Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

[No title]

RHWYSG HANES CYMRU.

NODION EISTEDDFODOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Wele gyfarchiad awenyddol yr Archdder- wydd :— PRIODAS Miss Gladys Annie Ellen Evans, a John Clark, Ysw., Llundain. Yma'n gryf yn rhwymyn gras-dau a wnaed Yn un mewn priotas; Di-heulwen f'ai gwen y gwas, Reb Ellen yn ei balas. Gweled swyn Gladys Annie—eneth deg, Wnaeth i dorf wiriuni Ond enaid Clark am dani 0 dy ei thad aeth a hi. Gwyryf dan newydd goron-ydyw hi Heb dwyll yn ei chalon A beunydd ym mhori hioion, Y mae nef yng nghwmni hon. Oes bir yn llawn trysorau—i'r gwyn bar, A gwen byd a'i ffafrau Annedd dan gliraf nennau 0 ddifyr ddydd fo i'r udau. -Dyfed. # Yr uti noson caed pwyllgor ynglyn a'r Eisteddfod, ac ni phrofodd ei gyhoeddiadau teuluaidd yn ormod o rwystr i'r Finsent roddi ei bresenoldeb a llywio'r gwaith yn ol ei arfer. Nis gellir cyhoeddi i sicrwydd eto pa nifer yw'r ymgeiswyr, ond dywedai'r ysgrifenyddion fod yr enwau yn dylifo i mewn yn hynod o foddhaol, a bydd y man- ylion llawn yn nwylaw y swyddogion erbyn dechreu'r wythnos nesaf.