Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. Yr Eisteddfod A barnu oddiwrth nifer y corau sydd wedi danfon eu henwau i fewn y mae rhagol- ygon yr Eisteddfod Genedlaethol yn addawol dros ben. Daw'r prif gorau i gyd o Gymru, ac mae hyn yn brawf nad yw pellter ffordd o un anfantais i'r cystadleuwyr aiddgar hyn. Ymhob adran mae'r cystadleuwyr yn dra Iliosog, a bydd rhaid chwynnu cryn lawer yn yr unawdau, &c. Ni chaniateir dim rhagor na thri o'r goreuon ymhlith yr unawdwyr a'r deuawdau i ymddangos yn gyhoeddus, a gwneir rheol bendant ar hyn gan y pwyllgor. "Cyngherddau Dal i ganu mae'r Cymry, ac mae'r cyngh- erddau mor boblogaidd y dyddiau hyn a phe yn cael eu cynnal ganol gaeaf. Yr wythnos nesaf ceir gwyl o gan yn Eglwys Dewi Sant, pryd yr ymddengys rhai o'r unawdwyr mwyaf poblogaidd ac mae rhagor o gyfarfodydd cyifelyb i ddilyn cyn y daw emu mawr yr Eisteddfod i lonni Llundain a'i swyn. # Wilton Square Ar nos Iau, Ebrill 22d.in, caed cyngerdd uwchraddol yn y lie hwn, a daeth llond yr adeilad o wrandawyr i fwynhau y wledd oedd wedi ei pharatoi iddynt. Nid yn ami y gwelir y fath nifer o ganeuon clasurol yn cael eu cyflwyno yn yr un cyngerdd ag a gaed y noson hon, a baedda'r cantorion a'r trefnwyr air o glod am y fath arlwy. Y datgeiniaid oeddeut Miss Gertrude Hughes, Miss Hannah Jones, Mr. Cynlais Gibbs, a Mr. Watkin Mills. Rhoddwyd hefyd alawon ar y sodd-grwth gan Mr. Morgan Morgan, a chyfeiliodd Mr. Merlin Morgan i'r oil o honynt. Caed canu rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Llywyddwyd gan Mr. Hugh Lewis, rheolwr y Central Insurance Com- pany. Can Newydd Mae Mr. Merlin Morgan yn dechreu dod yn enwog fel cyfansoddwr. Efe, fel y cofir, yw awdwr y gdn Meddyliau Plentyn," ac yn awr wele ef yn torri allan mewn dull m wy mawreddug gyda'i Can y Forwynig," ar eiriau cyfansoddedig gan Machreth. "Canwyd hi am y tro cyntaf yng nghyngerdd Wilton Square gan Miss Gertrude Hughes, yr hon bia'r hawl i'w chanu, ac ar y cyfan y mae'n gan lied swynol, er yn bur anhawdd i gantor cyffredin. Gwnaeth Miss Hughes, gyda'i llais cyfoethog, gyfiawnder a hi y nos hon, a chyfeiliwyd iddi gan yr awdwr ei hun. Chelsea Ynglyn a chapel yr Anibynwyr Seisnig yn Markham Square, rhoddwyd cyngerdd rnawr yn neuadd drefol Chelsea nos Fercher, Ebrill 28ain, pryd y caed gwasanaeth tal- entau o fri i ddyddori'r dorf fawr oedd wedi dod ynghyd. I Gymry'r ardal, dau atyniad pennaf y rhaglen oedd ymweliad Mr. John Walters, o Abertawe, a chor meibion Mr. Merlin Morgan Mae Mr. Walters yn ten gantor adnabyddus ymhlith Cymry Llun- dain, ac roedd yn llawenydd i'w glywed unwaith eto yn canu mor rhagorol. Rhodd- odd cor Merlin amryw ddarnau gyda mawr foddhad i'r dorf. Y cantorion ereill oeddent Miss Margaret Layton, Mr. J. A. Bovett, Cor Markham Square, tan arweiniad Mrs. Layton, F.R.C.O, a Miss Marjorie King- Beer fel unawdydd ar y crwth. Moorfields Nos Tan yr wythnos ddiweddaf oedd noson y cyngerdd mawr ynghapel Leonard Street, "City Road, ond yn anffodus trodd y noson yn un hynod o anffafriol o ran yr hin. Er hyn oil daeth cynulliad boddhaus ynghyd, a chaed canu rhagorol yn y lie. Yr unawdwyr oeddent Miss Laura Evans, Miss Lilian Rickard, Mr. Gwynne Davies, a Mr. David Evans, ynghyda Miss Jennie Jones fel cyf- eiles, a Mrs. Ethel Humphreys yn adrodd. Byddai'n anhawdd cael gwell cyfuniad o dalentau, a theimlai pawb eu bod wedi cael gwledd o'r fath oreu. Santley yn Gymro Gwnaed sylw yn y golofn hon beth amser yn ol fod y cantor hwn yn ymfalchio yn ei haniad Cymreig, a gwelsom brawf ychwan- egol o hynny y dydd o'r blaen. Mae gan Mr. Philip Lewis, y crythor Cymreig, ddar- lun o Sir Charles Santley, ar yr hwn y mae yn ysgrifenedig, To Philip Lewis, Welsh violinist, from Charles Santley, Welsh singer," a theimla Mr. Lewis yn falch iawn o'r anrheg. Nid yw pawb, efallai, yn gwybod mai fel crythor y dechreuodd Sir Charles ei yrfa ymyd y gan, ond ni bu yn hir cyn i'w lais cyfoethog dynnu sylw pawb, a chafodd y crwth lonydd wedyn. Philip Lewis Daeth y crythor hwn i fri yn ein plith yn ieuanc iawn, ac er ei fod bellach wedi gorffen tyfu o ran corff, y mae yn parhau i gynyddu mewn bri fel chwareuwr. Mae wedi ei benodi yn un o'r rhai sydd i gymeryd rhan yn nghyngherddau yr Eisteddfod fel un- awdydd, a bydd hefyd yn arweinydd rhan o'r gerddorfa Gymreig sy'n cymeryd rhan ym mherfformiad Caractacus." Yr Her Unawd Oes y champion solo yw hon, ac er mor boblogaidd yw'r gornestau, diau nad oes yr un ymdrechfa yn y maes cerddorol (os cania- teir i ni ddefnyddio'r fath frawddeg), yn rhoddi mwy o anfoddhad i'r beirniaid. Mae Harry Evans ac ereill wedi bod yn pregethu yn erbyn y fath gystadleuon, ond yn ofer. Myn y cyhoedd eu cae], ac nid oes yr un atyniad gwell mewn Eisteddfod neu gyng- erdd gwledig. Mae lJawer i'w ddweyd dros y cynllun, yn enwedig o du y gwrandawyr. Mewn un cyngerdd clywsom am gystadleu- aeth soprano neu denor ar 0 na byddai'n haf o hyd," a bu raid i'r dorf ddioddef deunaw o gantorion yn gwaeddi'r hen ddymuniad. Mewn her unawd agored ceir digon o amrywiaeth, a cha'r gynulleidfa gan newydd gan bob cantor bron. Am hynny mae'r cynllun yn atyniadol i'r rhai sy'n talu am y mwynhad o glywed y canu. Troion Digrif Ond gwaith anhawdd, fel yr awgrymwyd, yw i'r beirniad wneud ei feddwl i fynny. Ceir dau neu dri mor gyfartal fel y mae'n rhaid rhannu'r llawryf rhwng tri neu ychwaneg o'r cystadleuwyr. Cofus geanym glywed am un beirniad oedd mor ansicr ei feddwl fel y penderfynodd rannu y wobr o banner gini rhwng pump o gystadleuwyr! Yn Aberavon y Sadwrn diweddaf rhoddid cwpan arian i'r goreu, a dyfarnwyd tri yn gyfartal ar y diwedd, a'r pwnc ydoedd sut i rannu'r gwpan arian ? Yn y fath benbleth awgrymodd rhywun ar i'r tri dynnu blewyn cwta," fel y dywed pobl Morganwg, am y wobr, yr hyn a wnaed 0 ran budd cerddorol a gaed o'r ymdrech, gallasai'r tri fod wedi mabwysiadu'r fath gynllun ac arbed y drafferth o ganu
[No title]
MAE Dirprwywyr yr Hynafiaethau Cymreig wedi dechreu ar eu hymweliadau i Gymru, a'r wythnos hon buont yn cynnal ymholiadau yng Nghaerdydd.
EISTEDDFOD LLUNDAIN.
EISTEDDFOD LLUNDAIN. NIFER FAWR 0 YMGEISWYR. UN-AR-HUGAIN 0 AWDLAU. Dydd Sadwrn diweddaf oedd y diwrnod olaf i dderbyn cynyrchion yr Eisteddfod Genedlaethol am y flwyddyn hon. A diwrnod prysur iawn fu i'r ysgrifenyddion a'r prif swyddogion ereill. Am y ddeuddydd blaenorol dylifai'r llythyron i mewn gan amgau enwau y gwahanol gystadleuwyr, ynghyd a'r tgl arferol, yr hyn ddynoda fwriad y cystadleuwyr i fod yn bresennol. Y peth pwysicaf ynglyn a'r Wyl Genedl- aethol, ar bob adeg, yw nifer y cystadleuon corawl, ac yn hyn mae Eisteddfod fawr Llundain ymhell ar y blaen i'r Eisteddfodau sydd wedi eu cynnal yn ddiweddar. Yn adran y prif gorau, lie y cynnygir gwobr o ddau can punt, mae y corau a ganlyn wedi danfon eu henwau i'r maes :— Brynamman and District Choral Society Cardiff Harmonic Society Carnarvon Choral Society Llanelly Choral Society Pembroke Dock Choral Society Rhymney Gwent Choral Society Rhymney United Choir Ar y diwrnod hwn disgwylir cael Arglwydd Tredegar a Mr. A. J. Balfour i gymeryd y gadair, a rhwng popeth a'u gilydd, argoelia yn un o ddyddiau mawr yr Wyl. Yn yr ail gystadleuaeth gorawl mae'r corau yn f wy lliosog fyth, sef Skewen Music Lovers Fishguard By-Choral Union Grangetown United Choral Society Cefn Mawr Choral Society Southport Choir Pentre and Treorchy Choral Society Portsmouth Excelsior Society Coleford Philharmonic Society Briton Ferry Choral Society Willesden District Choir Nantlle Vale U ited Choir Mr. A. G. Gibbs's Choir (London) Dyma ddiwrnod coroni'r bardd, a diau y dechreuir ar y gwaith hwnnw yn gynnar yn y boreu, er mwyn rhoddi digon o amser at wasanaeth y corau. Dydd Iau fydd diwrnod y cadeirio, ac mae'r hyglod Syr John Williams a Mr. D. Lloyd George i lywyddu ar y diwrnod hwnnw. Dyma ddiwrnod y "Madrigals" a'r corau merched, am y rhai y mae a ganlyn wedi datgan eu penderfyniad i fod yn bresennol: CYSTADLEUAETH Y "MADRIGAL." Pontypridd and District Glee Society Leicester Choral Combination Royal Dean Forest Nightingales Liverpool Glee and Madrigal Society Cystadleuaeth i gorau merched, yn agored i Gymry o bob rhan o'r ddaear :— Gitana Ladies Choir, Birkenhead Barrow St. James's Ladies Choir Llanbradach Ladies Choir Willesden District Choir (Ladies) Ancoats Girls' Institute Choir Moelwyn Ladies' Choir Pontypridd Ladies' Choir Cardiff Ladies' Choir Mrs Mary Layton's Ladies' Choir Bangor Ladies' Choir Troedyrhiw Ladies' Choir Ar ddiwrnod olaf yr Wyl, sef dydd Gwener, ceir clywed canu y cor Meibion. Mae pob cor sydd wedi dod yn agos i'r brif wobr mewn cystadleuon o'r fath wedi danfon eu henwau i mewn, a diau y ceir clywed canu lied dda ar y cyfan gan y corau enwog hyn:-