Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
CHELSEA TOWN HALL (KING'S ROAD, SLOANE SQUARE, S W.) .J'J'J-J'J-r-I'I A GRAN D EVENING CONCERT WILL BE GIVEN Next WEDNESDAY, April 28th, 1909. Doors Open at 7.30. Commence at 8. "TT"T. TTT"" T T"" T T"" THE LONDON WELSH MALE VOICE CHOIR (Numbering 60 voices). Conductor Mr. MERLIN MORGAN. r-r- The following Artistes wid also appear: Miss MARGARET LAYTON Mr. JOE-Iti WALTERS (Gold Medalist) Mr. NELSON JACKSON (Humorist) Mr. JAMES BOVETT Miss MARJORIE KING-BEER (Violin), Assisted by the MARKHAM SQUARE CHOIR (Conducted by Mrs. MARY LAYTON, F.R.C.O.) Accompanist Rtf. SEYMOUR DICKER. -J Tickets :—Sofa Stalls, 5s. Area, 2s. 6d. Gallery, Is., May be obtained from- JOHN D. DAVIES, 97, Flood Street, Chelsea. (Telephone No. 4265, Western), or at the doors. EOLVVYS Y BEDYDDWYR HEOL = Y = CASTELL, W. 1659-1909. CYNHELIR A"V Oyfarfodydd i ddathlu Jiwbili yr Eglwys Sul a Linn, Mai UP 2 a'r 3. 11IIr'II¡II""¡II'IJI¡I'11Jl1'IJf!lrlll''IIH1!II''Ij!11"'IjIW!)(!I"'li!!1"'(ijjl"'¡Wjl"i(II"'t¡frI"H1I"ljflll"'¡HlI"I(II"[!!HI"llttr Pregethir y Sul, boreu a hwyr, gan y Parch. A. J. PARRY, Doom; a'r Parch. EVAN THOMAS, Ealing (yn Saesneg) yn y prydnawn, am 3 o'r gloch. Cyfarfodydd Cyhoeddus NOS LUN, pan y disgwylir Cynrychiolwyr o'r gwahanol Enwadau i Siarad. Danteithion am 7 o'r gloch, a'r Cyfarfod i ddechreu am 8. — Gwafjoddiad cynnes i Gymry Llundaiij.— TUB: :E CENTRAL INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed, by the Liverpool and London & Globe Insurance Co. Assets exceed £ 11,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, Loss of Profits, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.C. HUGH LEWIS, Manager and Secretary. 7* la la IB IG H TS, LTD., FOR ARTIFICIAL TEETH. SPECIAL TERMS FOR WELSH PEOPLE Country Visitors are invited to call for Expeditious Work — completed in a few hours 25 Expert Mechanics on the premises. 42, BISHOPSGATE WITHOUT, CITY. (near Liverpool Street Station.) NOTE NAME BEFORE ENTERING. 'Buses from all parts of London and Suburbs pass the door. SIA.REDIR CYMRAEG OS YN FWY DYMUNOL NOW BEING PU BLISHED. THE MORRIS LETTERS. Containing interesting account of Welsh Life in London and Wales during the latter half of the 18th Century. Transcribed from the Originals, and Edited by John H. Davies, M.A., Registrar University of Wales, Aberystwyth, from whom copies may be obtained. ISSUED IN PARTS AT 5j- EACH. ——— PART VI NOW READY.
DATGYSYLLTIAD.
DATGYSYLLTIAD. Wele'r Mesur hir-ddisgwyliedig wedi ei gyflwyno o'r diwedd i Dy'r Oyffredin. Dydd Mercher diweddaf bu Mr. Asquith yn gwneud ymgais arall dros ryddhad crefydd yng Nghymru, a thraddododd araith a ddylai gael darlleniad cyffredinol gan bawb a garant gyfiawnder. Mae'r Prif Weinidog yn deall safle Cymru ynglyn a'r Egl wys Sefydledig yn well na mwyafrif yr aslodau sydd yn ei gefnogi yn y Ty. Efe, fel y cofir, fa yn dadleu dros ryddhad y genedl pan fu'r pwnc hwn gerbron, rhyw bymtheng mlynedd yn ol. Aeth Mesur Datgysylltiad drwy ei ail ddarlleniad y pryd hwnnw gyda mwyafrif sylweddol, a hynny yn bennaf fel canlyniad i'r modd galluog yr eglurwyd ei wahanol adrannau gan Mr. Asquith ei hun. Beth am y Mesur presennol ? Y mae ei gynnwys yn sicr o greu llawer o ddadlu. Yn un peth, nid yw yn ddigon chwyldroadol i'r Rhyddfrydwyr Cymreig. Y mae yn llawer rhy ffafriol i sefydliad estronol fel ag ydyw'r Eglwys yng Nghymru. O'r ochr arall, bydd amddiffynwyr yr Hen Fam yn uchel eu cri nad yw'r cyfan ond lladrad o'r fath fwyaf haerllug. A diau mai ffrwyth yr holl draf- odaeth fydd creu teimladau chwerw a gadael yr eglwys yn yr unfan. Pan ddaw rbyw- beth ger bron y SeDedd bresennol, ag arno sawr enwadaeth, mae yn amhosibl cael un math o benderfyniad arno. Yn ol y rhagolygon, mae'r Ty yn lied ffafriol i'r Mesur, a dywedir fod y G-wyddelod yn ffafriol iawn i'r achos Cymreig, ac y bydd iddynt gefnogi y Llywodraeth i roddi yr un breintiau i Gymru ag a roed i'r Iwerddon gan Gladstone flynyddau yn ol. Ond y mae Ty'r Arglwyddi yn anghymod- lawn. Nid oes obaith y gwna'r uchelwyr Eglwysig hyn ganiatau'r fath Fesur fyned drwodd. Ond nid achos i ddigaloni yw hyn. Daw pwnc Datgysylltiad bellach yn bwnc byw, yn bwnc y bydd yn rhaid i'r wlad roddi ei barn arno yn yr Etholiad Cyffred- inol nesaf, ac os bydd dyfarniad y wlad y pryd hwnnw yn wrthwynebol i waith a safle Ty'r Arglwyddi, yna ni fydd yn bosibl i'r dosbarth hwnnw wrthod cais Ty'r Cyffredin pan ddaw y Mesur drwy'r Ty Cyffredin, dan arweiniad Prif Weinidog y Senedd Rydd- frydol nesaf.
[No title]
MAE swm y tanysgrifiadau tuag at yr Eisteddfod wedi cyrraedd dros £ 1,100. DAETH yr Archdderwydd yn ol i Brydain ddydd Sadwrn diweddaf ar ol bod yn treulio ei auaf yn ynysoedd y Canary. Bydd y Brenin hefyd yn dychwelyd yr wythnos nesaf, ac yna bydd popeth yn dda. MAE Mr. John Owen, o'r Bwrdd Amaeth- yddiaeth, wedi ei benodi yn Arolygydd Cynorthwyol tros Gymru dan Ddeddf y Man Ddaliadau. BWRIADA Arglwydd Tredegar roddi croesaw arbennig i'r holl Eisteddfodwyr ddeuant 1 Lundam ar adeg yr Wyl Genedl- aethol ym Mehefin. CYNBALIWYD eisteddiadau o'r Ddirprwyaeth Eglwysig yr wythnos hon, a deallwn fod y Dirprwywyr ar eu goreu yn ceisio dod i gytundeb ar yr Adroddiad terfynol. DAW Cynonfardd trosodd o'r America erbyn adeg cynnal yr Eisteddfod yn Llun- dain. Mae Cynonfardd yn un o'r arwein- yddion goreu sydd gennym. YN ol yr adroddiad swyddogol diweddaraf mae meddwdod yn myned ar gynnydd yng Nghymru. Ac mae hyn yngwyneb y ffaith fod y Cymdeithasau dirwestol yn fwy byw nag erioed yn ein plith. CAED cyfarfod mawr yng Nghaergybi ddydd Llun diweddaf, pryd y bu Mri. Ellis J. Griffith, A.S., a Clement Edwards, A.S, yn traethu ar Ddatgysylltiad.