Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD Y CYMRY. o *--*-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD Y CYMRY. o EI HYMWELIADAU A LLUNDAIN. ) < Yr wythnos hon mae Eisteddfod y Cymry ar ymweliad a Llundain. Pa bryd y bu yma gyntaf nid oes hanes. Mae'r croniclau yn fud ar hyn ond a barnu oddiwrth ei hynafiaith nid yw ond megys yn talu ym- weliad am dro a mangre ei mabod, os nad, yn wir, a chartref ei genedigaeth. Yn hen ysgrifau'r Cymry mae son yn fore am yr Eisteddfod. Myn rhai croniclwyr mai tua'r nawfed ganrif y ceir y ffeithiau cyntaf am ei chynnal, er y dywed ereill fod traddodiadau lied sicr am Eisteddfod yn nechreu'r chweched ganrif, o dan reolaeth Urien Rheged, yn Ystum Llwydiarth. Ceir hanes i wyl y beirdd hefyd gael ei chynnal tua'r flwyddyn 1070, gan Bleddyn ap Kynfyn, tra y derbynir gyda chryn fesur o sicrwydd yr hen hanesion am Eisteddfodau yng nghastell Aberteifi-un yn nechreu'r ddeu- ddegfed ganrif gan Cadwgan ap Bleddyn, ac arall yn 1168, gan Rhys ap Gruff ydd. Rhoddwyd gorchymyn swyddogol am gvnnal Eisteddfodau yng Nghaerwys yn 1523 a 1568, ac o'r adeg honno hyd yn awr mae'r hanes yn llawer mwy pendant am leoliad yr hen Wyl a'r dyddiadau pan y cynhelid hi. Er adeg cynhaliad Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819; pryd y cadeiriwyd Gwallter Mechain am ei awdl farwnad i Syr Thomas Picton, y mae prif feirdd Cymru wedi bod yn ymgodymu am y gadair. Weithiau cynygiwyd hon yn flynyddol, ac weithiau yn achlysurol. 0 ddiffyg arweinwyr priodol byddai'r hen Wyl am flynyddau yn cael ei hesgeuluso, ond ar ol ami i ymgynghoriad cytunwyd yn y flwyddyn 1860 ar gynllun i gynnal yr hen Wyl bob yn ail yn Ne a Gogledd Cymru, ac yn ol y cytundeb hwnnw y cerir y gweithrediadau ymlaen heddyw. Eisteddfodau Llundain Dyma'r trydydd tro i'r Eisteddfod Genedl- aethol, yn ei ffurf bresennol, ymweled a Llundain. Bu yma o'r blaen yn 1855, ac ym mlwyddyn gyntaf Jiwbili Victoria, sef 1887. Ond nid ydym i gasglu oddiwrth liyn fod Cymry Caerludd wedi bod yn ddifater ynglyn a'r hen Wyl. Yn wir, oni bae am aelodau llengar Cymdeithas y Gwyneddigion yn niwedd y ddeunawfed a dechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ni fuasai'r fath lewyrch ar yr hen sefydliad yng Nghymru ei hun. Cynllun Cymdeithas y Gwyneddigion oedd cynnal Eisteddfodau yma a thraw ar hyd drefi Cymru-yn bennaf yn y Gogledd. Mae cynnyrchion y rhai hyn eto yn arOB. Cynhaliwyd rhai yn Machynlleth, Llanbryn- mair, Aberteifi, Casnewydd, a Llangollen, ac mewn lleoedd ereill. Cyhoeddwyd yn nghroniclau'r Gwyneddigion fod Eisteddfod i'w chynnal yng Nghorwen, Mai 12, 1789, pryd y cynygid "cadairarian" amycynyich- ion byrfyfyr goreu yn yr Wyl; ac mae'r testynau a roed ar y pryd i'r beirdd ganu arnynt yn dra amrywiol. Yn Eisteddfod 1790, yn Llanelwy, aeth tlws y Gymdeithas i Dafydd Ddu Eryri, am ei awdl ar Ryddid," tra cadeiriwyd Twm o'r Nant am ei ganu ar destyn a roddid ar y pryd. Gorsedd ar Primrose Hill. Ceir hanes am Eisteddfod lwyddiannus yn ardal Primrose Hill yn y flwyddyn 1792, ac mae ysgrif faith ar yr Wyl yn y Gentleman's Magazine y flwyddyn honno. Ar yr ail o fit3 Medi y cynhaliwyd hi, a threfnwyd yr Orsedd yn unol a gofynion y cylch derwyddol, gyda'r noeth arf a'r meini llog. Caed anerchiadau oddiar y maen yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dafydd Samuel oedd yn cyn- rychioli yr archdderwydd, a chefnogwyd ef gan amryw o lenorion enwog y cyfnod. Un o fechgyn ardal Nantglyn oedd Dafydd Samuel, a meddyg o gryn fri yn Llundain ar y pryd, ac un a gymerai gryn lawer o ddy- ddordeb yn holl fudiadau Oymreig y ddinas. Eisteddfod '55. Rhoddwyd cryn fri ar Eisteddfod 1855. Cafodd gynorthwy'r Cymry enwoca yn Llun- dain ar y pryd, ac hefyd nawddogaeth y Frenhines, y Tywysog Albert a Thywysog ieuanc Cymru-y Brenin Iorwerth yn awr. Hon oedd y gyntaf, ar raddfa eang, i gael ei chynnal yn Llundain, a rhestrir hi ymysg un o rai pwysicaf y flwyddyn honno. Cydna- byddir hi fel yr un "Genedlaethol" am y flwyddyn, a haedda hynny am rai o'i chyn- nyrchion hefyd. Testyn y gadair oedd Gwladgarwch," ac Emrys oedd y buddugwr Enillodd Eryror GwyJlt Walia amryw

[No title]

[No title]

EISTEDDFOD Y CYMRY. o *--*-