Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Cleber o'r Clwb.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cleber o'r Clwb. Ar wahan i'r ffaith mai Cymro-ac aelod o'r Clwb hwn—sy'n gyfrifol am y Gyllideb bresennol, nid yw'r pwnc yn cael ond ychydig sylw gan yr aelodau. Gwn fod clybiau yn dod tan farn Mr. Lloyd George, ac fod yn rhaid iddynt dalu toll o dair ceiniog yn y bunt ar yr holl dderbyniadau oddiwrth wirodydd meddwol; ond ni fydd hyn yn effeithio dim ar y Olwb Cymreig. Yma, nid oes ond ychydig o yfed a pherchenogion yr adeiladau, ac nid rheolwyr y Clwb, sydd a'r drwydded. Mewn cynhadledd o'r aelodau, a gaed yma y nos o'r blaen, y cwestiwn cenedl- aethol mawr fu dan ystyriaeth y cwmni ydoedd— Clust Sydenham Jones. I Nid am fod gan Mr. Sydenham Jones glustiau hirach na neb arall. Yn wir, mae'r llys gwladol wedi penderfynu mai clustiau o faintioli priodol sydd gan y bargyfreitbiwr enwog hwn. Ond, er hyn oil, pan ddaeth Dr. Dan a'r hanes, fod rhyw eilliwr wedi torri darn o glust Sydenham, aeth pawb yn glustiau i gyd i wrando'r stori. Un diwrnod, teimlai Sydenham fod ei wallt yn rhy hir, ac aeth i siop eilliwr yn ardal Holborn i'w dorri. Yn y weithred honno, aeth llaw yr eilliwr i grynnu, neu fe'i dychrynwyd gan rywbeth, gyda'r canlyniad gofidus iddo dorri darn bychan o glust Sydenham, yn ogystal a'r gwallt. Am ei golled enfawr, gwysiodd Sydenham wr y siswrn o flaen ei well, a bu raid iddo dalu deg gini a'r, costau am eu aflerwch. Deg Gini am ddarn o glust Gwaeddai Bryant, "acam ddarn llai na banner chwarter owns o'r aelod. Beth pe bae wedi torri ei glust i gyd, faint fyddai'r pris wedyn" ? Aeth Dr. Dan a'r lleill i geisio gwneud y swm i fyny, ar reol y cube root a'r compound interest, ond 'roedd y ffig- yrau yn arutbrol erbyn eu cyfrif at eu gilydd. Trueni na fuasai'r gwr bach wedi cyflawni hynny o waith," ebe Norick, "er mwyn i'r ddirwy gael ei danfon i Lloyd George. Buasai'r swm yn ddigon i dalu y 16 miliwn sydd arno eisieu heb angen gosod yr un dreth ycbwanegol arnom." Ond beth ddeuai o Sydenham a dim ond un glust ganddo ? holai D. Rhys. 0," atebai Bryant, "byddai ef yn ddigon gwlad- garol i aberthu hynny, os gallai fod o les i'r Ymerodraeth yn ei chyfyngder arianol presennol." Colli dust er mwyn y deyrnas, yn wir," ebai Norick, yn wawdlyd, 'dyw hynny yn ddim o beth yn yr oes aberthol hon. Fe wn 1 am rai pobl wedi colli eu pennau er mwyn cael tipyn o doll ar fwyd y werin." Ac aeth y Tariff Reformers yn fudion gan y teimlent mai ergydio atynt hwy oedd y cellweiryn Norick. Beth am Ginio iddo? Ond a gaiff gorches Sydenham fyned yn ofer, ac heb y gydnabyddiaeth briodol 0 ydymdeimladoddiwrth aelodau y Clwb ? holai'r Capten. Cotiwch ei fod wedi gweithio yn galed er mwyn ffurfio y fath sefydliad yn ein plith, ac mae'n Gymro pur enwog ym mysg gwyr yr Uchel Lys." A ydych am ei wahodd i ginio ? holai Woodward Owen. "Neu yn wrthrych t-Huminated address"? awgrymai Dr. Dan. Oud cyn i'r cwmni benderfynu beth i'w wneud, wele'r gwr yn cerdded i mewn, gyda phyfaill iddo, a chan wenu yn siriol derbyn- lodd longyfarchiadau y dorf am ei Iwyddiant yn amddiffyn urddas ei glust. Ap SHON.

[No title]

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. Y…