Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
7* Li La B RIG H T S, LTD., FOR ARTIFICIAL TEETH. SPECIAL TERMS FOR WELSH PEOPLE Country Visifor4 are invited to call for Expeditious Wurk cdmp eled in a few hours 25 Expert Mechanics on the rr, mises. 42, BISHOPSGATE WITHOUT, CITY. (near Liverpool Street Station) NOTE NAME BEFORE ENTERING. 'Buses from all parts of London and Suburbs pass the door. SIAREDIR CYMRAEGr OS YN FWY DYMUNOL THE CENTRAL INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the Liverpool and London & Globe Insurance Co. Assets exceed £ 11,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, Loss of Profits, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.C. HUGH LEWIS, Manager and Secretary. DAIRY OUTFIT PRAMS RUN LIGHT, WEAR WELL, KEEP BT, WHILE THEIR SHOW CaURNS HAVE A Brilliant Golden A two-years' Written Warranty with each Churn proves our confidence in their STRENGTH and DURABILITY PRICES ARE RIGHT! Dairy OUTFIT Co., Ltd., KING'S CROSS, LONDON. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Wales PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D (Vict). STUDENTS are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, £10. with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, fil. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Meii's Hostel. Warden hot. J W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. Warden- Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J, H. DA VIES, M.A., Registrar.
[No title]
N ID oes ond un diwinydd ym mhlith Dir- prwywyr yr Hynafiaethau, sef y Parch. G. Hartwell Jones, D.D. Os yw ei wybodaeth am bethau henafol yn eang, rhaid addef nad yw ei ddiwinyddiaeth yn henafol o gwbl. AR ol yr holl helynt a'r gwaeddi y mae Pwyllgor Eisteddfod Abertawe mewn dyled. Bu raid galw ar y gwarantwyr am ychydig bunnoedd i wneud y diffyg i fyny. Aeth yr elw wnaed o'r Wyl i dalu costau'r ddamwain ynglyn a'r babell. Ni all y Rhyddfrydwyr na'r Toriaid floeddio llawerarol etholiad Sheffield, ddydd Mawrth. Oynrychiolydd Llafur aeth a'r gamp y tro yma. Er cymaint y cri i'w berbyn y mae Plaid Llafur yn ennill tir. NID oes berygl y gwna Ty'r Arglwyddi wrthod Mesur y Gyllideb, Gwir fod gan y Ty Uchaf yr hawl i wneud hynny, ond nid ydynt erioed wedi defayddio'r gillu hwnnw. Mae'r cynllun sydd gan Mr. Lloyd George yn llawer rhy boblogaidd i'r Arglwyddi ei wrthod.
O'R PELLDEROEDD.
O'R PELLDEROEDD. Cymry New Zealand Yn niwedd mis Chwefror bu Cymry Christchurch yn croesawu y Cor Meibion Cymreig, dan arwemiad Mr. W. Thomas, a chaed hwylanghyffredin yn y ddinas. "Pan wnaed y bwriad yn hysbys," medd ein gohebydd, "ni ieddyliasom fod y fath nifer o Gymry yn trigo yng nghylchoedd Christ- church, ond er ein syndod, caed y fath nifer fel y rhoddodd awydd ynom i greu Cym- deithas Gymreig yn y lie, a hyn sydd bellach yn ffaith." Pan ddaeth cor Mr. Thomas yno ar ym- weliad, cawsant groesaw tywysogaidd. Der- byniwyd hwy gan faer y ddinas, a threfnwyd nifer o wibdeithiau i'w cymeryd i weled golygfeydd y lie, a'r wlad oddiamgylch. Yn rhagor cawsant gynulliadau lliosog i wrando ar eu peroriaeth, ac ni chaed erioed y fath wledd yn ninas Christchurch. Ar adeg Gwyl Dewi fTurfiwyd y Gym- deithas Gymreig, a hynny gyda brwdfrydedd mawr. Etholwyd Mr. Richard Evans yn llywydd, a Mr. Alfred Evans yn is lywydd. Y trysorydd yw Mr. D. W. Jones, gynt o Gaerdydd, ac mae Mr. David James-un o hen fechgyn King's Cross, gynt o Sir Benfro -yn ysgrifennydd Yn ot pob hanes y mae dyfodol gwych i'r Gymdeithas yn y wlad bellenig hon. Y Parch. John Davies Ychydig wythnosau yn ol hysbyswyd fod y Parch. John Davies—gynt o Shirland Road —ond yn awr o'r Unol Daleithau, ar fin ymddiswyddo o ofal Eglwys Racine, a dych- welyd i'r wlad hon. Ond daw'r newydd yn awr fod yr eglwys wedi llwyddo i'w ddenu i aros am dymor yno eto. Mae Mr. Davies yn bregethwr rhagorol yn y ddwy iaith, a bydd yn dda gan ei hen gyfeillion yn Llundain glywed am y parch a delir iddo gan ei ddeadell yn eglwys Racine. Cenedlgarwyr Canada Y dydd o'r blaen danfonodd cyfaill hanes cyfarfod dyddorol gan Gymry Edmonton, Canada, i ddathlu Gwyl Dewi, a phrawf y rhaglen a amgauodd eu bod wedi cael gwledd ac areithiau penigamp. Yr oedd yn amheuthyn o beth i weled rhaglen hollol Gymraeg, a chreai awydd ynom i ddanfon copi o honi i reolwyr Seisnigaidd y ciniawau Cymreig yn Llundain. Ond pa les siarad, mae gwladgarwch y Cymry pell hyn yn beth ieithgarol yn ogystal ag yn floedd tros y wlad a'i phobl. Mae llawer o Gymry yn byw yn ardal Edmonton, a phrofodd yr Wyl eleni yn foddion i ddod a llawer o bobl yr hen wlad i well adnabyddiaeth o'u gilydd. Daeth hanesion dyddorol ereill o California ac o Calcutta, He mae Cymdeithasau Cymreig hynol o lewyrchus. Cymraeg yn Yokohama Bl1 raid i Gymry Japan gynnal gwledd ar adeg Gwyl Dewi, a'r llywydd oedd Dr. W. J. E. Davies-mab Mr. William Davies, Y.H, Bitttersea-a gwr sydd wedi dringo i fri yngwlad Japan. Caed gan Sir Claude M icdonald i gynnyg y llwncdestyn Cymru," a rhoddodd araith edmygol o'r wlad fechan honno. Atebwyd y cynrychiolydd Pryd- einig mewn araith hyawdl gan un o'r Cymry, a theimlai pawb eu bod yn llawer mwy teyrngar i'r Hen Wlad ar ol y cyfarfyddiad hapus hwn.
GW ASTATHAU'R BEICHIAU.
GW ASTATHAU'R BEICHIAU. O'r diwedd mae gweinyddiaeth Mr. Asquith wedi profi i'r wlad ei bod yn ffydd- lon i'w honiadau rhyddfrydol. Mae'r Gyllideb a gyhoeddwyd gan Mr. Lloyd George ddydd lau yr wythnos ddiweddaf yn ddechreu. cyfnod newydd yn hanes ein gwlad. Bydd enw y Cymro talentog hwn ar lechres yr oesau fel un o'r diwygwyr pennaf, a'r gwr a greodd chwyldroad yn nhrefniant trethoedd ein gwlad. Er dyddiau Gladstone ei hun ni chaed araith mor feistrolgar ar drefniant arianol y Deyrnas ar lawr Ty'r Cyffredin, ac ni lwyddodd yr un Canghellor o'r blaen i wastathau y beichiau mor gyfiawn ag a wnaed gan Mr. Lloyd George. Yr oedd yr amgylchiad yn un eithriadol o anffafriol i wneud gwelliantau. 'Roedd yn rhaid wrth 16 miliwn o'r newydd tuag at dreuliau'r wlad, a'r pwnc oedd pa fodd i gyfarfod a'r angen. Yr hen arfer oedd gosod pen mawr y baich ar ysgwyddau'r gweithwyr a'r bobl dylawd, ond yn awr am y tro cyntaf yn ein hanes, wele bob dinesydd yn gorfod talu yn ol maint ei enillion, ac mae nwyddau dianghenraid fel gwirodydd a'r myglys yn gorfod talu eu rhan at y ddyled bresennol. Ac yn ben ar y cynllun i gyd wele'r tir yn gorfod talu ei gyfran tuag at y treuliau, a'r tirfeddianwr o'r diwedd yn cymeryd ei le ochr yn ochr a'r dinesydd cyffredin yn y gwaith angenrheidiol o ddileu ein costau blynyddol. Ac i'r Cymro o Griccieth mae'r deyrnas yn ddyledus am y chwyldroad bendithfawr hwn!
[No title]
MAE'R Blaid Gymreig yn parhau i gynnal cyfarfodydd a phasio panderfyniadau, ond dyna'r oil. Ceir gweled a fydd iddynt ofalu am lesiant Cymru pan ddaw Mesur Datgysylltiad i'w ddadlu yn ei fanylion.