Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
UNDEB Y.S. YR ANIBYNWYR.
UNDEB Y.S. YR ANIBYNWYR. CYMANFA'R PLANT. 0 dan nawdd Undeb Ysgolion Sabothol yr Anibynwyr Cymreig yn Llundain, caed Cymanfa arbennig i'r plant ynghapel y Boro' nos Ian, Ebrill 29ain, o dan lywydd- iaeth y Parch. J. Machreth Rees. Caed cystadleuon dyddorol mewn adrodd, canu, darllen, &c., a chloriannwyd y gwahanol adrannau gan Parch. E. T. Owen a'r Mri. D. Thomas, Cyrus J. Evans, J. Edward Thomas, a Hugh Watkins. Y cyfeilydd oedd Miss Jennie Jones, A.R.C.M. Er fod torf o blant wedi dod i gymeryd rhan rhaid addef mai ychydig oedd nifer y gwrandawyr. Mae hyn i'w otidio, oherwydd nis gall yr eglwysi Cymreig fforddio i esgeuluso eu plant mewn cyfnod pan mae'r Ysgol Sul yn colli tir yn ein mysg fel cenedl. Y buddugwyr yn y gwahanol gystadleuon oeddent:— Adrodd i blant dan 8 oed 1, Ian Davies, Radnor Street; 2, T. Powell, Boro'. Eto i rai dan 12: 1, Evan Prosser Evans, East Ham 2, Edith Evans, Battersea Rise. Eto i rai dan 16, rhannwyd rhwng Herbert Reynolds, King's Cross, a Nesta Rees, Rad- nor Street. Ysgrifennu Salm 1, Ceinwen Davies, King's Cross; 2, Menna Rees, Radnor Street; 3, Ian Davies, Radnor Street. Arholiad Llyfr Elfenol. Rhan laf Dewi Davies, King's Cross. Eto Rhan II: 1, Ian Davies, Radnor Street; 2, Tommy Jones, Radnor Street. Eto Rhan IV: 1, Mellna Rees, Radnor Street; 2, Lilian Jenkins, Radnor Street. Hanes Sanftiel, rhannwyd y -wobr flaenaf rhwng Herbert a John Rey- nolds, King's Cross, a'r ail rhwng Nesta Rees, Radnor Street, a Griffith John Jones, East Ham. Cyfieithiad. o'r Saesneg i'r Gymraeg 1, Nesta Rees, Radnor Street; 2, Herbert Reynolds, King's Cross 3, Hannah Joiies, King's Cross. Ysgrifennu Emyn Cymreig ar y pryd: 1, Herbert Reynolds, King's Cross; 2, Nesta Rees, Radnor Street. Dar- llen Cymraeg: 1, Herbert Reynolds, King's Cross; 2, Nesta Rees, Radnor Street; 3, Edith Evans, Battersea Rise. Cyfieithu chwe gair ar y pryd 1, Hannah Jones, King's Cross 2, Ian Davies, Radnor Street. Pencil sketch 1, Herbert Reynolds 2, John Reynolds, King's Cross. Unawd i blant dan 8 oed: 1, Maggie Jones, King's Cross 2, Ian Davies, Radnor Street; 3, Emrys James, Boro. Eto i blant dan 12, rhannwyd rhwng Maggie Ioties, King's Cross, a Menna Rees, Radnor Street. Eto i rai dan 16, "O'r Niwl i'r Nef": 1, Hannah Jones, King's Cross; 2, Blodwen Jones, King's Cross. Eto i fechgyn dan 16 1, Idris Evans, East Ham 2, Teify Lewis, King's Cross. Unawd ar y berdoneg i rai dan 12: 1, Idwen Evans, Radnor Street; 2, Gwladys Jones, King's Cross. Eto i. rai dan 16: 1, BJodwen Jones, King's Cross. Cystadleuodd tri o gorau sef King's Cross, Boro, a Radnor Street. Aeth y wobr flaenaf i'r Boro' a'r ail i King's Cross, a'r anrhydedd yn ddiameu i gor bach swynol Miss Morfudd Rees, Radnor Street, felly terfyn- wyd cyfarfod diddan.
Advertising
CASTLE STREET WELSH BAPTIST CHAPEL, 30, Castle Street East, OXFORD CIRCUS, W. -r'r- Pastor Rev. Herbert Morgan, B.A. iq GRAND SOIREE.. WILL BE HELD AT THE ABOVE, On Thursday, May 20th, 1909. Chairman, WILLIAM PRICE, Esq. ARTISTES- Madame LAURA EVANS-WILLIAMS Miss DILYS JONES Mr. CYNLAIS GIBBS Mr. T. BRYNIOG JONES ACCOMPANIST Mr. DAVID RICHARDS, A.R C.O. Tea on the tables from 6 to 7.45. Concert to com- mence at 8 prompt. Admission by Tickets, 3s., 2s., Is.; To be obtained of the Secretaries- Mr. DANIEL RICHARDS. 31. Sun Street, E.C.; and Mr. JOHN OWEN, 3D, King Street, Camden Town. JS2" Please book this date and secure tickets early to avoid disappointment.
[No title]
DYWEDIR fod pobl Abertawe wedi dewis Sais ananog i fod yn Y logeisydd Rhydd- frydol yn lie Syr George Newnes Dyma gyfle nodedig i genedlaethwr o Gymro i ymladd y sedd, fel y gwnaed gan bleidwyr Llafur yn Sheffield yr wythnos hon.
CYFARFODYDD.
CYFARFODYDD. CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Ebrill 28ain. Llywydd, Mr. E. Edwards, M.A. 1. Dechreuwyd gan y Parch. S. E. Prytherch, Falmouth Road. 2. Cydnabyddwyd cydymdeimlad y C M. gan Mrs. L. H. Roberts, Aberystwyth; Mr. R. Roberts, J.P., Canonbury; Mrs. Griffith Davies, Ealing Mr. Abel Vaughan, Stratford Mr. J. Griffiths, Lewisham a Mr. O. Morgan Owen, Charing Cross Road. 3. Yn unol a chenbadwri o Gymdeithasfa Cas- newydd, penderfynwyd dathlu pedwerydd can- mlwyddiant genedigaeth John Calvin, ynghyda chanmlwyddiant genedigaeth Dr. Lewis Edwards y Bala. Penodwyd ysgrifennydd y C.M. i gynnull gweinidogion a phregethwyr y C.M., ynghydag un blaenor o bob eglwys yn bwyllgor y trefnu gogyfer a'r dathliad yn Llundain. 4. Cyftwynwyd i'r Pwyllgor Dirwestol yr anogaeth- au canlynol, dderbyniwyd o Bwyllgor Dirwestol Cymdeithasfa y Deheudir- (a) Fod y C.M. yn ymdrechu i sefydlu y Cym- deithasau Dirwestol Cyfundebol yn yr holl eglwysi (b) Fod y Pwyllgor Dirwestol yn trefnu i egluro darpariadau Mesur y Plant i'r eglwysi a'r cynulleidfaoedd, yn arbennig gan fod gobaith cael cyfieithiad Cymraeg o'r Mesur' 5. Caniatawyd cais o Ealing am agor y safe er gosod gweithredoedd i fewn, a phenodwyd Mr. W. Lewis, Willesden Green, yn gofiadur dros y C.M. am y tro. 6. Penodwyd Mr. R. O. Jones, Wilton Square, i gynnull un blaenor o bob eglwys, ynghydag arwein- yddion y gan yn y gwahanol eglwysi, yn bwyllgor i wneud trefniadau gogyfer a'r Gymanfa Ganu nesaf, ac i ddwyn adroddiad i'r C.M. 7. Galwodd y Parch. D. Oliver, Mile End, sylw at gyfarfod Blynyddol Cymreig y Fibl Gymdeithas gynhelir yn Jewin nos Fawrth, Mai y 4ydd. Anerchir y cyfarfod gan y P.irchn Dr. Cynddylan Jones, a D. Charles Edwards, M.A. 8. Dewiswyd yn bwyllgor i ystyried y priodoldeb o ddwyn allan argraffiad diwygiedig o Lawlyfr Rheolau y C.M. y Parchn. D. Oliver, F. Knoyle, J. Thickens, Mri W. Prydderch Williams, E. Daniel, W Evans, O. M. Williams, O. Lloyd Owen, ynghyd- ag enwogion y C M yr ysgrifennydd yn gynullydd. 9 Penodwyd y Parch. P. H. Griffith a Mr. John Rees, Jewin, i leoli Mr. T. Jones, ymgeisydd am y weinidogaeth yn Eglwys Mile End, ac i gymeryd pleidlais ddirgel yr eglwys arno. ]0 Cadarnhawyd awgrymiad Pwyllgor yr Ym- welwyr- (a) Fod daflen cyfrifon arferol i'w defnyddio yn yr ymweliad. (b) Mae mater y Seiat fyddai Ffyddlondeb i foddion gras," seiliedig ar Heb. 10. 25. (c) Fod Mri. W. Price, Shirland Road, a Rees Jones, Mile End, i'w hychwanegu at nifer yr ymwelwyr am y flwvddyn (d) Fod- 1. Y Parch. R. O. Williams (cynullydd), Mri. M. Morgan, Falmouth Road, ac R. Thomas. Charing Cross Road, i ymweled ag eglwysi Jewin, Milp. End, Hammersmith, a Lewisham 2 Y Parch. J. Thickens (cynullydd), Mri. Lloyd Williams (.Villesden Green), a Wm. Hughes (Falmouth Road), i ymweled ag eglwysi Charing Cross Road, Shirland Road, Clapham ham, a Wood Green. 3. Y Parch. D. Oliver (cynullydd), Mri. Daniel Williams (Jewin), a Rees Jones (Mile End), i ymweled ag eglwysi Wilton Square, Holloway, Walham Green, a Walthamstow. 4. Y Parch. F. Knoyle (cynullydd), Mri W. Price (Shirland Road), a W. Jones (Lewisham), i vmweled ag eglwysi Falmouth Road, Strat- ford, Willesden Green, ac Ealing. 11. Awdurdcdwyd y trysorydd i dalu am argraffu, &c., a'r llywydd a'r ysgrifennydd i lawnodi ceisiadau rheolaidd am fenthyg o'r Gronfa Fenthyciol. 12 Cadarnhawyd awgrymiadau canlynol Pwyilgor yr Achosion Newyddion- (a* Fod Mri G W. Jones (Lewisham), a Mr. 0 M Williams i dynnu allan yr adroddiad blynyddol i Bwyllgor y Cymry ar Wasgar. (b) Fon Eglwys Lewisham i symud ymlaen i sicrhau gweinidog, ac fod y brodyr canlynol yn ffurfio yn bwyllgor i gynorthwyo a chyfar- wyddo yr eglwys gyda hyn o waith-Parchn. T. F. Jones, W. Tyler Davies, Mri. M. Morgans (Falmouth Road), J. Rees (Jewin), James Evans (Clapham), a Richard Thomas (Charing Cross Road), Mr. E. W. Jones,. Lewisham, yn gynullydd. (c) Fod yr ysgrifennydd i anfon at yr eglwysi am grants at y flwyddyn nesaf, ac i ofyn hefyd am eu cyfrifon. Y cyfryw i'w hystyried gan Bwyllgor yr Achosion Newyddion cyn y cyf- lwynir hwy i is-bwyllgor y grants. (d) Fod y cais am grant o IB100 eleni o'r Gymanfa Gyffredinol at yr achosion newyddion a chenhadol yn Llundain i'w dynnu yn ol. 13. Terfynwyd drwy weddi gan y Parch. J. Hughes, Battersea. G. H. HAVARD, Ysg. PRIODAS Miss E. Vincent Evans gyda Mr. John Clark. Er cymaint y newid a welir Yn banes trigolion y byd- Y newid ar ffyrdd ac arferion, Yr un ydyw cariad o hyd. Beth bynnag oedd serch ym Mharadwys Mae'n para hyd heddyw yr un; 'Dall cariad ddim newid ei anian Na natur byth newid ei hun. Y cariad fu'n cynneu yn wenfflam Rhwng Adda ac Efa'n yr ardd, A'r cariad fu'n edrych ar Olwen Yn rhodio rbwng meillion mor hardd, Yw'r cariad sydd yma yn uno Dau ieuanc serch-hudol ynghyd, A chariad dan sel eu priodas Fo bellach yn gwynnu eu byd. Mae'r Ysgall a'r Cennin yn caru, Mae'r Alban a Chymru yn un Mae r Delyn a'r Godbib yn canu Per ddeuawd priodas mor gun. Llawennydd yn awr sydd yn torri Fel llanw dros wyneb y tir— Fe glywir sain can a gortoledd- Mae glasar yr awyr yn glir. laith rhyfyg yw honno sy'n d'wedyd Fod cariad bob amser yn ddall- Mae'r neb sydd yn caru'n angherddol Yn gyflym i weled ei wall. Mae'n gweled mor glir ac mor dreiddgar Nes canfod y ffordd i fyd gwyn, A gwneuthur pob diffyg i fyny Dan sel glan briodas a fynn. o ddedwydd briodas Bydd Gladys Byth mwyach yn goron i'w gwr. o ddedwydd briodas Bydd loan Byth mwyach i Gladys yn dwr. 0 ddedwydd briodas Mae Gorsedd Y Beirdd yn cysgodi dros hon, A'i banllef a rydd yr Eisteddfod I foli par ieuanc mor lion. t Boed heulwen ddi-gwmwl yn gwenu I lonni eu taith trwy y byd, Ac adar Rhrianon yn canu 0 erwmpas eu haddef o hyd. Boed engyl gwarcheidiol i'w gwylio, A'u cadw'n ddi-gwymp ymhob man, A haelaf fendithion y Nefoedd Fo iddynt byth bythoedd yn rhan. RHUDDWAWR, Wladys anwyl, dy swynion-a ddenodd Anwyl lane rhydd galon Rhodded lor ei wedd dirion A mawr lwydd i ddau mor Ion. EIFIONYDD.