Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
..<c -0 ABSOLUTELY PURE MILK. DIRECT WITH Full FROM THE FARMS Warranty deliveries TO all pabts. FREETH £ POCOCK, LTD., A Wholesale JVlilk and Cream Contractors, 2^- ALBERT E 1Y.I: B A IV li 3M: E KT T, S. E. West Centrall & Northern Depot WAKEFIELD STREET, JUDD STREET, W.C. THE c ENTR All INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the Liverpool and London & Globe Insurance Co. Assets exceed 411,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.C. HUGH LEWIS, Manager and Secretary. D. COOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. (Price List on application.) 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department 97, CHAPEL STREET Telephone Nos. SO and 601, NORTH n ftlDRlDGE'S HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE. LONDON W.C. Horses of every class old by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues orwarded. YN AWR YN BAROD. GERAINT AC ENID, A CHANIADAU ERAILL. GAN MACHRETH. MEWN LLIAN HARDD, PRIS 216. (Drwy y Post, 2/9.) I'w gael oddiwrth yr Awdwr- 13, MEATH ST., BATTERSEA PARK, LONDON, S.W.
DILEU'R TYLOTTY.
DILEU'R TYLOTTY. Mae chwyldroad cymdeithasol arall yn agoshau. Nid cynt y rhoddwyd biwydd-dal i'r hen, i lonni pobl bryderus ein hardaloedd gwledig, nag y daw Adroddiad Swyddogol arall, yn cymeradwyo cynlluniau newydd i ymdrin a'r tylawd; ac yn cydnabod fod dyddiau'r tylotty wedi eu rhifo Am dros dair blynedd mae Dirprwyaeth ddysgedig wedi bod yn eistedd ar bwnc y tylodion. Cynwysai'r Ddirprwyaeth rai o wyr blaenaf y deyrnas ynglyn a chwestiwn y tylawd, y diwaith, a'r afrad--pdbl wedi rhoddi pob ystyriaeth i'r mater holl-bwysig o sut i ofalu am y tylawd a'r hen a hawlia eu dyfarniad ein hystyriaethau mwyaf dwys. Mae'r adroddiad gyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf dros fil o dudalenau, a chydna- byddir ef gan flaenoriaid pob plaid yn un o'r adroddiadau mwyaf pwysig sydd wedi ei gyhoeddi ers blynyddau lawer. Sut i wella'r gyfundrefn o ofalu am y tylawd yw prif ymdriniaeth yr adroddiad, a cheir dwy farn gan y Dirprwywyr. Rhydd y mwyafrif adroddiad yn cymeradwyo gwelliantau amryw ar y gyfundrefn bresennol, tra y mae'r lleiafrif yn cyhoeddi yn groyw nad oes obaith gwella yr un mudiad sydd wedi ei seilio ar sylfaen mor anheg ac amhriodol. Maent oil am wneud i ffwrdd a'r Gwarch- eidwaid presennol, a chyflwyno yn eu lie rhyw fath o bwyllgorau gweithiol bychain dan nawdd y Cynghorou Sirol, ac mewn cyd weithrediad a rhai o'r cymdeithasau dyngarol sydd mewn bodolaeth yn awr. Mae'n wir fod y gyfundrefn, fel y mae yn awr, yn un wastraffus i'r eithaf, a'r cwestiwn yw a oes modd lleihau'r gost. Gall fod gwahanol farnau ar y cynlluniau newydd, ond y mae un peth yn amlwg, sef fod Prydain wedi dechreu sylweddoli fod yr hen ddull barbaraidd a hen ffasiwn sydd gennym yn awr yn hollol anaddas i wella cyflwr cymdeithasol y genedl. A ddyfeisir gwell a rhatach cynllun gan y Weinyddiaeth bresen- nol sydd fater a benderfynir gan amser yn unig. Ond y mae yn rhyw galondid i ni fod ein harweinwyr, o'r diwedd, wedi dihuno i'w cyfrifoldeb.