Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
-----MARWOLAETH I TOM PRICE
MARWOLAETH I TOM PRICE PRIF WEINIDOG CYMREIG DE AWSTRALIA. Wele un arall o feibion byd-enwog ein <cenedl wedi ei alw adref. Ddechreu yr wythnos hon daeth y newydd o Dde Awstralia fod ei Pbrif Weinidog--y Cymro diddan Tom Price—wedi marw, a bydd yn chwith gan ei lu cyfeillion yn y wlad hon gael y newydd trist Y llynedd bu Mr. Price ar ymweliad a'r wlad hon er adgyfnerthiad i'w iechyd, ac yr oedd gryn lawer yn well pan hwyliodd yn ol at ei orchwylion ym mis Mehefin diweddaf, ,ond yn fuan ar ol glanio yn Awstralia torrodd ei iechyd i lawr unwaith yn rhagor, ac nis gallodd ddilyn ei alwadau Seneddol yn ystod y tymor diweddaf. Er dechreu y flwyddyn hon bu'n graddol wanhau, ac ar ol trwm gystudd bu farw yr wythnos ddi- weddaf ac efe yn 57 mlwydd oed. Un o'r bechgyn a ddringodd i lwyddiant .(lrwv ei ymdrechion ei hun oedd Tom Price. Brwydr galed yng ngwyneb llu o an- hawsterau fu ei yrfa ar y ddaear, a igorchfygodd y cyfan gan esgyn i fod yn brif weinidog un o'r taleithau mwyaf democrataidd yn Awstralia. Cafodd Cymry Llundain gyfle i'w glywed mewn amryw gyfarfododd yn ein plith flwyddyn yn ol. Efe oedd un o brif areithwyr y cyfarfod pen tymor gaed ynglyn a'r Undeb y Cym- deithasau yn Castle Street pan y lly- wyddid gan Mr. John Hinds, ac 'roedd ei anerchiad y pryd hwnnw yn ysbryd- iaeth i'r to ieuanc oedd yno yn ei wrandaw. Yr oedd yn ymhyfrydu bod ynghwmni pobl ieuainc, a dywedodd pan yn ymadael o'r wlad ei fod wedi cael boddhad arbennig ymhlith ei gyd- genedl yn Llundain. Efe oedd y cyntaf o feibion llafur i gymeryd awenau'r llywodraeth yn ei law, a bydd ei genedl, yn ogystal a phlaid Llafur drwy y byd, yn galaru ar ol colli cymeriad mor ddiymhongar a difyr a gwr a weithiodd mor gyson dros hawliau y tlawd a'r diamddiffyn. Hanes rhamantus rhyfedd fu hanes Tom Price, Prif Weinidog Deheu Awstralia. Rhyw chwe mlynedd ar- hugain yn ol yr oedd yn saer maen oyffredin yn Lerpwl. Heddyw wele ni yn galaru ar ei ol fel prif-weinidog urddasol ar un o daleithau mwyaf llewyrchus y Byd Newydd. Pan oedd yma y llynedd," medd un o n gohebwyr, cefais y cyfle i gael ymgom a Mr. Price ar ei ddyfodiad i Lundain, ac ymgom ddyddorol fu, hefyd. Roedd Mr. Price—neu Tom Price, fel y mynnai ef gael ei alw-yn ddyn tal, golygus, ond yn meddu yr hyn a eilw y Sais yn 'Colonial cut' o'i goryn i'w wadn. Y gwallt yn dechreu britho, gwyneb agored, a llygaid treiddgar byw a ddynodai y gwr bywiog a gweithgar oedd wedi gwthio ei ffordd o ris iselaf yr ysgol i fyny i binacl anrhydedd." "A ydi'r Gymraeg mor llithrig ag erioed senych ? gofynais iddo. Na," meddai Mr. Price, hoffwn i ddim annerch cynnulleidfa drwy ei chyfrwng yn awr. Rhaid i chwi gofio mai yn Lerpwl y treuliais y rhan fwyaf o foreu'm hoes, ac er mewn ysgol Gymraeg ar y Sul, eto Saesneg oedd iaith yr wythnos, ac ar ol i mi symud i Australia rhyw 25 mlynedd yn ol, nid wyf wedi cael cy-fle i siarad ond ambell i fraw- ddeg gyffredin." "A oes llawer o Gymry yn eich tiriog- aethau ? "0, oes, llawer iawn, ond gwasgarog ydynt, fel rheol. Mae acw bobl o bob gwlad a cbenedl, yr oil yn bobl deyrngar i'r llywodraeth. Mewn gair, mae pedwar o wvr blaenaf ein Senedd yn perthyn i wahanol genhedloedd. 'Rwyf fi, fel Cymro, yn brif-weinidog Scotsman yn gyfreithiwr cyffredinol; a gwr o'r Yr.ys Werdd yn ysgrifennydd cyffredinol. Yr ydym mor wahanol a hynny, wedyn, yn ein daliadau crefyddol. 'Rwyf fi'n Fethodist, arall yn Bresbyterian, a'r olaf yn Rabydd." A ydyw plaid LIafur yn lied ddylan- wadol yn eich talaith ? Wei, y mae'n ddigon dylanwadol i'm gosod i fel prif-weinidog. Mae'r blaid mewn mwyafrif yn y Senedd, ac yr ydym wedi bod mewn swydd bellach ers yn agos i dair blynedd, a does neb yn achwyn nad yw'r gwaith wedi ei gyflawni yn rhagorol. Yu wir, yr ydym fel plaid Llafur yn ymfalchio yn y ffaith fod ein deddfau arbennig wedi profi eisoes o les mawr i'r holl Drefedig- aeth." "Beth yw eich cenhadaeth yn bennaf. A'i yr un yw eich rhaglen a phlaid Llafur ym Mhrydain ? "Ie, Ilesiant y bobl yw ein prif arwydd- air. Yn bersonol, cyfryfir fi yn Sosialist eithafol, ac rwyf yn credu yn nhegwch fy nghredo, hefyd. Mae pob deddf ydym wedi basio wedi ei thrwytho a daliadau Sosialaeth, ac er yr edrychir arnynt ar y cychwyn fel pethau eithafol a chwyldroadol, eto, pan y gosodir hwynt mewn arferiad, gwelir ar unwaith mor deg a chyfiawn ydynt." "Beth am Gyfalafwyr y lie a'r hen ar- weinw-yr Toriaidd. A ydynt yn cydweithio a chwi"? "0, ydynt. Y maent wedi newid eu syniadau yn ddirfawr. Ar un adeg yr oedd- ent yn barod i'm crogi ar y gangen agosaf at .law, a 'doedd yr un anathema yn ddigon cas i hyrddio at fy mhen fel arweiuydd plaid Llafur ar hyd y blynyddau, ond mae'r rhod wedi troi. Pan oeddwn yn ymadael y dydd o'r blaen, daeth marsiandwyr blaenaf Adelaide, yr arianwyr a'r cyfoethogion oil i roddi ffarwel i mi a thaith lwyddiannus. Dywedent eiriau edmygol am danaf, a gellid meddwl eu bod yn fwy hoff o honof nag aelodau fy mhlaid fy hunan ac mae r holl barch ac edmygedd yma wedi ei ennill gan y blaid heb golli ymddiriedaeth un o'm cefnogwyr mwyaf distadl." Cafodd Mr. Price groesaw cynnes gan ei bobl yn yr hen wlad ac yn Lerpwl tra fu n aros yma, a rhoddodd rhai o wyr blaenaf Llundain wledd i'w groesawu. Addefodd ei fod wedi colli cryn lawer o'i fywiogrwydd cyntefig, ac nas gallai siarad gyda'r fath nerth a phan yn dechreu ei gadgyrchoedd o blaid Llafur, eto hyderai y gwnai ei ymweliad a'r wlad hon adnewyddu rhyw dipyn ar ei gyfansoddiad. Oild yr oedd y gorlafur wedi effeithio yn rhy ddwfu arno, ac ar waetha pob gofal, wele ef yn cael ei alw adref i dderbyn o'r wobr a haedda pob dyngarwr a'r hwn a lafuria ar ran ei gyd-ddynion. Ymfalchiai bob amser yn ei haniad Cym- reig, a phriodolai gryn lawer o'i Iwyddiant i'r addysg oedd wedi gael yn yr Ysgol Sul. Ac er yn Gristion cadarn a gloyw, yr oedd hefyd yn llawn o'r humourist," a hoffai adrodd un stori am y dull y llwyddodd un tro i gael y goreu ar wrthwynebydd Seneddol pan yn ymladd am Sedd yn ei etholaeth. Penderfynodd Plaid Llafur mai Tom Price oedd i ymladd y Gyfreithiwr Cyffred- iaol yn un o'r etholiadau. Yr oedd hwnnw yn areithydd gwych, yn ysgolor mawr, ac yn deall cyfreithiau y gwledydd fel ABC. I p Un noson roedd y ddau i annerch tort enfawr o'r etholwyr. Aeth y cyfreith- iwr ati, ac yn ei ddull dysgedig a choeth, cododd hwy i hwyl anghyff- redin. Does dim siawns i mi mwy- ach," ebai Tom, wrth gyfaill iddo, "ond ni chafodd Cymro ei orchfygu erioed eto," ac ymaith ag ef ar y llwy- fan. Wedi dechreu cael hwyl, dacw ef gyda'r hyawdledd naturiol yn mynd ati i gondemnio ei wrthwynebydd. Mae'r Cyfreithiwr Cyffredinol," meddai, yn son am Ddeddfau ym- herodraethol, ac yn dyfynu gweithiau y dyn hwn a'r dyn arall, ond beth am weithiau Hywel Dda, y mhobl i^! Sonia am beth ddywed yr awdwr a'r awdwr, ond beth ddywed Goronwy Owen ar y pen hwn. Ac yna dyfyna y doethawr a'r doethawr, ond beth, y nghyfeillion i, ddywed Hwfa Mon ar y mater hwn." Ar hyn," meddai Mr Price, pan yn adrodd y stori, "roedd hi bron dod i'r pen arnaf, pan waeddodd rhyw wr yn y dorf, gwr ag oedd wedi cael llymed yn ormod i'w yfed ac meddai, ond beth ddywed y bobl hyn ? Machgen i," meddai Tom Price, ar amrantiad, Yr hyn ddywed y bobl hyn wrth rai o dy fath di yw am beidio cymysgu dy wirodydd Llwyddodd yr ergyd, a rhoddwyd derbyn- iad chwareus i Tom, ac ar derfyn ei araith yr oedd wedi llwyr ennill y dorf, ac efe enillodd yr etholiad. Chwi welwch," meddai, yn chwareus, sut y daeth yr hen Gymraeg i fod yn fath werth i mi," a chwarddai yn iachus wrth yr atgof o'r amgylchiad doniol.
[No title]
YR wythnos ddiweddaf derbyniodd un o frodorion Abertawe lythyr oddiwrth Mr. Evan Roberts, yn yr hwn y mynegai ei fod yn ei fwriad i gynnal cenhadaeth yn y dre cyn diwedd y flwyddyn hon. Y mae Mr. Lloyd George yntau wedi addaw ymwel'd a'r dre' cyn diwedd mis Hydref. Gall Aber- tawe edrych ymlaen am ddyddiau braf. MYNYDD Parys oedd testun yr englyn yn Eisteddfod Gadeiriol Môn ddydd Llun di- weddaf, a dyma'r goreu, o waith Morwyllt, Llangefni :— Drwy'r ddaiar Mynydd Parys-ym mhob bro A.m ei bres sy'n hysbys Am agor ei ddor dyrys, Aeth i leng gyfoeth o'i lys. V