Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB Y.S. YR ANIBYNWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB Y.S. YR ANIBYNWYR. CYMANFA'R PLANT. 0 dan nawdd Undeb Ysgolion Sabothol yr Anibynwyr Cymreig yn Llundain, caed Cymanfa arbennig i'r plant ynghapel y Boro' nos Ian, Ebrill 29ain, o dan lywydd- iaeth y Parch. J. Machreth Rees. Caed cystadleuon dyddorol mewn adrodd, canu, darllen, &c., a chloriannwyd y gwahanol adrannau gan Parch. E. T. Owen a'r Mri. D. Thomas, Cyrus J. Evans, J. Edward Thomas, a Hugh Watkins. Y cyfeilydd oedd Miss Jennie Jones, A.R.C.M. Er fod torf o blant wedi dod i gymeryd rhan rhaid addef mai ychydig oedd nifer y gwrandawyr. Mae hyn i'w otidio, oherwydd nis gall yr eglwysi Cymreig fforddio i esgeuluso eu plant mewn cyfnod pan mae'r Ysgol Sul yn colli tir yn ein mysg fel cenedl. Y buddugwyr yn y gwahanol gystadleuon oeddent:— Adrodd i blant dan 8 oed 1, Ian Davies, Radnor Street; 2, T. Powell, Boro'. Eto i rai dan 12: 1, Evan Prosser Evans, East Ham 2, Edith Evans, Battersea Rise. Eto i rai dan 16, rhannwyd rhwng Herbert Reynolds, King's Cross, a Nesta Rees, Rad- nor Street. Ysgrifennu Salm 1, Ceinwen Davies, King's Cross; 2, Menna Rees, Radnor Street; 3, Ian Davies, Radnor Street. Arholiad Llyfr Elfenol. Rhan laf Dewi Davies, King's Cross. Eto Rhan II: 1, Ian Davies, Radnor Street; 2, Tommy Jones, Radnor Street. Eto Rhan IV: 1, Mellna Rees, Radnor Street; 2, Lilian Jenkins, Radnor Street. Hanes Sanftiel, rhannwyd y -wobr flaenaf rhwng Herbert a John Rey- nolds, King's Cross, a'r ail rhwng Nesta Rees, Radnor Street, a Griffith John Jones, East Ham. Cyfieithiad. o'r Saesneg i'r Gymraeg 1, Nesta Rees, Radnor Street; 2, Herbert Reynolds, King's Cross 3, Hannah Joiies, King's Cross. Ysgrifennu Emyn Cymreig ar y pryd: 1, Herbert Reynolds, King's Cross; 2, Nesta Rees, Radnor Street. Dar- llen Cymraeg: 1, Herbert Reynolds, King's Cross; 2, Nesta Rees, Radnor Street; 3, Edith Evans, Battersea Rise. Cyfieithu chwe gair ar y pryd 1, Hannah Jones, King's Cross 2, Ian Davies, Radnor Street. Pencil sketch 1, Herbert Reynolds 2, John Reynolds, King's Cross. Unawd i blant dan 8 oed: 1, Maggie Jones, King's Cross 2, Ian Davies, Radnor Street; 3, Emrys James, Boro. Eto i blant dan 12, rhannwyd rhwng Maggie Ioties, King's Cross, a Menna Rees, Radnor Street. Eto i rai dan 16, "O'r Niwl i'r Nef": 1, Hannah Jones, King's Cross; 2, Blodwen Jones, King's Cross. Eto i fechgyn dan 16 1, Idris Evans, East Ham 2, Teify Lewis, King's Cross. Unawd ar y berdoneg i rai dan 12: 1, Idwen Evans, Radnor Street; 2, Gwladys Jones, King's Cross. Eto i. rai dan 16: 1, BJodwen Jones, King's Cross. Cystadleuodd tri o gorau sef King's Cross, Boro, a Radnor Street. Aeth y wobr flaenaf i'r Boro' a'r ail i King's Cross, a'r anrhydedd yn ddiameu i gor bach swynol Miss Morfudd Rees, Radnor Street, felly terfyn- wyd cyfarfod diddan.

Advertising

[No title]

CYFARFODYDD.