NODION EISTEDDFODOL. Llywyddion. Un o anhawsterau pwyllgor Eisteddfod Llundain fydd dewis llywyddion priodol i'r gwahanol gyfarfodydd. Bwriedir cael dau lywydd i bob cyfarfod o'r Eisteddfod-un y boreu a'r llall y prydnawn, ac un llywydd yng nghyngerdd y nos. Golyga hyn un ar ddeg o wyr enwog a'r gamp fydd penodi rhai addas i'r gwahanol gyfarfodydd. Arweinyddion. Ychydig yw nifer ein harweinyddion Eisteddfodol. Mae hon yn grefEt na all pawb gyflawni yn hawdd, er fod ami i wr wedi credu ei fod yn meddu ar y ddawn arweinyddol. Saif Llew Tegid o'i ysgwydd- au yn uwch na'r un gwr arall heddyw am gadw torf mewn trefn, a bydd raid wrth ei wasanaeth ef yn yr Albert Hall. Bai pennaf y pregethwyr a'r clerigwyr yw eu bod yn rhy araf a phregethwrol ar y llwyfan. Does dim mynd" ar y gwaith pan fo'nt hwy yn gofalu am yr arweinyddiaeth. A'i nid oes un o'r aelodau Seneddol yn abl i gymeryd lIe Mabon yn y grefft hon ? Hen Eisteddfodwyr Nid oes ond nifer fechan o hen arwyr Eis- teddfodol yn Llundain ar hyn o bryd. Mae'r hen do wedi cilio bron yn llwyr, a Ilenwir eu lie gan ieuenctyd dibrofiad. Rhyw banner can mlynedd yn ol yr oedd yma dorf o wyr lien a gymerent lawer o ddyddordeb yn yr hen Wyl, ac ar adegau cynhelid Eis- teddfodau mawr tan eu nawddogaeth. Bydd yn ddyddorol gwylio faint o les wna'r ym- weliad Eisteddfodol eleni i'r ysbryd Cymreig yn Llundain. Mae eisieu rhywbeth i'w symbylu yn yr oes faterol hon. Gwrgant oedd yr olaf, feallai, o'r hen hil Eisteddfodol Gymeig yn y ddinas, a bu ef farw yn ei breswylfod yn Gravesend yn Mehefin 1886, rhyw flwyddyn cyn cyn- haliad Eisteddfod Genedlaethol 1887. Brodor o Sir Ddinbych ydoedd, ac wedi treulio oes faith yn Llundain. Yr oedd yn 84 mlwydd oed pan fu farw, ac yn fawr ei barch ymhlith ei gydgenedl yn Llundain. Y Gwyneddigion. Pan ysgrifennir hanes Cymdeithasau Llundain yn llawn bydd yn rhaid rhoddi lie amlwg i weithrediadau amrywiol y gym- deithas hon. Oynhaliodd nifer o Eistedd- fodau tra enwog, a chyhoeddodd lawer iawn o'r gweithiau fuont fuddugol yn y gwahanol Wyliau hyn. Yn wir, Cymdeithas y Gwyneddigion oedd y cyntaf i gyhoeddi Gweithiau'r Eisteddfod, ac mae rhai o'u cyhoeddiadau yn hynod brin erbyn heddyw. Dilynir ei hesiampl gan Gymdeithas y Cymmrodorion heddyw, ond fod cyfrolau yr olaf yn llai eu rhif ac yn cael eu cyfyngu yn bennaf i blith yr aelodau.
TREFNIR i gynnal cyfarfod terfynol Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol yn y Tabernacl, King's Cross, ar y 3ydd o Ebrill, yn lie y Sad wrn olaf o Fawrth, fel y bwriedid ar ddechreu'r tymor. DYMA'R dull syml a gymerodd un gwein- idog y Sul o'r blaen i egluro dyrysbwnc Mabolaeth Crist. "Nid Mab cyfamodol trwy fabwysiad feddylir y mhobol i yn y fan hon, ond Mab deilliadol trwy genhedliad RHODDIR gwobr o ddeg punt yn Eistedd- fod Llundain am yr hanes goreu o Gym- deithasau Cymreig Llundain. Mae hanes y Gymdeithas Ryddfrydol newydd, a'r modd y darfu iddi lyncu Cymdeithas John Hugh yn werth byn, heb son am hanes cymdeithasau ereill.
Am Gymry Llundain. CADW GWYL.—Nos Sadwrn nesaf bydd Cymdeithas Castle Street yn dathlu Gwyl Ddewi trwy gynnal cyngerdd cenedlaethol fel arfer. Llywyddir gan y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, a diau y ceir araith yn llawn tan Cymreig ganddo. GWEINIDOG ARALL.—Wele braidd Walham Green wedi sicrhau bugail i ofalu am danynt. Nos Iau yr wythnos ddiweddaf buwyd yn cynnal ei gyfarfod sefydlu, ac, er gwaetha'r bin, daeth cynulliad rhagorol i roddi croesaw cynnes iddo. MR. PRICHARD JONES.-Bydd yn flin gan lawer ddeall fod y boneddwr adnabyddus hwn wedi bod yn dioddef dan anwyd trwm ers peth amser, ac wedi gorfod cadw yn ei ystafell tan ofal ei feddyg. Efe oedd i lywyddu'r cinio roed i Mr. Lloyd George yn y Clwb Cymreig y nos o'r blaen, ond bu raid iddo dorri ei gyhoeddiad. CHWAREU SENEDD.—Dyna fu gwaith ael- odau Cymdeithas y Tabernacl nos Sadwrn ddiweddaf, a chaed Ty llawn i ddathlu'r noson. Llefarydd yr eisteddiad oedd Mr. Ellis J. Griffith, A.S., a'r clercod wrth y byrddau oeddent y Parch. Elfet Lewis a Mr. T. E. Morris, y Bargyfreithiwr. Prif Wein- idog ar y blaid Ryddfrydol oedd Mr. T. W. Glyn Evans; arweinydd yr Wrthblaid, Mr. H. P. Roberts arweinydd plaid Llafur, Mr. C. J. Evans; arweinydd y blaid Wyddelig, Mr. J. Redmond Thomas; ac arweinydd y blaid Gymreig, Mr. T. J. Evans. Cefnog- wyd y Weinyddiaeth gan lu o wyr selog ym mhersonau Mri. D. Jones, B.A., Watkin Jones, B. J. Rees, W. Edmunds, Dan Thomas, W. H. Williams, a Miss Blodwen Jones. Bu yno ddadlu brwd am deirawr o amser, a chafodd yr aelod tros Fon ddigon o waith i gadw trefn ar y pleidiau. Yr oedd yr awr yn hwyr cyn yr ymraniad, pryd y caed fod 57 yn erbyn y Weinyddiaeth, a 64 yn gefnogol i'w pholisi. Noson ddiddan ac adeiladol tros ben. CITY ROAD.-Rhoddwyd cyngerdd mawr- eddog yn y capel hwn nos Iau, Chwefror lleg, ac er mor anymunol yr hin, daeth cynulliad rhagorol ynghyd. Llywyddwyd y gweithrediadau gan Mr. John Hinds, yr hwn a roddodd araith amserol ar werth a dylanwad y capelau Cymreig ynglyn a bywyd Cymreig y ddinas. Y cantorion oeddent Miss Towena Thomas, Miss Tilly Bodycombe, Mr. Herbert Emlyn, Mr. David Evans, ynghyd a chor meibion Mr. Maen- gwyn Davies, yr hwn a adnabyddir tan yr enw "The London Men's Choral Society." Adroddwyd gan Mr. Eddie Evans, a gofal- wyd am y cyfeiliant gan Messrs. Idris Lewis ac Isaac Jones. Yr oedd y canu yn rhagorol, a phrofodd y cor, tan arweiniad Mr. Davies, ei fod yn abl i gyflwyno'r gweithiau goreu mewn modd hynod o dderbyniol. Ar y diwedd talwyd diolch cynnes i'r cadeirydd am ei bresenoldeb a'i gydymdeimlad a'r achos yn y lie. CYMDEITHAS RYDDFRYDOL N EWYDD. Nos Fawrth ddiweddaf caed cyfarfod arbennig yn y National Liberal Club i ffurfio Cymdeithas Ryddfrydol ynglyn a Chymry Llundain, a daeth amryw o wyr glew y byd rhyddfrydol ynghyd i roddi cychwyn i'r mudiad. Llywyddwyd gan Mr. Woodward Owen, a chaed anerchiadau gan y Parchn. Elfet Lewis, Machreth Rees, Herbert Morgan, a W. Thomas, Mri. John Hinds, J. Burrell, a D. R. Hughes, ynghyd ac ereill. Penodwyd pwyllgor o bymtheg o bersonau i ofalu am y mudiad, a disgwylir y bydd y cyfan mewn llawn bywyd o hyn i fis Tachwedd nesaf. Daw'r manylion eto pwy ydyw swyddogion y Gymdeithas newydd hon. BORO'.—Cynhaliwyd cyfarfod te a chyng- erdd blynyddol llwyddiannus yn yr addoldy uchod nos Iau, Chwefror 11. Gweinydd- wyd wrth y byrddau te gan Mrs. James Jones, Mrs. Morgan John, Mrs. J. E. Evans, Mrs. J. B. Evans, Mrs. D. Powell, Mrs. R. Wood, Mrs. H. D. Thomas, a Mrs. D. Rees yn cael eu cynorthwyo gan Misses E. A. Pritchard, Annie Llywarch, Sarah Mitchell, Sarah Davies, Jennie Evans, M. E. Davies, E. Jones, Gwladus John, Maude Felix, ac amryw ereill. Llywydd y cyngherdd oedd Mr. J. E. Evans, 68, St. George's Road, un o aelodau yr eglwys, a gwnaeth ei waith yn gwbl ieistrolgar a hamddenol. Mae ef yn wyr i'r diweddar Barch. Evan Rees, Llanon, Sir Aberteifi. Mab yw i Mr. a Mrs. Lewis Evans, Bank, Cantref Hamminiog, yng Ngheredigion. Mae mewn masnach yn Llundain er's tair blynedd-ar-hugain, ac y mae ef a'i briod a'u teulu ieuanc yn barchus iawn gan eu holl gydnabod. Bu eu ewythr, Mr. Evan Rees, yn arwain y gan yn y Boro' am ddeunaw-mlynedd-ar-hugain, ac yr oedd modryb iddo, Mrs. Jenkins, Tower Street, yn un o fEyddloniaid yr achos am lawer o flyn- yddoedd. Mae rhan o deulu y Bank hyd heddyw yn perthyn i'r eglwys. Oyfranodd Mr. Evans yn anrhydeddus at gyllid y cyngerdd, a diolchwyd yn wresog iddo am ei garedigrwydd dihafal. Gwasanaethwyd yn y cyngerdd gan Miss Mary Davies, Miss Maggie Williams, R.A.M., Mr. Gwynne Davies, A.R.C.M., Mr. W. J. Samuel, R.A.M., a Mr. Evan Willians, R.A.M. Cyfeiliwyd gan Miss Jennie Jones, A.R.C.M, a Mr. D. Richards, F.R.C.O. Gwnaeth pob un ei ran yn rhagorol. Bu raid iddynt ail ganu droiau. Cafwyd cynulliad llawn a hwyl Gymroaidd o'r dechreu i'r diwedd. Diau fod hon yn un o gyngherddau mwyaf hwylus a llwyddiannus y tymor. Diolchwyd i'r dorf am eu presenoldeb, i'r cyfeillion fuasent yn gweini, ac i'r Cadeirydd am ei wasanaeth medrus a doeth. Oanodd y cor ganig o waith Dr. Joseph Parry yn 1865, Ar don o flaen gwyntoedd." Arweiniwyd gan Mr. D. James, A.C., ac yr oedd hwn yn ddatganiad chwaethus prydferth a gorffenol. Os deil y cor hwn i ymarfer a dysgu darnau clasurol am ysbaid, bydd yn sicr o ddod yn abl yn y dyfodol agos i wneud gwaith i'w edmygu yn ddirfawr. Mae y cerddor, Mr. D. James, yn wir haeddol o bob cefnogaeth gan Gymry y ddinas. Collodd Mr. T. Felix, Holborn, frawd yn ddiweddar yn 47 oed. Claddwyd ef ym mynwent newydd Talybont, Sir Aber- teifi, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. R. E. Jones ac ereill. Gadawodd weddw a theulu ieuanc i alaru eu colled ar ol priod caredig a thad tyner. Estynwn ein cydynl- deimlad tyneraf a Mr. Felix a'i deulu.
Bwrdd y Gol. Er's cryn amser, bellach, mae ystafelloedd y CELT wedi bod yn rhy gyfyng i gynnwys y Ilu ymwelwyr ddeuent yma o wythnos i wythnos, ond mae argoelion fod pethau i wella yn y man. Yr wythnos hon mae'r swyddfa argraffu wedi ei symud i adeilad mwy cyfleus, lie y bydd pob hwylus- dod i gario y gwaith ymlaen gyda phob rhwyddineb, a rhoddir gwahoddiad cynnes i bawb o'r hen oheb- wyr i dalu ymweliad a ni yn eu tro. 302."—Dyna fydd ein rhif yn Gray's Inn Road ar ol yr wythnos hon. Nid yw'r adeilad neppell o'r hen swyddfa, fel na fydd unrhyw anhawster i ddod o hyd iddo. E. JONES.—Mae'n ddigon hawdd cael y manylion ynghylch y cystadleuon corawl- yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond gohebu a'r Ysgrifenyddion i swyddfa'r Eisteddfod, 64, Chancery Lane, W.C. W. WATKINs.-Mater i'w benderfynu gan y Weinyddiaeth yw pa un a'i doeth gwthio Mesur Datgysylltiad drwy Dy'r Cyffredin a'i peidio. Yr 1