Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ABSOLUTELY PURE MILK. JL'M sitm DIRECT 'jpyi WITH Full FROM THE FARMS Warranty DELIVERIES TO ALL P.ATS. FREETH I POCOCK LTD., Wholesale iVLilk and (Cream Contractors, L ALBERT !ES JME BANK. IMC £ 2 KT T, S. ES. West Central & Northern Depot WAKEFIELD STREET, JUDD STREET, W.C.
TYMOR EU TYNGED.
TYMOR EU TYNGED. Wele'r Senedd eto wedi agor, a'r gwleid- yddwyr wedi dychwelyd at eu gwaith am dymor arall; a thymor hanesyddol fydd hwn yn ol pob argoelion. Mae tynged y Wein- yddiaeth Ryddfrydig yn dibynnu arno, ac y mae cymeriad gwleidyddol, a safle amryw wyr ieuainc y Blaid i gael eu penderfynu yn ol y rhaglen a gyflawnir yn ystod misoedd ei eisteddiad. Dyma'r tro cyntaf i Mr. Asquith gael cyflawn reolaeth ar fwriadau ei Blaid, ac er nad oes unrhyw newydd-deb anis- gwyliadwy yn Araith y Brenin, y mae ei addewidion yntau mor lliosog fel mai gydag anhawster, galhvn dybio, y llwydda i gyflawni yr holl restr a enwyd ganddo ar ddiwrnod yr agoriad. Y mae'n ihyw byfrydwch i Gymru ddeall fod Mesur Ditgysylltiad wedi ei gynnwys yn y rbestr. Y mae hyn yn unol a'r addewid i'n cynrychiolwvr dro yn ol, a disgwyliwn bellach y ca'r Mesur ystyriaeth briodol, a phob cefnogaeth, ar ran ein haelodau ni. Ond rhaid addef mai nid iddynb hwy fel plaid" y mae i ni ddiolch am y gyd- nabyddiaeth bresennol. Mae hanes y Mesur hwn i'w adrodd eto. Nid yw'r sibrydion a glywyd beth amser yn ol am yr ymdrechfa ar ran y Mesur yng nghynghorau y Weinydd- iaeth yn chwedlau hollol ddisail. Myn y Sais edrych ar y pwnc fel rhywbeth dibwys a lleol, ac nad oes ond adran fechan o'r genedl yn gofyn am dano a thueddai rhai o aelodau y Weinyddiaeth i edrych arno yn y wedd hon. Ond mae'r bygythion a wnaed yn y Wasg Gymreig, a'r areithiau beiddgar draddodwyd gan Mr. Ellis Jones Griffith, Mr. Llewelyn Williams, ac ereill, wedi argyhoeddi'r mwyafrif fod yn rhaid symud yr anghysondeb hwn cyn byth y ceir heddwch ac undeb yn y rhengoedd gwleidyddol yng Nghymru. 0 hyn allan, rhaid i'r aelodau Cymreig gyduno i weithredu ar bob adran o'r Mesur yn unol a gofynion mwyafrif y genedl. Os nad yw'r cri dros Ddatgysylltiad wedi bod mor flaenllaw yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn, nid difrawder na diffyg set sy'n cyfrif am hyn. Mae'r genedl wedi hen wneud ei meddwl i fyny ar y mater, a 'does nac Eglwyswr na Thori o safle nad yw'n barod i addef fod yna gamwri sy raid ei symud, ac anghysonderau sy raid eu per- ffeithio. Pan ddaw manylion y Mesur o flaen y cyhoedd, diau y bydd raid i Gymru godi ei chri eto, ond beth bynnag a wneir dylai ein cvnrychiolwyr yn awr ofalu ar y cychwyn i siarad fel un llais dros bawliau yr Ymneillduwyr a thros degwch i bob adran o'r genedl yn y mater oil bwysig hwn. Beth bynnag arall gyflawnir yn ystod y tymor, y mae safle yr aelodau Cymreig i gael ei benderfynnu yn ol eu gwaith ynglyn a Mesur Datgysylltiad. Os llwyddir i'w weithio i'r Ty Uchaf, yna byddant yn abl i ddod ger bron eu hetholwyr y tro nesaf gyda chyd- wybod rydd eu bod hwy, o'r hyn lleiaf, wedi cyflawni yr oil o fewn eu gallu, ac mae ar law yr etholwyr y gorwedd dyfodol ei dynged. A'r un modd am etholwyr Lloegr. Ar eu dwylaw hwy y gorwedd dyfodol y Blaid Ryddfrydig; ac os llwydda yn ystod y tymor hwn i liniaru ychydig ar galedi yr amseroedd, trwy ad-drefnu'r beichiau enfawr sy'n gorwedd mor anghyfartal ar y gweith- wyr a'r. tirfeddianwyr yna bydd ei dyfodol yn ddigon disglair, ac y ceir gweled y Blaid mewn awdurdod am dymor hirfaith ar ol yr etholiad nesaf.
Advertising
THE €3 ES RJ T ^SEt, Ala INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed, by the Liverpool and London & Globe Insurance Co. Assets exceed < £ 11,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.G. HUGH LEWIS, Manager and Secretary.