Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

WALHAM GREEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WALHAM GREEN. CYFARFOD SEFFDLU Y PARCH. DAVID DAVIES. Nos lau, yr lleg cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod arbennig yn y lie hwn i groes- awu a sefydlu y Parch. David Davies, gynt o Dalysarn, Sir Gaernarfon, fel gwein- idog newydd yr eglwys, Yr oedd Mr. Davies wedi dechreu ar ei waith bugeiliol y Saboth blaenorol. Fel yr oedd yn naturiol disgwyl, ar ol i'r Eglwys fod mor unfrydol yn ei dewisiad o fugail, yr oedd dyddordeb cyffredinol yn cael ei deimlo ynglyn a'r amgylchiad hapus hwn. Ac er i'r hin droi allan braidd yn anffafriol ar y noson grybwylledig, eto caed cynulliad lliosog ynghyd, yn cynrychioli pob enwad crefyddol Cymreig yn y ddinas ac nid gormodiaith fyddai dweyd ei fod ymhob modd yn deilwng o Gymry Llundain. 0 chwech hyd hanner awr wedi saith, darparwyd Te a danteithion mewn cyflawnder gan chwiorydd haelionus yr eglwys. Am chwarter i wyth dechreu- wyd y cyfarfod cyhoeddus yn y capel, yr hwn a lywyddwyd gan Mr. Timothy Davies, A.S. Yn ystod y rhan olaf, cymerwyd ei le gan Mr. John Thomas, Barnes. Dechreu- wyd y cyfarfod trwy i'r Parch. R. 0. Wil- liams, Holloway, ddarllen rhan o'r Ysgrythyr, a gweddiwyd yn deimladwy iawn gan y Parch. Francis Knoyle, B.A., Hammersmith. Yna caed anerchiad gan Mr. Timothy Davies, A.S. Wedi hynny rhoddodd Mr. Isaac T. Lloyd, ysgrifennydd yr eglwys, grynhodeb eglur a chynwysfawr o hanes yr eglwys yn y lie hwn o adeg ei sefydliad, a chyfeiriodd yn arbennig at yr amgylchiadau a'i harweiniodd i roddi galwad i Mr. Davies ychydig fisoedd yn ol. Ar ol hyn, anerch- wyd y cefarfod gan y Parch. David Davies ei hun, a dywedodd ei fod yn credu yn ddi- ysgog mai rhagluniaeth fawr y nef oedd wedi dod ag ef i fugeilio eglwys Walham Green, a'i fod yntau yn teimlo wrth dderbyn yr alwad ei fod yn cyflawni ewyllys Pen mawr yr Eglwys. Yr oedd Cyfarfod Misol Arfon wedi anfon dau gynrychiolydd i'r cyfarfod, sef y Parch. William Williams a Mr. H. Menander Jones, o Dalysarn, ac hefyd cynrychiolydd Cynghor Eglwysi Rhyddion Talysarn a'r cylch gan Mr. Richard Jones o'r un lie. Yr oedd y brodyr hyn yn unfryd unfarn yn eu tystiolaeth am gymeriad uchel Mr. Davies fel dyn, fel cymydog, ac fel gweinidog da i Iesu Grist. Yr oedd ef a Mrs. Davies wedi ennill iddynt eu hunain tra yn Talysarn lie dwfn yng nghalonnau pawb a'u hadwaenent; a thra yn teimlo yn hiraethus o'u colli, eto yr oeddynt o waelod eu calon yn dymuno iddynt hir oes, a phob bendith ar eu gwaith ynglyn a theyrnas y Gwaredwr, yn eu cylch newydd ymhlith Oymry Llundain. Ar ran Cyfarfod Misol Llundain siaradwyd gan y Parchn. -J. E. Davies, M.A. (Rhuddwawr), Jewin Newydd, a T. F. Jones, Shirland Road, ynghyd a'r Mri. Edward Edwards, B.A., M.R.A.S. (llywydd y Cyfarfod Misol), a W. W. Griffith (eyn-lywydd). Gan y brodyr hyn oil caed anerchiadau cynnes 0 groesaw- iad i Mr. Davies i gylch y Cyfarfod Misol. Tros Gynghor Eglwysi Rhyddion Fulham siaradwyd (yn Saesneg) gan y Parch. G. Savary (llywydd), a Mr. W. H. Prideaux (ysgrifennydd); ac ar ran Cynghor Eglwysi Rhyddion Chelsea caed anerchiad gwresog gan ein cydwladwr talentog, y Parch. T. IVardy Rees. Derbyniwyd pellebryn oddi- wrth y Parch. Herbert Morgan (B), Castle Street, yn datgan ei ofid am na allai fod yn bresennol, ac yn dymuno Duw yn rhwydd i'r bugail a'r eglwys. Yn ddiweddaf caed anerchiad gan y Parch. J. Machreth Rees ar l'an Anibynwyr Cymreig Llundain. Ar 'derfyn y cyfarfod cynygiodd Mr. John Thomas, Warwick Road, bleidlais o ddiolch- garwch gwresocaf yr Eglwys i'r gwahanol gynrychiolwyr ac ereill a gymerasant ran yn y cyfarfod. Eiliwyd hyn gan Mr. John Jenkins, a phasiwyd ef yn unfrydol. Ter- fynwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. David Davies. Brodor ydyw y Parch. David Davies o Yysbytty Ystwyth, Sir Aberteifi. Derbyniodd ei addysg yn Yysgol Ramadegol Ystrad Meurig, a Choleg y Brifysgol, Aber- ystwyth. Wedi treulio pedair blynedd yng Ngholeg Diwinyddol Trefecca, derbyniodd alwad oddiwrth Eglwys Oakley Park, Llan- idloes. Ar ol bod yno am ddwy flynedd derbyniodd alwad o Dalysarn, Arfon, ac yno y bu yn gweinidogaethu am y pum mlynedd diweddaf. PARCH. D. DAVIES (Gweinidog newydd Walham Green).

NQDIADAU LLENYDDOL.