Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CRI'R GOLUDOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CRI'R GOLUDOG. Y dosbarth goludog yn unig sydd yn cwyno yn erbyn Cyllideb Mr. Lloyd George a dyma'r dosbarth, fel mae gwaetha'r modd, sy'n rheoli y Wasg Seisnig heddyw. Yr oedd pawb yn gwybod fod yn rhaid wrth dollau newyddion eleni, er mwyn cyfarfod a'r diffyg achoswyd drwy farweidd-dra masnach; ond naw wfft i'r gwr a feiddiodd osod rhan gyfiawn o'r baich ar ysgwyddau y rhai a ddylent ei ddal. Hyd yn awr, y mae'r dosbarth cyfoethog wedi llwyddo yn rhagorol i osgoi y beichiau trymion. Myn y Toriaid, bob amser, osod y prif drethoedd ar y dosbarth gweithiol. Nid yw'r goludog a'r tirfeddianwr cysurus yn talu ond y degwm o'r gyfran, o'i gydmaru a'r gweithiwr cyffredin. Ac mae gweled Cymro beiddgar, fel Mr. Lloyd George, yn amcanu unioni'r beichiau yn ormod o dasg i'r Sais arianog ei ddysgu ar unwaith. Y canlyniad yw, fod yn rhaid difrio y Wein- yddiaeth a'r Canghellor, a phawb sydd a rhan yn nhrefniad y Gyllideb ddemocrataidd hon. Ond y mae'r wlad, fel cyfangorff, o'r tu ol i awgrymiadau'r Canghellor Rhyddfrydig hwn. Yr unig gynllun yn awr yw, i'r Wein- yddiaeth lynnu wrth yr egwyddorion sylfaenol sydd i'r Gyllideb, a gofalu fod y Tir a'r Ddiod i dalu eu rhan haeddianol o gostau'r deyrnas. Hyd yn awr, mae'r Tir wedi man- teisio yn ddirfawr trwy fod y fath lu o dir- faddianwyr yn y Senedd, a gofalai y dosbarth hwn am osod cylch cysegredig oddeutu tir- ddaliadaeth fel na feiddiai neb feddwl am osod treth gyflawn arno ac am y Dafarn, y mae'r naill weinyddiaeth ar ol y Hall wedi ceisio ei sefydlu ar seiliau mor gadarn a'r Eglwys Wladol ei hun, fel y mae'n rhaid talu prisoedd enfawr am ddileu trwydded unwaith y caniateir ef gan y wladwriaeth. Mae gwegi y gwrthwynebiad i'r Gyllideb yn amlwg i bawb bellach. Nid un math o anghyfiawnder sydd wrth wraidd y cri a godir gan y newyddiaduron Ceidwadol. Ni ellir ond pentyrru difriaeth ar aelodau y Weinyddiaeth, a chyhoeddi anathema uwch- ben Mr. Lloyd George. Rhagor na hyn, ni chlywir yr un sill. A phan gaiff Ty'r Arglwyddi gyfle i osod ei fendith ar y cyfan, a gosod ei sel ar y cynllun, diau y bydd pob gradd svedyn yn barod i gyhoeddi fod rhyw leshad, wedi'r cwbl, o gael Gweinyddiaeth Ryddfrydig, sydd yn ddigon gwrol i ymosod ar yr hen feddianau cysegredig hyn-y Tir a'r Ddiod—a'u gwneud i gymeryd eu rhan ym meichiau arianol y wlad hon.

Y Cynnydd a'i Gwn. ♦