Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Cgmdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. (The NATIONAL EISTEDDFOD ASSOCIATION) LLYWYDD- ARDALYDD BUTE. YSGRIFENNYDD— E. VINCENT EVANS, 64, Chancery Lane, London, W.C. CYHOEDDIADAU CYMDEITHAS YR EISTEDDFOD Cofnodion a Chyfansoddiadau buddugolfyr Eisteddfodau canlynol:— Aberdar, 1885 5/- Caernarvon, 1886 6/- Caerludd, 1887 (Rhan I. Barddonaeth) 2/- II n (Rhan II. Hanes Cerddorion) 2/- Gwrecsam, 1888 6/- Aberhonddu, 1889 6/- Bangor, 1890 2/6 Abertawy, 1891 2/- Rhyl, 1892 2/6 Pontypridd, 1893 Carnarvon, 1894 2/6 Llanelli, 1895 5/- Llandudno, 1896 2/6 Casnewydd, 1897 6d: Blaenau Ffestinog, 1898 3/6 Caerdydd, 1899 1/- Llynllaifiad, 1900 5/- Merthyr Tydfil, 1901 6d. Bangor, 1902 3/6 Llanelli, 1903 (Rhan I.). 1/- Rhyl, 1904 (Rhan I.) 11 Aber Pennar, 1905 (Rhan I.) 1/- Caernarvon 1906 (Rhan I. Awdl, &c.) 1 „ (Rhan II. Dyfyniadau Lien) 1/- Abertawy, 1907 (Yn awr yn barod). Hanes Llenyddiaeth Gymraeg o 1650 i 1850 (gan Charles Ashton) 10/6 The Two Desires (Mrs. Cecil Popham) 2/- I'w cael oddiwrth yr Ysgrifennydd- 64. Chancery Lane, London, W.C.
HEN EISTEDDFODWYR.
HEN EISTEDDFODWYR. Ar adeg ymweliad yr Eisteddfod a Llun- dain, y mae'n ddyddorol galw i got enwau rhai o brif gymeriadau yr Wyl fuont yn preswylio yn y ddinas hon. Nid yw ond megys cam bychan yn ol i'r flwyddyn 1887; eto y mae Ilu mawr o'r doniau fu'n arwain yr Wyl honno wedi mynd erbyn heddyw: megys Syr John Puleston, Syr Lewis Morris, Syr David Evans, Mr. Stephen Evans, Mr. Morgan Lloyd, Q.C., a Lewis H. Roberts. Ond dyddordeb Ileol a gymerai y rhai hyn, yn bennaf, yn yr hen sefydliad. 'Roedd amryw ar y Pwyllgor hwnnw yn hen ffydd- loniaid i'r Wyl ym mha le bynnag y cynhelid hi. Un o'r cyfryw yw- PENCERDD GWALIA. Er nad ydyw'r Pencerdd yn cymeryd rhan flaenllaw yng ngwaith yr Eisteddfod eleni, mae ei ddyddordeb yn yr hen Wyl gymaint ag erioed. Efe oedd arweinydd cor yr Eisteddfod yn 1887, a chofir yn hir am gyfres ragorol o gyngherddau roddwyd ganddo ar y pryd. O'n holl gerddorion heddyw efe, yn ddiau, sydd wedi glynnu yn fwyaf ffyddlon i'r Eisteddfod ar hyd y blynyddau. Boedd iddo nawnddydd tawel yn swn ei delyn seinber. Cefnogydd ffyddlon arall i adran gerddorol yr Wyl oedd y diweddar "Mynorydd," ac 'roedd yn llawenydd i filoedd weled fod ei ferch dalentog—Mrs. Mary Davies-wedi ei gosod yn gadeirydd ar bwyllgor cerddorol yr Eisteddfod eleni. Mae coffa "Mynorydd" yn fyw ar gof ei gydgenedl yn Llundain a llafuriodd yn ddiflino am oes faith dros godi safon cerddoriaeth ymysg plant y genedl. Ychydig fisoedd cyn cynnal yr Wyl yn 1887, bu farw Gwrgant—hen eisteddfodwr pybyr, a gwr a lafuriodd lawer ar ran mudiadau Cymreig yn y ddinas hon. Efe oedd ysgrifennydd eisteddfodol y Gwynedd- igion, yn Biwmaris, yn 1832, a chyhoeddodd gyfrol o gyfansoddiadau yr wyl honno. O'r flwyddyn honno hyd ei farw, yn 1886, bu'n weithiwr ffyddlon ac yn gyfarwyddwr doeth i'r rhai oeddent yn ymhyfrydu yn hanes a llenyddiaeth Cymru. Cyn adeg Gwrgant, daw'r son am Owain Myfyr, yr hwn a gladdwyd yn 1814. Gwr oedd ef wnaeth fwy dros lenyddiaeth Cymru, ac adnewyddiad ei Heisteddfodau, nag odid yr un < ymro arall, ac mae Llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig heddyw yn cynnwys ugeiniau o gyfrolau o hen lawysgrifau a gasglwyd ganddo. Ydyw, mae Cymry Llun- dain wedi gweithio yn ffyddlon yn yr oesau gynt dros nodweddion goreu eu cenedl. Boed iddynt gael adnewyddiad o'r un ysbryd drwy ymweliad yr Wyl eleni.
DAU GYMWYNASWR.
DAU GYMWYNASWR. Gwir fod gennym nifer liosog o Gymry cyfoethog yn Llundain, ond, ar wahan i'r capelau, ychydig yw'r gwaith wneir ganddynt ar ran y genedl. Mae gan genhedloedd ereill eu sefydliadau cenedlaethol yn ein plith, ond hyd nes y caed y Clwb Cymreig 'doedd yn Llundain yr un man canolog He y gallai pob gradd a dosbarth a phob plaid ac en wad gyd-gyfarfod. Gwyddai'r Cymry digartref am y diffyg yn dda, ond gwaith anhawdd fu ennill cefn- ogaeth y cyfoethog er gosod y sefydliad ar droed, ac wedi eu cael mae gobaith am lwyddiant yr adeilad. Dau o'r cefnogwyr mwyaf selog i'r Clwb yw Mr. David Davies, A.S., Llandinam, a Mr. J. Prichard Jones, Y.H., Regent Street, ac er mwyn talu gwarogaeth iddynt am en parodrwydd i ddod i'r adwy ynglyn a'r Clwb, penderfynodd yr aelodau i'w croesawu i wledd arbennig nos Iau ddiweddaf. Llywyddwyd gan gymwynaswr parod arall ymherson Mr. John Hinds, a daeth amryw o gyfeillion y mudiad i dreulio noson ddiddan yn y cwmni. Yn eu plith gellir enwi yr Henadur Vaughan Morgan (cyn-faer Llun- dain), Syr Harry Reichel, Mr. D. Lleufer Thomas, Mr. R. H. Jones (brawd Mr. Prichard Jones), Mr. E. Vincent Evans, Parch. J. Machreth Rees, Mr. J. T. Lewis, Mr. P. W. Williams, Mr. J. Richards, Hamp- stead, a'r ysgrifennydd, Captain Jenkins. Wrth gynnyg iechyd da i'r ddau wr a anrhydeddid, dywedodd Mr. John Hinds. fod y ddau yn haeddu hyn o gydnabyddiaeth am eu parodrwydd yn cefnogi'r fath sefyd- liad ymysg Cymry Llundain. Un peth oedd meddu ar gyfoeth, ond peth arall oedd cael calon hael i roddi, ac yn y ddau berson hyn caed gwyr haelionus gydag amcanion cenedl- aethol yn llywio eu holl waith. Cefnogwyd hyn gan Syr Harry Reichel a Mr. E. Vincent Evans, a dywedodd yr olaf mai yr hyn a'i synnai ef oedd y cynnydd aruthrol oedd Cymry Llundain wedi wneud yn ystod y chwarter canrif diweddaf. Ar ol yfed y llwncdestyn atebwyd mewn areithiau hapus gan y ddau foneddwr. Cynygiwyd llwyddiant y Clwb gan yr Henadur Vaughan Morgan, ac atebwyd mewn arawd hwyliog gan Machreth, yr hwn a ddywedodd fod y sefydliad eisoes wedi cyfiawnhau ei fodolaeth er, yn ei dyb ef, nid oeddent ond megys yn dechreu. 'Roedd angen am ei eangu, a'r peth cyntaf ddylid wneud oedd trefnu llyfrgell briodol ynglyn a'r lie. Rhoddwyd iechyd da i'r ymwelwyr gan Mr. J. T. Lewis, ac atebwyd gan Mr. G. A. Riddell; ac i orffen noson hapus, rhoddwyd iechyd da i'r Cadeirydd ar gynygiad Mr. C. J. Howell Thomas. Yn ystod y noson caed caneuon swynol i ddyddori'r cwmni gan Mri. Gwynne Davies;. Tim Evans, ac Edwin J. Evans, gyda Mr. D. Richards fel cyfeilydd.
[No title]
Mae man eisteddfodau Llundain er 1887 yn lleng, a chawn sylwi ar rai o honynt yn ein rhifynau dyfodol.
Advertising
THE GREAT WELSH REMEDY. PW A\/L CQ'Q BELIEF FROM COUGH IN 5 FOR COUGHS, FOR COLDS, FOR ASTHMA, FOR BRONCHITIS, FOR HOARSENESS, FOR INFLUENZA. ■ a ■ FOR COUGHS, FOR SORE 1111 I I L-I I—I THROAT, MOST SOOTHING. WUUN WARMS THE CHEST, DISSOLVES THE PHLEGM. FOR SINGERS, FOR PUBLIC SPEAKERS. MI XT U R E 1 ▼ ■ I S V » I 1 1— 2s. 9D. Postage, 3D. Proprietor, HUGH DAVIES. Chemist, Machynlleth. London Agents: Mr. Morgan, Chemist, Tavistock Place, W.C.; Mr. Thomas, Chemist, Upper Baker Street, W. Wholesale: Barclays, 95, Farringdon Street.