Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.":. -'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. Corau Cymreig. Yr oedd yn dda gennyf ddeall fod Cor South London" yn dechreu mor addawol gogyfer a'r Eisteddfod yn Llundain. Dywed yr ysgrifennydd fod nifer lied dda wedi ymuno eisoes, a disgwyliai y buasai mewn llawn hwyl cyn diwedd y mis hwn. Mae cor Mr. Vincent Davies eisoes wrth y gwaith o ddysgu y darnau Eisteddfodol, ac os ceir ychydig o ychwa-negiad at y Tenors a'r Bass bydd yn gor anhawdd ei guro. Gan fod yr wyl genedlaethol yn agoshau, nid oes amser bellach i'w golli, felly hyderaf y gwna pbb lleisiwr ei oreu i gefnogi y gwahanol, gorau hyn. Eisteddfod Battersea. 'Er mor lliosog yw nifer ein cyfarfodydd cystadleuol eleni, nid ydynt wedi niweidio dim ar y gwyliau pennaf. Os nad ydwyf yn camgymeryd mae'r prif Eisteddfodau am y tymor hwn wedi bod yn fwy poblogaidd nag eribed, ac yn sicr 'roedd y cynulliad ddaeth i Battersea Town Hall nos Iau yr wythnos ddiweddaf yn eithriadol." Yn un peth, nid man cyfleus i Gymry'r ddinas ei gyr- raedd yw'r neuadd drefol hon ac yn yr ail le, nid oedd swm y gwobrwyon yno yn un math o atyniad. Er hyn wele lond y neuadd eang yn tyrru ynghyd, ac Eisteddfod hwyliog yn cael ei chynnal o'i dechreu i'w diwedd. Y Brif Gystadleuaeth. Daeth pedwar o gorau mawr i ganu Ar' don o flaen y gwyntoedd" (Dr. Parry), a rhoddid gwobr o £15. Canasant yn y drefn a ganlyn :—Cor y Tabernacl (Mr. Stanley Davies), Cor Saesneg Willesden (Mr. Waddell), Cor y Boro' (Mr. D. James), a Chor Falmouth Road (Mr. E. Jones). Yr ,oedd yr awr wedi myned yn hwyr cyn iddynt ddechreu canu, a phan oedd yr olaf wedi darfod yr oedd yn hen bryd i lawer o'r aelodau redeg tua chartref os am gyrraedd yno cyn hanner nos. Dylai ein trefnwyr Eisteddfodol ofalu fod y corau mawr i ddechreu ar eu gwaith am tua 930 o'r gloch, gan ei bod yn anhegwch mawr ar lawer o'r aelodau i'w cadw yn hwyr mewn cystadleuon o'r fath. Y Feirniadaeth. Yn ei feirniadaeth dywedodd Mr. John Thomas, Llanelly, fod y pedwar cor wedi canu yn hynod dda. Yr oedd y cor cyntaf wedi rhoddi portread cywir o'r darn, a meddent ar leisiau da, tan reolaeth berffaith. Yn eu hawydd i bwysleisio ychydig ar rai nodau, bu y soprano unwaith neu ddwy ar fin gwaeddi, ond ar wahan i hyn doedd ganddo ond canmoliaeth uchel i'r cor. Meddai yr ail gor ar leisiau nodedig, ond nid oeddent wedi llwyddo i ddarlunio'r dernyn fel y gwnai'r cyntaf. Yr oedd y donyddiaeth yn berffaith drwyddo, ond 'roedd y cyfan yn rhy unffurf i wneud eyfiawnder a'r gwaith. Yr oedd lleisiau hapus gan y trydydd cor, a dechreuasant yn hynod dda, ond nid oedd gorffenedd, yn y datganiad fel cyfanwaith. Yr oadd y pedwerydd cor wedi dechreu yn rhy araf, ac nid oedd y donyddiaeth bob amser yn gywir gan rai o'r lleisiau. Safai y gystadleuaeth rhwng y ddau gor cyntaf— Tabernacl a Willesden—ac o'r ddau hyn y goreu heb un amheuaeth, yn ei farn ef, oedd cor y Tabernacl. ? • Mr. Stanley Davies. Cafodd arweinydd cor y Tabernacl, Mr. Stanley Davies, groesaw cynnes iawn pan aeth i dderbyn ei wobr. Ac 'roedd yn ei haeddu, hefyd, oherwydd nid ynaml y clywyd ei gor yn canu yn rhagorach. Ond ar wahan i'w gor, llwyddodd Stanley ei hun i gipio rhai o wobrau yr Eisteddfod hon. Efe oedd y goreu ar y Champion Solo," ac roedd ei ddatganiad o Honour and Arms," MR. J. STANLEY DAVIES (Arweinydd Cor y Tabernacl, King's Cross). I yn gampwaith, meddai'r beirniad. Efe, wedyn, oedd yn oreu ar yr unawd baritone, fel, rhwng popeth a'u gilydd, daeth y cantor hwn yn dra llwyddiannus drwy ei ymdrechfa yn Eisteddfod Battersea. Coffa Hen Gerddor. Talodd pwyllgor Eisteddfod Battersea deyrnged addas i goffadwriaeth y diweddar David Jones (Meirionfab), trwy roddi cerdd goffa am dano yn destua y gadair. Yn ei oes faith yn Llundain ni weithiodd neb yn fwy caled ynglyn ag Eisteddfodau a chorau na Mr. David Jones. Bu ei gor, o Barrett's Grove, am flynyddau yn cipio'r gwobrau yn ein holl gyfarfodydd cystadleuol. Yr oedd yn dda gennyf ddeall, oddiwrth y feirniad- aeth a 'roed, fod y gerdd yn un hynod o addas; ond paham lai, gan mai hen gyfaill iddo-y Parch. W. Parri Huws-oedd yr enillydd. MR. W. DAVIES, Y.H., C.S.LL. Un o'r Cymry mwyaf adnabyddus yn ardal Battersea yw Mr. W. Davies, ac mae'n gefnogol iawn i bob achos da, ynglyn a'r Cymry, yn y cylch. Pan ddeallwyd na allai'r cadeirydd penodedig ddod i Eistedd- fod Battersea y nos o'r blaen, daeth Mr. Davies i'r adwy, a chaed araith gampus ganddo ar werth yr hen Eisteddfod i genedl y Cymry.

[No title]

EISTEDDFOD BATTERSEA.