Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
EISTEDDFOD EAST HAM.
EISTEDDFOD EAST HAM. Cynhaliwyd Eisteddfod Flynyddol Sibley Grove, East Ham, yn Earlham Hall, Forest Gate, nos Iau ddiweddaf—Mai 13. Mae yr Eisteddfod hon yn myned ar ei chynnydd bob blwyddyn. Dyma yr Eisteddfod fwyaf llwyddiannus eto. Daeth 160 o gystadleuwyr i'r maes. Y cerddor ieuanc adnabyddus, Mr. Caradog Roberts, Mus. Bac. (Oxon), oedd yn beirniadu eleni,a phrofodd ei hun, er boddhad pawb, yn feirniad o'r fath oreu. Parch. H.T. Spencer, M.A., M.S.C., feirniadodd yr adroddwyr, a'r Parch. H. Elvet Lewis, M, A., y farddoniaeth, a Mrs. 0. Williams, Strat- ford, needlework, &c. Yr arweinydd, fel arfer, ydoedd Mr. Dan Jenkins (ysg. cyff. y Twentieth Century Friendly Society), a chyda'i ddawn arferol, aeth drwy y rhaglen yn hynod o rwydd. Gweithiodd yr ysgrifenyddion, Mri. D. Evans a E. Evans, Wood Grange Road, yn ddygn iawn gyda'r trefniadau, ac i'w llafur diflino hwy yn bennaf y gellir priodoli llwyddiant yr Eisteddfod. Caed cystadleuon hynod fywiog yn y gwahanol adrannau, ac er na chaed ond ychydig o Gymry i ymddangos, eto daeth y cantorion Seisnig yno yn bur liosog i gys- tadlu ar y gwahanol unawdau. Yng nghystadleuaeth y corau ar Tawel chwyth awelon hwyrddydd," cor King's Cross (dan arweiniad Mr. Stanley Davies), aeth a'r gamp, a hwn oedd yr unig barti Cymreig i gymeryd rhan yn y gweithred- iadau. Yr oedd y buddugwyr eieill fel y canlyn —Pianoforte solo, Evelyn Baxter, Plaistow. Solo i rai dan 14 oed, Ye birds that sing," 1, Johnny Davies, East Ham 2, Majorie Thorne. Solo i rai dan 18 oed, Sweet Constancy," Dorothy Anderson. Contralto, Orange Blossom," Mary Bieggell, Ilford. Soprano, "I know that my Redeemer liveth," Miss Phyllis Smith, Leytonstone. Bass neu Baritone, The Windmill," Mr. Saunders Squires, Wanstead. Adroddiadau: The Twins," Hilda Blake a Elsa Liddington. The Girl and the Gloves," Cyril Liddington. "Rienzi to the Romans," T. R. Evans, Dagenham. Violin, Miss Rose Curry a P. A. Parker. Pair of D'Oyleys, Mrs. G. Haylock, Forest Gate, a Mrs. J. L. Johns, East Ham. Slippers, Miss Evans, Forest Gate. Englynion, Daeargryn," T. Morris Owen, Mon. Rhoddodd y cadeirydd, Dr. M'Cettrick, rodd sylweddol i'r drysorfa, a thalwyd y diolchgarwch arferol.
YMGILIODD Y LLWYDREW GAUAFOL.
YMGILIODD Y LLWYDREW GAUAFOL. Ymgiliodd y llwydrew gauafol, Daeth gwanwyn adlonol i'w sedd, Dadebru mae natur swynhudol, Yn wrol hi gyfyd o'i bedd. Daw blodau ysblennydd i wenu Ac adar i ganu mewn hwyl, Tra gwyneb y ddaear yn llonni A denu'r awenydd i'r wyl. Ymgiliodd y llwydrew gauafol, Mae'r tlysni'n ddeniadol i gyd, Pob blod'yn a wena yn siriol Dan awel falmeiddiol o hyd. P6r byncia y swynol ehedydd Ar doriad y wawrddydd uwchben, Edmygaf ei garol ysblennydd 0 feusydd gwyrddleision y nen. Ymgiliodd y llwydrew gauafol, Mae llygaid adlonol y dydd, Yn harddu ein dolydd cysgodol Deniadol y goedwig a fydd. Mae gwanwyn y ddaear yn ddarlun 0 wanwyn tragwyddol y Nef, Lie nad oes na misoedd na blwyddyn, Byw rosyn anfarwol yw Ef. Harrow. LLINOS WYRE.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. BORO 'Cyinbaliodd Cymdeithas Lenyddol yr eglwys uchod ei chyngerdd diwedd y tymor. Llywyddwyd gan Mr. John Lewis (Myrddin), Gairatt Lane, S.W., yn ei ffordd hamddenol ei hunan. Rhoddodd y cadeir- ydd wledd o de, &c., i bawb yn ystod y cwrdd, a Ilywyddodd yr oil o'r gweithred- iadau yn alluog a medrus. Brodor o dref Caerfyrddin yw Mr. Lewis, ac y mae wedi bod yn aelod yn y Boro' am wyth-mlynedd- ar-hugain ac yn barchus iawn, ef a'i deulu, gan bawb yn y lie. Gweinyddwyd ar y byrddau te gan Mrs. D. C. Davies, Misses Sarah Davies, Sarah Mitchell, Jennie Evans (New North Street), E. J. Jones, M. E. Davies, Mrs. Arthur Davies, Miss Hodges, &c. Datganwyd, adroddwyd, a chwareuwyd ar offerynau yn ystod y cyfarfod gan Miss Sophia Davies, Greenwich; Mr. D. Jones (Llew Caron), Mr. Emlyn Edwards, A.R.A.M., Mr. Evan Williams, R.A.M., Mr. R. Wood, Mrs. Nellie Jones, Cor Meibion y Boro' (dan arweiniad Mr. D. James, A.C.). Cafwyd cyngerdd teilwng iawn, a hwyl fawr ar yr oil o'r darnau. Diolchwyd i'r cadeirydd, y gweinwyr wrth y byrddau, y cerddorion, yr offerynwyr, adroddwr, a'r cor, yn ddoniol dros ben gan Mr. J. Williams, Jamaica Road, &c. Englynodd Mr. R. Wood (Risiart, Maldwyn) fel hyn i'r cadeirydd :— y. A champion of a son is he-always Willing, ever ready Abiding there is nobody In our rank so frank and free. Brawd ffyddlon, union, hoenus-i arddel Caerfyrddin yw Lewis; Cafwyd ffraeth araith ddirus Ddihafal o'i ddwy wefus. O'n cwmpas mae'n bencampwr-un a'i lais Swyna wlad fel canwr I bob amcan da yn dwr, A diguro wladgarwr. R.W. DEWI SANT, P ADDINGTON.- Dygwvd gweith- rediadau tymor y gauaf i derfyniad yn Dewi Sant, nos Fawrth ddiweddaf, trwy i Mr. David Evans, Hampstead, yn cael eigynorth- wyo gan ei chwaer (Mrs. Evans, Park Hill Road), roddi gwledd ddanteithiol a threfnu cyngerdd rhagorol i'r holl wyddfodolion. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Lady Beach- croft, priod hawddgar Cadeirydd Cynghor Sirol Llundain, a chyflwynwyd blodeuglwm prydferth iddi gan Miss Bessie Evans, merch ieuanc brydweddol Mrs. Evans, Park Hill Road. Cymerwyd rhan yn y cyngerdd gan Madame Laura Evans Williams, Miss Margaret Pierce, Mri. Furness Williams (Opera Milana), a T. Bryniog Jones, R.A.M. Hwn oedd un o'r cyngherddau goreu a gyn- haliwyd yn ystafell Eglwys Dewi Sant erioed. Cynygiwyd y diolchiadau arferol gan y Parch. W. Richards, Mri. Tom Jenkins, James Williams, ac Evan Lloyd. Diwedd- wyd drwy ganu yr anthemau cenedlaethol.
[No title]
GADAWODD Mr. James Howells, Caerdydd, eiddo gwerth chwarter miliwn o bunnau ar- ei ol. Mae'r cyfan, meddir, i gael ei rannu rhwng ei blant.
[No title]
"Y GENINEN AM EBRILL.-Cynhwysiad: Ar- wyddion Torriad Dydd, gan y Parch. W. O. Jones, B.A. Dafydd ap, Gwilym a Thelynegwyr Serch Deheudir Ffrainc, gan y Parch. M, H. Jones, B.A. Geiriadurwyr Cymreig, a'u Geiriaduron, gan y Parch. Owen Davies, D.D. "Ty yr Arglwydd," a Thy yr Arglwyddi, gan Lais y Bobl. Telyneg, gan Mr. T. Morris Owen. Englynion, gan y Parch. J. T. Williams. Yr Hen Emyn Penillion, gan Mr. O. J. Williams. Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru.— Dyledswydd Cymru a'i Haelodau, gan Mr. Clement Edwards, A.S. Dwy Sonnet: Heine i'w Fam, gan Mr. Hugh John Evans. Blwydd-dal i'r Hen Englynion, gan y Parch. Aaron Morgan. "Wele Oen Duw Englynion, gan Mr. Evan Jones. "Yr Hen Estrones," gan y Parch. W. Eilir Evans. Yr Awdurdod Derfynol mewn Crefydd, gan y Parch. T. Lloyd Jones, B.A., B.D. Y Deyrnas mewn Perygl,. gan y Parch. J. P. Lewis, M.A. Myfyrion Henwr, gan Mr. Eleazar Roberts, Y.H. Yr Hybarch S. Jones, gan Ddeiniolfryn, Dewi Orwig, &c. Cwyn Coll am Enwogion: Glaslyn; Buddug; Meurig Wyn; Dewi Hefin; Llenor o'r Llwyni, &c., gan Fryfdir, J. R. Tryfanwy, Granellian, Mr. R. Evans, &c Llyfryddiaeth Machynlleth, gan Mr. Edward Rees, Y.H. "Dylanwad y Golegau ar Grefydd y Myfyrwyr," gan y Parchn. D. Adams, B.A., a R. Silyn Roberts, M.A. Clwy'r Marchogion.- Ymddl- ddan rhwng Amryw. I Glynnog Lonydd, gan Ym- deithiwr. Priod-ddulliau'r Gymraeg, gan Mr. D. Samuel, M.A. Darganfyddiad Hynafiaethol yn Swydd Frycheiniog, gan y Parch. W. Lloyd-Owen (Mathafarn). Da di, Gymru, Gwrando, gan Mr. R Morris Lewis. Tu Draw i'r Llen.-(Cyf.), gan Mr. Ellis J. Griffith, A.S. Gohebiaethau Milton yn Gymro, gan T.C.U. "Rebecca a'i Phlant," gan M.P.G. Cywydd y Cloc, gan Vron y. Crom- well yng Nghymru, gan S N.S. Manion BarddonoL Gan Amryw.
Advertising
MISS MAGGIE DAVIES, A.R.C.M., receives a limited number of PUPILS FOR SINGING. All communications to be addressed to Miss MAGGIE DAVIES, 50, Chandos Road, Willesden Green, N.W.
EISTEDDFOD Y PLANT
dofn o'r darn. Dyma y goreu y tro hwn, heb unrhyw amheuaeth, ac iddo y dyfarnwyd y wobr. Y buddugwyr oeddent :— Unawd, Yr Arglwydd yw'n Harweinydd," i rai dan 14 oed :—1, Margaret Mary Williams, Mile End Road; 2, Richard Jones a Kathleen Morgan, Porto- bello Road 3, Lizzie Jones, Portobello Road. Unawd, O'r Niwl i'r Nef," i rai dan 16 oed 1, Maggie Morgan, St. Mary's Institute; 2, Lizzie Davies, Jewin, ac Ida Oliver, Walham Green; 3, Myfanwy Hughes, Shirland Road. Unawd ar y Berdoneg, "Sonatina" No. 2 (Clementi), i rai dan 12 oed :—1, Maggie Evans, Holloway; 2, Willie Morgan, Shirland Road; 3, Gwladys Evans, Falmouth Road. Unawd ar y Berdoneg, Mendelssohn's Songs Without Words (No. 1), i rai dan 16 oed :—1, Lizzie Hughes, St. Mary's Institute; 2, Mary Evans, Holloway 3, Maggie Jones, Jewin. Deuawd, "Y Lili":—1, Bessie Morris a Willie Morgan, Shirland Road; 2, Kathleen Morgan a Lizzie Jones, Portobello Road 3, Gladys Joel a Myfanwy Joel, Jewin. Ton Efelychiadol, Ar ol bod yn dysgu," i barti o 12 o blant dan 16 oed :—1, Jewin. Corawl, Dyrchafwn Lawen Gan," i blant dan 16 oed :—1, Jewin 2, Falmouth Road. Freehand Drawing i rai dan 16 oed :—1, David Williams, Shirland Road; 2, Griffith Pughe, Jewin. Freehand Drawing i rai dan 12 oed :—1, Elizabeth Davies, Wilton Square; 2, Mary Thomas, St. Mary's Institute. Adrodd, "Calon Lan," i rai dan 8 oed:—1, Glenys Thickens, Willesden Green 2, Doris Belbie, Walham Green; 3, Gwen Herbert, Wilton Square; 4, Jack Pugh, Jewin. Adrodd, Mae Swyn yn'r Enw Iesu," i rai dan 11 oed :—1, Matty Oliver, Mile End Road; 2, Jennie Jones, Charing Cross; 3, Mary Morris, Mile End Road 4, Gildas Tibbott, Charing Cross. Adrodd, Emyn 437, i rai dan 14 oed :—1, Willie J. Morris, Mile End Road 2, T. C. Oliver, Mile End Road 3, Llew Jones, Falmouth Road. Adrodd, "Y Gwlithyn," i rai dan 16 oed:—1, Cassie Jones, Jewin 2, May Phillips, Hammer- smith 3, Lizzie Davies, Jewin. Unawd, "Calon Lan," i rai dan 8 oed:—1, Glenys Thickens, Willesden Green, a David Rees Williams, Mile End Road 2, Doris Morris, Mile End Road, a Griffith Roberts, Holloway. Unawd, Mae Swyn yn 'r Enw Iesu," i rai dan 11 oed:—1, Evan W. Morgan, Shirland Road; 2, Lewellyn Morgan, St. Mary's Institute; 3, Bessie Jones, Portobello Road; 4, Myfanwy James, Fal- mouth Road. Cywiriad gwall Yn adran yr Arholiad Ysgrythyrol Dosbarth II, i rai dan 13 oed, gadawyd yr enw canlynol allan o'r rhestr gyhoeddwyd yn y rhifyn diweddaf:—Doris Williams, Clapham Junction, marciau 82.