Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
COFIO "GLAN GEIRIONYDD."
COFIO "GLAN GEIRIONYDD." Mae enw Ieuan Glan Geirionydd yn anwyl gan bob Cymro a gar lenyddiaeth a -chrefydd ei genedl; a syniad hapus ar ran pobl Trefriw oedd gosod tabled ar ochr y ffordd sydd yn arwain i Tanycelyn-ei hen breswylfod yn Nhrefriw—i ddynodi i'r oesau a ddel mai yno y trigax'r bardd am ei oes. Daeth tyrfa fawr o edmygwyr y bardd Cymreig ynghyd i bentref Trefriw, ddydd Sadwrn diweddaf, er cymeryd rhan yn seremoni dadorchuddio y tabled. Canwyd, i ddechreu, yr hen emyn Ar lan Iorddonen ddofn," ac yna sylwodd y cadeirydd—y Parch. Henry Jones—eu bod wedi cyfarfod ar amgylchiad dyddorol anghyffredin-am- gylchiad, ysywaeth, oedd yn llawer rhy anaml ynglyn a phentrefi Cymru. Yr oedd dynion wedi gadael eu hoi ar y pentref, ac wedi enwogi eu hunain a'u gwlad. Oad ychydig oedd nifer y pentrefi oedd wedi codi cofadail i goffadwriaeth eu henwau. Fy mhlant i," meddai Mr. Jones wrth y bobl ieuainc oeddynt yn bresennol, bach- gea cyffredin fel chwithau oedd Ieuan, ond trwy rym penderfyniad, goresgynodd am- gylchiadau a cherfiodd ei enw ar galon y wlad. Fe aberthodd lawer er mwyn ei rieni tlawd. Ar un amgylchiad dewisodd ddeg punt yn lie tlws a chadair eisteddfodol fel y gallai gynorthwyo ei rieni tlawd. Y Parch. Evan Davies ddadorchiodd y tabled, ar yr hwn yr oedd yn gerfiedig:- TANYCELYN. Cartref Ieuan Glan Geirionydd. 1795-1855. Dyn ardderchog-awenydd per, Sant cerddorol—gweinidog Ner. Sylwodd Mr. Davies fod ym mwriad y pwyllgor wneud rhywbeth mwy sylweddol, ond ni chawsant y gefnogaeth a ddymunent, ac nid oedd yr esgobion am wneud rhyw lawer i goffhau Ieuan Glan Geirionydd. Gwnaeth Ieuan y goreu o'r manteision oedd yn ei gyrraedd, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Rad Llanrwst. Dechreuodd ei yrfa trwy gadw ysgol gyffredin yn Nhalybont. Yr oedd yn gyfieithydd rhagorol. Cyfieith- iodd lawer o emynau, ac nid oedd ol cyfieith- iad arnynt. Yr oedd yn lienor ac yn fardd. Yr oedd ei erthyglau yn y Gwladgarwr yn ardderchog, ac, o bosibl, yr erthyglau hynny oedd y pethau goreu a ysgrifenwyd ganddo. Cysegrodd Ieuan ei holl alluoedd i wasanaeth crefydd, er y beid yr Esgob- ion Cymreig am nad oeddynt wedi cydnabod ei wasanaeth a'i allu. Yna cafwyd anerchiadau barddonol gan Dewi Deulyn, Dewi Mai o Feirion, a Mr. Maddocs (Llanrwst). Hefyd darllenwyd a ganlyn gan Mr. R. H. Williams :— Geirionydd hawddgar-anian-ei genedl Barcha gynnar-drigfan Minnau 'ngwres ei gynnes gan Rof fow i Gartref Ieuan. Job. Glynnu mae enw ein glan emynydd Ar gyrrau anial a brig y mynydd Bywiol yw yni ei ddawn ysblenydd; Mawrheir ei awdlau, er marw'r odlydd Wyneb anian wen, beunydd—fu'n serchus Yn swyno graenus awen Geirionydd. Eljyn. Yna canwyd yr emyn Mae'n hyfryd meddwl ambell dro," a chafwyd ychydig aylwadau gan y Parch. John Gower (rheithor Trefriw). Ar ran y pwyllgor cyflwynwyd y tablet" i'r plwyf gan Mr. Richard Jones.
[No title]
CWYNIR yn ami nad yw'r pregethwyr ieuainc dysgedig-y B.D.'s-yn rhyw alluog iawn yn y pulpud. Mewn rhai ardaloedd mae'n ddihareb "'roedd yn pregethu mor sal a B.D." A yw hyn yn gywir am gyn- yrchion diweddaraf ein colegau diwinyddol ?
EISTEDDFOD Y PLANT
EISTEDDFOD Y PLANT A GYNHALIWYD YN JEWIN NOS IAU, MAI Y 13EG. SYLWADAU AR Y CANU GAN PEDR ALAW. Cafwyd prawf yn hon fod y canu, ymhlith ieuenctyd Llundain, os dim, yn gwella ac yr oedd brwdfrydedd mawr yn yr wyl hyd ei diwedd. Yn ddoeth iawn trefnwyd i'r canu corawl gymeryd lie am naw o'r gloch—cyn i'r rhai bach deimlo yn rhy gysglyd i ganu. Ar yr unawd i rai o dan lleg oed, bu 41 o dan brawf, ac yr oedd y goreuon yn ddigon da i ennill gwobr. Yr enwau oeddynt: D. L. Jenkins, Morgan Lloyd, Willie Morgan, Megan, Bessie Jones, Llewelyn, John Bebb, Maggie, a Myfanwy James. Ceir enwau y buddugwyr mewn colofn arall, In yn ddiau. Nid ydoedd y cystadleuon mewn chwareu ar y berdoneg yn bur foddhaol. Yn honno i'r rhai ieuengaf yr oedd y darlleniad, fynychaf, yn wallus, a'i chwareuad heb fod yn lan. Yn y darn o waith Mendelssohn, eto, yr oedd y darlleniad, fynychaf, yn wallus, a'r chwareuad yn afler. Hefyd yr oedd y felodi yn cael ei chymylu yn ormodol. Yr oedd y darn yn rhy anhawdd i rai o'r ieuengaf oeddynt yn ymgynnyg arno. Ychydig o rai da,n 16eg oed allant wneud chwareu teg a darn fel hwn. Allan o ddeg ar y ddwyawd, nid oedd ond tri yn werth eu galw i'r llwyfan. Y mae hyn yn syndod, pan y deallir fod y darn yn un pur hawdd. Yr oedd y goreuon yn bur dda. Y mae eisiau cefnogi deuawdau i blant. Ar yr unawd Yr Arglwydd yw'n Har- weinydd," i rai dan 14eg oed, ymgeisiodd 21ain. Y goreuon oeddynt Frangcon, Willie, Richard Hedley, Jenny, Margaret, Gwladys Davies, Getta, Gwen Ashton, a'r pedwar ddewiswyd i'r llwyfan. Yn anffodus yr oedd yr unawd yn rhy uchel i amryw o'r rhai bach. Hefyd, yr oedd y mwyafrif o'r genethod yn methu dangos yr ysbryd mil- wrol yn ddigonol. Cystadleuaeth ddyddorol ydoedd hon, a chafwyd gan un neu ddau ddatganiad gwir dda. Ar yr unawd O'r niwl i'r Nef," i rai o dan 16eg oed, ymgeisiodd 13eg, ac yma eto yr oedd oedran yr ymgeiswyr yn amrywio yn lied fawr-yn ormodol. Yn ychwanegol at y pedwar ddewiswyd i'r llwyfan, rhaid rhoddi gair o ganmoliaeth i Annie Davies. Daeth 18 ymlaen i ymgystadlu ar yr unawd Calon Lân," i rai o dan 8 oed, ac yr oedd hon yn un fwyaf cyfartal o'r oil o ran teilyngdod. 0 rai mor fach yr oedd y mwyafrif yn canu yn dda iawn, ac yn haeddu gwobr. CYSTADLEUAETH YR ACTION SONG. Gellir dweyd am y tri pharti eu bod oil yn canu yn dda, a rhaid ydoedd felly graffu yn fanwl ar yr ysgogiadau er dod o hyd i'r goreu. Yr ydoedd parti 1 yn ysgogi yn dda gan mwyaf, ac yn unol, oddigerth wrth y ffigr 18 wrth "fel hyn y cyfarchwn" nid ydoedd cyfarch yn darawiadol nac yn unol o ran ysgogiad. Dylasai fod yn unol, yn arbennig. Yn parti 2 ceid ysgogiadau cwbl naturiol bob tro, ac yr oedd pob aelod wedi dysgu ei wers yn hollol. Hynod effeithiol a tharaw- iadol ydoedd gwaith hwn drwyddo. Parti 3.—Nid ydoedd yr ysgogiadau yn unol wrth y ffigr 2-wrth a chwareu'n haelodau," &c. wrth 3—" ni glapiwn ein dwylaw"; wrth 12—"pan yn plaenio y pren." Oddigerth hyn, yr oedd y parti hwn yn foddhaol. Yr ail barti wobrwywyd. Y BRIF GYSTADLEUAETH.. Y darn ydoedd Dyrchafwn lawen gan —darn sydd yn gofyn cor o gryn rifedi, a lleisiau heb fod yn rhai rhy ieuainc, i wneud cyfiawnder ag ef. Y rheswm am hyn yw fod ynddo nifer o nodau lied uchel i'w dal gyda nerth, yr hyn sydd yn dreth ar lais rhai bach iawn ac o rifedi bychan. Cor 1.—Yr oedd yma gydbwysiad da rhwng y sopranos a'r altos, ond yr oedd y tenors a'r basses yn wan-prin y clywid hwynt weithiau. Fel hyn yr oedd y cydbwysiad corawl yn dioddef. Yn fuan iawn yr oedd y donyddiaeth yn feius, ac ni chaed gwelliant yn hyn hyd ddiwedd y symudiad cyntaf. Yn yr ail symudiad yr oedd yma well ton- yddiaeth, ond yr oedd rhan yr alto hytrach yn niwliog ar tudalen 6 o'r Hen Nodiant. Yn y trydydd symudiad cafwyd gwaith goreu y cor. Yr oedd yn dlws iawn drwyddo, ac yn brawf o'r hyn oedd yngallu y cor i'w wneud. Nid cystal ydoedd y symudiad olaf, y don- yddiaeth yn amhur eto, ac yr oedd gwendid y tenor a'r basses i'w deimlo unwaith yn rhagor. Cafwyd geirio eglur, broddegiad manwl a mynegiant gofalus drwy y darn. Gwelir uchod ddiffygion y cor y tro hwn. Cor 2.-Symudiad cyntaf Amseriad da, sefydlog. Gwell ton (tone). Y pedwar llais yn cydbwyso ac yn cydsymud yn dda a'u gilydd. Tonyddiaeth gywir. Mynegiant da. Tlws iawn ydoedd yr ail symudiad, y tri llais yn ymdoddi yn hyfryd i'w gilydd ac yn canu mewn llwyr gydymdeimlad hefyd. Dyma waith goreu y cor hwn, hyd yn hyn. Er fod y trydydd symudiad yn fanwl a da, teimlwn nad ydoedd mor afael- gar, mor argyhoeddiadol, ag y gallasai fod. Da ydoedd y symudiad olaf sefydlog o ran amser a thonyddiaeth. Yr oedd y geirio yma eto yn eglur a'r broddegu yn dda; felly hefyd y mynegiant. Ar y cyfan, dat- ganiad da ydoedd hwn. Cor 3.—Yr oedd yn hwn amryw o leisiau ieuainc iawn, ac nid ydoedd ansawdd rhai o'r tenors o'r fath oreu. Nid cwbl foddhaol felly ydoedd y cyfuniad lleisiol, er fod y cydbwysiad yn dda. Rhaid ydoedd i'r rhai bach floeddio ar y nodau uchaf, gyda'r canlyniad fod y donyddiaeth yn myned yn ddrwg. Yr oedd y cor allan o diwn ar ddiwedd y rhan hon. Da iawn ydoedd yr ail symudiad o ran tonyddiaeth, asiad y lleisiau a'r mynegiant—oddigerth y gallesid gwneud mwy o'r olaf yn y bar olaf ond dau, wrth y geiriau "lor a chartref," a 'r hwn ddioddefodd." Yn symudiad y trydydd, yr oedd y sopranos yn amhur o ran tonydd- iaeth a'r un bai eto ydoedd i'w deimlo yn y symudiad olaf, ynghyda gerwinder y tenors ar y nodau uchaf, yr oil yn effeithio ar lendid y gynghanedd. 0 ran geirio, sefyd- logrwydd yr amser, a'r mynegiant yn y mannau ni nodir uchod, yr oedd gwaith y cor hwn yn gymeradwy ac yn wir gwnaeth ymgais dda. Cor 4.-Cychwyniad da o ran amseriad cydbwysiad prydferth ton dda a thonydd- iaeth gywir drwy y symudiad cyntaf. Myn- egiant neilltuol o dda: ol meddylgarwch mawr ar y gwaith mewn llaw. Ar dudalen 4 (Hen Nodiant) wrth Mewn llawen," &c.,sydd wedi ei nodi yn forte, carasem gael mwy o nerth: buasai hefyd yn fwy tarawiadol i ddilyn y tynerwch blaenorol. Symudiad 2. Rhagorol, yn wir. Symudiad 3, yr un modd. Symudiad 4. Nis gallwn ddod o hyd i un bai yn hwn. Yr oedd yn ofalus, cywir, a chwaethus iawn drwyddo. Nid ydoedd amheuaeth parth y donyddiaeth gan y cor hwn ac yr oedd y pedwar llais yn cyd- bwyso ac yn ymdoddi yn hyfryd i'w gilydd. Fel y gwyr pawb. nid ydyw cyfansoddwr yn nodi pob bar fel y dymunai iddo gael ei ganu o ran mynegiant. Gwaith y cor ydyw —tra yn cadw yn fanwl at y nodau a'r arwyddion mynegiantol sydd wedi eu nodi- ddangos prydferthion cuddiedig y darn. Gwnaeth cor rhif 4 hynny y tro hwn. Yr oedd mewn amryw fannau yn darawiadol iawn, ac yn profi fod yma astudiaeth fanol a