogla'n rhone, Ni ellir byth ei yrru Drwy ddwfr-ca ei lyncu, A'r dwfwr bellach—ryfedd ras Y "litmus" glas wna gochi. Pe'r "corkyn" wnai chwi dynnu. Me'i cawsech ef yn mygu Beth sydd yn bod ? yr H.Ce. A'i niwloedd del sy'n codi. Pe'i profech, rhowch e'n gynta I gyffwrdd ag ammonia, Daw sal-ammoniac wrth wneud hyn Yn dew a gwyn fel eira. >. Rhoi'r manganese dioxide Ar hydrochloric acid, O'r bedd lie mae y ddau'n gyfun Melyn-wyrdd glorine gyfyd.
[No title]
-1 Y GENINEN AM IONAWR.-Cynhwysiad "Gethsemane" (Golyddan), gan y Parch Rhys J. Huws. Geiriadurwyr Cymreig, a'u Geiriaduron, gan- y Parch. Owen Davies, D.D. Cwyn Coll am En- "wogion: y Prifathraw Probert, D.D., Mr. M. T. Morris, Y.H. (Meurig Wyn), Ojven Glandwr," y Parchedigion R. Parry, B A., ac Evan Roberts gan Mr. J. Ellis Williams, Plan Pair, Glaslyn, Mafonwy, ac Eifionydd. Priod-ddulliau'r Gymraeg, gan Mr. D. Samuel, M.A. (Dewi o Geredigion). Yr Eglwys yn y Canoldesoedd, gan y Parch. David. Jones, B.A. (Efrog). Crefydd Cymru yn y GIorian- Ymddiddan rhwng Tri—John Williams, Blaenor; John Cefn Thomas, Arolygwr yr Ysgol Sul; a William Davies, Dyn o'r Byd. Llyfr Teilo, gan y Parch. C. A.'H. Green, M.A. Codiad a Chynydd yr Enwad Ani- bynol yng Nghymru, gan yr Athraw Thomas Rees, M.A. Dylanwad y Colegau ar Grefydd y Myfyrwyr, gan y Parch. W. Morris, D.D., F.R.G.S. (Rhosynog). Un Eglwys i Gymru, gan Arthur. Cyfenwau Cym- reig-Cyfenwau Cymreig Pur, gan Mr. T. E. Morris, LL.M., B.A. (Morus Glaslyn). Canigau: Lloyd George, Hwfa Mon, Y Gwenyn, a Thynerwch, gan Mr. J. Rowlands; Afaon, Peris, Cranogwen, ac Eilir Mai. Hanes ac Adgofion, gan y Parch. Daniel Rowlands, M.A. Y Parch. William Morgan, gan y Parch. T. J. Humphreys. Traethawd Beirniadol ar Gysondeb y Ffydd (y Dr. Cynddylan Jones), gan y Parch. William Benjamin. Brawdoliaeth Plymouth ym Mon, gan y Parch. E. Cynffig Davies, M.A. Llyfryddiaeth Machynlleth, gan Mr. Edward Rees, Y.H. Lloffion Lien, gan Alafon. Pla yr Epaod, gan Owain Glyn Dwr. Gohebiaethau-john Evans, M.A., Ffeiriad Plymouth, gan M.P.G. Cywydd i Lun Crist a'i Apostolion, gan Vron--y. Benjamin Williams (1725--95), gan T.C.U. Manion Barddonol, gan lu o Feirdd.
Advertising
GUNNERSBURY CONGREGATIONAL CHURCH, HIGH ROAD, CHISWICK. 157 GrCLnd Amok EISTEDDFOD will be held at the above Church ON WEDNESDAY AND THURSDAY, MARCH 17 and 18, 1909. \.F,J'f,r'l"0-J' Guinea Prizes for Solos ehampion Solo (any voice) 2 Guineas Orchestral Contest, 5 Guineas ehief Choral Competition, 10 Guineas ,r-F"f"'f"J" Programmes and full particulars may be obtained from— A Montgomery, 9, Dorset Road, South Ealing, W. or from T. Bywel Hughes, 39, Thorney fledge Road Gunnersbury. LONDON WELSH RUGBY FOOTBALL CLUB. SATURDAY, Feb.. 13, AT THE Memorial Athletic Ground, WEST HAM. OLD MERCHANT TAYLORS, District Railway (Trains every few minutes), Book West Ham Station (Ground adjoining). 15 minutes from the eity. Y GYPEITHAS DDIWYLLIADOL CAPEL Y BEDYDDWYR HEOL Y CASTELL, W. CYNHELIR CYMGHERDD icenediaethol Yn y Capel uchod, DYDD SADWRN, CHWEFROR 27ain, 1909 r- Cadeirydd- Y GWIR ANRHYDEDDUS D. LLOYD GEORGE, A.S. .r-r- Cymerir rhan gan y Cantorion enwog canlynol Madame ELEANOR JONES-HUDSON Miss GWLADYS ROBERTS Mr. JOHN ROBERTS Mr. T. BRYNIOG JONES Mr. DAVID HUGHES Chwibanoglwr- Mr. ELI HUDSON Crythor— Mr. PHILIP LEWIS Cyfeilyddes- Miss LLEWELA DAVIES Drysau yn agored am 7.30. Dechreuir yn brydlon am 8. Mynediad i mewn trwy Raglen- Pris SWLLT Blaenseddau, DAU SWLLT. I'w cael gan yr Ysgrifenyddion— Mr. D. T. Jenkins, 11, Porteus Road, Paddington Green Mr David Robinson, 29, Balmoral Road, Willesden Green neu y Trysoryddion— Mr. J. Owen, 36, King Street, Camden Town; Mr. John Roberts, 46, Paternoster Row, E.C. CADWER Y NOSON YN RHYDD: CEIR GWDEDD 0 GERDDORIAETH GENEDLAETHOL. Hattonal. (Ststebbfob of !X\xles, LONDON, 1909. PATRONS H.M. THE KING. H.M. THE QUEEN. H.R.H. THE PRINCE OF WALES. R.R.H. THE PRINCESS OF WALES. PBESIDENT — LORD ABERDARE. A Grand Concert will be given at the ,A ÐUBBNS H6L:L" LANGHAM PLACE, W., by the National Eisteddfod Choir, (numbering 300 voices. Condubtor, Mr. MERLIN MORGAN) On THURSDAY. MARCH II, 1909, at 8 p.m. TICKETS—Stalls, numbered and reserved, 7/6 & 5/- Area, „ 3/- Grand Circle. 5/- & 3/- Balcony, 2/ area, 1/- To be obtained at the Queen's Hall, or from the General Secretaries, 63, Cliancery Lane, and from the Hon. Nec. of the Concert, Mr. E. A. Jones, 63 Chancery Lane, W.C.