Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
TALHAIARN.
TALHAIARN. (Parhad.) Y mae Llanfairtalhaiarn yn gorwedd mewn lie dymunol iawn-mewn pant, tra'r myn- yddoedd o'i amgylch yn ei noddi. Pentref bychan ydyw, digon di-nod yr olwg arno y tai, oddigerth yr ysgwar (square), fel pe bae y gwahanol adeiladwyr wedi methu cytuno ynghylch y drefn yn ol pa un yr oeddynt i adeiladu. Y mae yno gysondeb mewn un petb, modd bynnag, sef fod y tai gan mwyaf wedi eu gwyngalchu, ac fe geir eu bod, yn bennaf, wedi eu gwneud o gerryg calch. Y mae yno gysondeb arall, sef fod yr afon Elwy, sydd yn rhedeg drwy ei gwaelod tua'r mor, yn canu yn awr fel y canai yn yr amser y byddai y bardd Talhaiarn yn myfyrio ar ei glan. Cyn ini fyned a'r darllennydd i dy y bardd ac at ei fedd, buddiol ydyw dweyd gair am darddiad yr enw Llanfairtalhaiarn. Dywedir y tardd o Dalhaiarn, Sant a bardd a flodeuai yn y burned a'r chweched ganrif. Mab ydoedd i Garthwys ap Morydd ap Cenen ap Coel Codebog, a phreswyliai yn Carlleon ar Wysg. Daeth yn gaplan (chaplain) i Emrys Wledig (Ambrosius), Brenin Prydain, yr hwn adeiladodd y gweddillion' Derwyddol a elwir Stonehenge, er cof (fel y meddylir) am y Cymry syrthiasant pan yn ymladd y Saeson o dan Hen gist. Ar farwolaeth Emrys, ymneilltuodd Talhaiarn i Lanfair, ac yno sefydlodd fynachlog. Wedi hynny cododd eglwys yno, yr hon gysegrwyd i St. Mary-Llan Fair. Dywedir mai y Talhaiarn hwn ydoedd awdwr y wedi ddefnyddir yng Ngorsedd y Beirdd hyd heddyw: Duw, rho nerth; 1 Ac o nerth, pwyll Ac o bwyll, gwybod ( Ac o wybod, y cyfiawn Ac o'r cyfiawn, ei garu; Ac o garu, caru popeth; Ac o garu popeth, caru Duw. Os ydyw yr honiad yn un cywir parth awdwriaeth y weddi hon, y mae gan drigol- ion Llanfairtalhaiarn le i ymfalchio yn eu pentref. Wedi ymholi am y ty lie y trigai y bardd John Jones, sef (hyd y gwn i) yr ail Dal- haiarn, deallwn mai enw'r cyfryw ydoedd "Hafod y Gan." Safai ar godiad caregog Euthum tua'r ty tra'r gwragedd segur ac ychydig blant yn gwylio fy nghamrau fel pe na welsent ddieithr ddyn erioed. Curais wrth y drws. Wedi i wraig dda y ty ei hagor, gofynais yn Gymraeg a fyddai mor garedig a gadael imi ddod i mewn i weled cartref y bardd. Atebodd fi na ddeallai y Gymraeg Buasai dyn yn meddwl na cheid ond y Gymraeg mewn lie mor bell o swn y byd Ond na, nid ydoedd gwraig y ty lie y ganwyd, y magwyd, ac y bu farw Talhaiarn, yn deall iaith y gwr enwog. Ond nid dyma'r syndod mwyaf a gefais yn y lie bychan hwn, canys wrth ymholi mewn lie am ymborth, atebwyd fi mewn Saesneg tramoraidd: "No Welsh." Deallais mai Ellmynwyr oeddynt, wedi dod yn ddiweddar o Lerpwl i fyw yn Llanfair. Ond i ddychwelyd at y ty y deuthum i'w weled. Gwahoddwyd fi yn garedig i mewn, a dodwyd fi yn y parlwr. Yma y byddai y bardd yn bwyta, fel y deallais a thra bu'm yn edrych o'm cwmpas, aeth y wraig i nol y gwr, sef Mr. David Davies, yr hwn siaradai Gymraeg da. Ystafell hir ydoedd hon, gyda nenfwyd (ceiling) lied isel, fel ag a geir ym mwyafrif yr hen dai. Nis gwn ydoedd y bwrdd ar ganol yr ystafell yno yn adeg Talhaiarn ai peidio ond yr oedd yn giog ar y pared Bassoon, berthynol i dad Mr. Davies. Rhaid ei bod hi yno yn adeg y bardd, canys yr oedd yn perthyn yn agos i Mr. Davies, a mynych iawn y byddai y gwr hwn (fel y dywedodd wrthyf) yn eistedd ar lin y bardd, gael iddo glywed can! Yn wir, yr oedd golwg hen ar bron popeth yn yr ystafell, fel y dichon fod y dodrefn yno pan yr oedd Talhaiarn yn ymborthi ynddi. Ar yr un llawr yr oedd myfyrgell (study) y bardd. Ystafell fechan ydoedd, yn cael ei goleuo gan ffenestri bychain. Yn hon y cafodd Talhaiarn afael mewn llawer i feddylddrych barddonol. Llawer gwaith y bu, yn ddiau, yn edrych drwy y ffenestri hynny ar fawredd y mynyddoedd gerllaw. Yma y ganwyd llawer o'i feddylddrychau, pa rai ydynt yn yn aros, ac yn fwy parhaol na'r mynyddoedd ond y bardd a giliodd i'r cysgodion Dangosodd Mr. Davies ei ddarlun olaf imi, ar gerdyn bychan, tua 2t modfedd wrth dair. Ni allwn ganfod lliw ei lygaid bywiog; ond yr oedd yn edrych yn wr rhadlon a chryf. Meddai faif laes roddai iddo ryw gymaint o urddas, heb gymorth y peth diweddar-y moustache. Os ydyw y darllennydd yn fardd, caiff ddisgrifiad gwell gan Eben Fardd fel a ganlyn :— Gwelwn wr o bryd glan iawn Digystudd—dwyrudd diriawn, A thro olwyn athrylith Yn ei lygaid, nid rhaid rhith A'i wallt trwm yn hollt yr iad 0 wawr winen yn ei raniad Wrth y drych ar ei berth drom Pwy yw ? sylwid, Ap Salmon ? Ei farf laes a fwriai flew I'w eofndal fron lyfndew :i A'i osodiad fel sawdwr Oil yn ddel a lluniaidd wr Talgryf a heinyf hynod- Ni wyddwn i ei wedd nod. Yn yr ystafell uwchben y fyfyrgell yr oedd ei ystafell wely. Bechan ydoedd hon hefyd, a dim neutuol ynddi i dynnu sylw. Yma y ganwyd Talhaiarn yn y flwyddyn 1810, ac yma y bu farw yn y flwyddyn 1869, yn yr oedran cymharol ieuanc o 59. (I'w barhau.)
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Y SWYDDFA NEWYDD.—Nid gwaith syml yw symud swyddfa argraffa. Yr oeddem yng nghanol hynny o orchwyl yr wythnos ddiweddaf, ond mae'r cyfan wedi dod i rywfath o drefn yr wythnos hon. Yn anffodus, aeth rhai o'r peirianau i nacau gweithio ar ol eu lleoli yn y swyddfa newydd, a'r canlyniad fu i'r CELT wneud ei ymddangosiad ddiwrnod yn ddi- weddarach nag arfer. Ond er gwaetha'r holl an- hawsterau, 'roedd yn nwylaw'r derbynwyr foreu Sadwrn. Yr ydym yn gofyn am faddeuant ein cefn- ogwyr am y diweddarwch hyn, gan wybod y cydym- deimlir a. ni, dan yr amgylchiadau. 302, GRAY'S INN ROAD.' Cofied ein gohebwyr y y rhifnod newydd hwn o hyn allan. Dyma'r cyfeiriad am yr hanner canrif nesaf o leiaf. Mae'r hen adeilad yn 211, i gael ei dynnu i lawr er rhoddi lie i breswyl- feydd newydd, a saif y swyddfa bresennol ar yr ochr arall i'r heol, ychydig latheni yn nes i orsaf King's Cross. Yma ceir pob math o argraffu yn cael ei wneud gan Gymry priodol; a throir y gwaith allan gyda phob gofal a phrydlondeb, ac am y telerau rhataf yn y ddinas. DATHLU'R AGORIAD.-Caed noson lawen ddechreu'r wythnos hon i ddathlu agoriad yr ystafell newydd y Gol. Daeth yr hen ohebwyr yno yn siriol fel arfer, ac yn eu cwmni lu o rai newydd i ddymuno pob llwydd i'r cartref hardd mae'r CELT wedi ei sicrhau yn awr. Dechreuwyd y cyfarfod gan "Norick" mewn cywair nodweddiadol o un o'r deuddeg apostol," a thystiai fod erthyglau y CELT, yn oaystal a'i ysgrifau ef, wedi dylanwadu mwy ar y Weinyddiaeth bresennol ynglyn a Datgysylltiad na'r holl areithiau condemniol draddodwyd gan Ellis Griffith neu Llewelyn Wil- liams, Ond i ni gael Gwasg rydd a hollol genedl- aethol," meddai, ni fydd eisieu pryderu dim am ddyfodol y genedl. Fe ofala hon fod pob chwareu teg yn cael ei roddi i ni." Yna rhoddodd John Hugh Edwards air o glod i'r CELT, a thystiodd mai cynghorion amserol a doeth y newyddiadur hwn a'i cymhellodd ef a'i Gymdeithas i ymuno a'r Gymdeithas Ryddfrydol newydd, gych- wynwyd beth amser yn ol, o dan fendith Mr. Lloyd George a Mr. Herbert Lewis. Tystiodd Arglwydd Glantawe i deyrngarwch y CELT ar ran y mudiad i gael Ysgrifennydd Seneddol tros Gymrn, a dywedodd yr edrychai ymlaen at ei ddyfodiad bob dydd Gwener gyda llawer o foddhad. Daeth Arglwydd Faer Caerdydd i fewn i dalu ei ddiolch i'r CELT am ei wasanaeth tros fudiadau goreu'r genedl. Addefodd mai i ddylanwad y newyddiadur hwn yr oedd Aberystwyth yn ddyledus am sicrhau'r Llyfrgell Genedlaethol, er mawr siom a gofid i Caerdydd. Tra'n gofidio am hynny yr oedd yn llawen ganddo ddeall ei fod yn gefnogol i'r Pageant oeddent i gael ym mhrif ddinas y Deheu- barth yn ystod y flwyddyn hon. Yna cododd Syr Vincent-nage, mae'n rhy gynnar i ddweyd hynny hefyd—Mr. Vincent Evans i ddweyd fod tynged yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiogel yng ngofal y CELT, ac fod llwyddiant arianol yr Wyl yn berffaith sicr. Amheuai Mr. Lloyd George a'i nid oedd yn hen bryd i osod treth ar bapurau llwyddiannus fel y CELT. Pe gwnelai hyn hwyrach y chwyddai ei gyllid rhyw gannoedd o filoedd n bunnau yn rhagor. Daeth y beirdd-Rhuddwawr, Machreth, ac Elfed yno hefyd, a llu o wyr blaenaf y cylch Cymreig, ac 'roedd eu dymuniadau siriol yn gefnogaeth mawr i'r Gol., ac yn ad-daliad iddo am y lludded a'r siom a gafodd yn ystod yr wythnos fiaenorol. SICRHAU COPIAU.—Cwyna rhai o'n derbynwyr am na chant gopi o'r CELT yn rheolaidd. Eu bai hwy eu hunain sydd yn gyfrifol am hyn. Mae pob siop newyddiaduron yn abl i gael y CELT, a'r unig ffordd o'i sicrhau yn gyson yw trwy roddi archeb rheolaidd am dano yn y siop, lie y ceir newyddiaduron ereill. Mae gennym ddosbarthwyr ynglyn a phob eglwys Gymreig, ac yn y gwahanol orsafoedd mae Mri. W. H. Smith & Son a'r Mri. Willing a'r Mri. Wyman & Son yn cael cyflenwad rheolaidd o hono. GYDA'R POST.-Gellir cael copiau o hono yn rheolaidd drwy'r post ond anfon blaendal o 1/8 y chwarter. Gyrrir copiau o'r swyddfa yn rheolaidd ar nos Iau fel ag i gyrraedd ein derbynwyr yn Llundain ar foreu Gwener. PWY SY'N EI DDARLLEN ?—Dyna oedd holiad Mr. William Evans, C.B., yn y Clwb Rhyddfrydol Cenedlaethol y nos o'r blaen Hawdd fyddai i Mr. Evans wybod fod naw o bob deg o Gymry r ddinas yn ei ddarllen, pe bae yn cymeryd rhan fwy blaen- llaw ym mywyd Cymreig ein cydgenedl yn Llundain.
Advertising
national (Sistcbbfob of. IPalcs, LONDON 1909. PATRONS H.M. THE KING. R.M. THE QUEEN. H.R.H. THE PRINCE OF WALES. H.R.H. THE PRINCESS OF WALES. PRESIDENT LORD ABERDARE. A Grand Concert will be given at the hau,, LANGHAM PLACE, W., by the National Eisteddfod Choir, (numbering 300 voices. Condubtor, Mr. MERLIN MORGAN) On THURSDAY. MARCH II, 1909, at 8 p.m. The following Artistes will also appear- Miss EDITH EVANS Miss GWLADYS ROBERTS Mr. SPENCER THOMAS Mr. IVOR FOSTER Solo Pianoforte—Mr. IDRIS LEWIS Accompanist & Organist- Mr. D. RICHARDS Choir Accompanist— Miss SALLIE JENKINS TICKETS—Stalls, numbered and reserved, 7/6 & 5/- Area, 11 3/- Grand Circle, 5/- & 3/- Balcony, 2/- area, 1/- To be obtained at the Queen's Hall, or from the General Secretaries, 63, Chancery Lane, and from the Hon. Sec. of the Concert, E. A. Jones, 63, Chancery Lane, W.C.