17 Mehefin 1909
(Eisteddfod Daily Issue)
Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
List of Interesting Welsh…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
List of Interesting Welsh Books and Books Relating to Wales. University of Wales. Prifysgol eymru. Guild oj Graduates. Literaty Section. If Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd, Vol i. Edited, and with introduction, by the late Thomas E. Ellis, M.P. Crown 8vo, pp. xxi, 310 silk cloth, 3/6 net by post 3/10. "If Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd, Vol ii. Edited and with introduction, by J. H. Davies, M.A. Crown 8vo, pp. lxxx, 324 silk cloth, 3/6 net, by post 3/10. If Oil Synnwyr Pen Kembero a collection of proverbs, published by W. Salesbury about 1547. Edited, and with introduction, by J. Gwenogvryn Evans, M.A., Hon. D.Litt. Printed in facsimile black- letter. Crown 8vo, pp. xxxvi, 64 silk cloth, 2/6 net, by post 2/9. If Yny Lhyvyr hwnn the Welsh Primer of 1546. Edited, and with introduction, by J. H. Davies, M.A. Printed in facsimile black-letter. Crown 8vo, pp. xxxii, 46 silk cloth, 2/6 net, by post 2/9. IT Orych y Prif Oesoedd (Theophilus Evans, 1740). Edited, and with introduc- tion, by S. J. Evans, M.A., County School, Llangefni. Crown 8vo, pp. xl, 362 silk cloth, 4/6 net, by post 4/11. School edition, with voluminous notes by the Editor, 1/6 net, by post 1/9. If Pattrwm y Gwir Gristion, o gyfieithiad W.M. A.B. (1723). Edited, and with intro- duction, by H. Elvet Lewis, M.A. Crown 8vo, pp. xxii, 345 silk cloth, 3/6 net, by post 3/10. Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr, a gyfieithwyd i'r Gymraeg, o Ladin yr Esgob Jewel, yn y flwyddyn 1595, gan Maurice Kyffin. Argraffiad newydd. Edited, and with introduction and notes, by W. Prichard Williams. Printed in facsimile black-letter. Crown 8vo, pp. xcx, xx, 268 silk cloth, 51 net, by post 5/4. 1 Barddoniaeth William Llyn a'i Eir- lyfr, with notes and introduction by J. C. Morrice, M.A. Crown 8vo, pp. xliv, 332 silk cloth, 4/6 net, by post 4/10. If Llyfr y Tri Aderyn. Gan Morgan Llwyd o Wynedd. Ad-argraffiad llythrennol o'r argraffiad cyntaf. Antique paper. Crown 8vo, pp. vi, 112 1 net, by post 1/2, JARVIS & FOSTER, PUBLISHERS, BANGOR, and all Booksellers.
DYDD CYNTAF YR WYL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYDD CYNTAF YR WYL. COR CARNARVON YN ENNILL. Rhagolygon Disglair. A barnu oddiwrth ddydd agoriad yr Eis- teddfod, yn Llundain, mae argoelion y ceir Gwyl tra llwyddiannus. Yn gynnar boreu Mawrth, cyfarfu'r beirdd yn Albert Hall, a ffurfiwyd gorymdaith hardd i erddi Kensing- ton, ac yno, yng nghanol y coed, cynhaliwyd yr Orsedd, a Gorsedd teilwng o'r Eisteddfod oedd hon. Cylchynid y fan gan goed talfrig, ac yno seiniai yr hen delyn mor ber a phe yng nghanol mynyddau Cymru. Offrymwyd gweddi yr Orsedd gan Pedr Hir, a dywedodd yr Archdderwydd mai Heddwch" oedd un o gyswyn-eiriau yr Orsedd. Mae hyn yn fath o gysur i ni mewn oes pryd nad oes son am ddim ond rhyfel, ar dir a mor, ac yn yr awyr, lie triga'r adar, hefyd, Cadfan draddododd yr arawd gyntaf, a hawliai fod yr Orsedd, o leiaf, dros bedair mil o flynyddoedd mewn oed. Brodyr ydym o fewn y cylch, meddai. Myn rhai wneud yr Orsedd yn rhywbeth newydd; ond camgymeriad mawr oedd hynny. 'E gedwir yr Orsedd a'r Eisteddfod yn goleg y werin holl ddyddiau'r ddaear. Gwnaed coffhad am Orseddogion ymad- awedig. Am Meurig Wyn gan Gwynfe; am Brychan gan Machreth; ac am Alban gan Llifon. Ddywedodd Syr Marchant Williams mai cylch hedd yw hwn, ac mae'n bosibl i Machreth a finnau i fod yn gyfeillion o fewn ei feini. Ar ran Cymdeithas yr Eisteddfod dymunai sylwi ar drefniadau pwyllgor Llundain y maent yn berffaith, a hyderai y byddai hon yn un o'r Eisteddfodau mwyaf llwyddiannus yn ei hanes. Caed anerchiad gan frodor o Lydaw, ac yna siaradwyd gan Cynonfardd. Er mai mewn gwlad arall yr oedd yn byw, teimlai mai un oeddem i gyd drwy yr Eisteddfod a'r iaith Gymraeg. Wedi cael alawon gan Eos Dar aed yn ol yn orymdaith i'r Neuadd. OEDFA'R BORE. Teneu oedd y cynulliad pan ddechreuwyd gwaith yr Eisteddfod. Nid oedd hynny o un syndod, oherwydd mai yn y prydnawn y disgwylid y torfeydd. Dechreuwyd trwy gael anerchiadau barddol gan Dyfed, Eifionydd, a Bethel, a rhoddodd Miss Tilly Bodycombe gan yr Eisteddfod. Buwyd yn brysur gyda'r cystadleuon yn ystod y dydd, a'r buddugwyr oeddent fel hyn:- Y BUDDUGWYR. Canu Pennillion gyda'r tannau gan bar ti o bed war: Goreu, Owen Jenkins a'i gyfeillion, o Lerpwl a Birkenhead. Myfyrdraeth, Goronwy Owen yn Ffarwelio a'i Wlad," W. J. Gruffydd, Tongwynlais, Caerdydd. Drama fer, Mr. T. O. Jones, Gwynfor, Caernarfon. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg Rhannwyd rhwng Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. Port Dinorwic, a Mr. E. Morgan Humphreys, Caernarfon. Cystadleuaeth pedwarawd datganu darn a roddir ar y pryd, Mr. Thomas (Morley Hall, Llundain), a'i gyfeillion. Am gystadlu ar y Mynegai (Index to Welsh Periedical Literature), nid oedd neb yn deilwng ond aw- grymai y beirniaid ar i'r testyn gael ei adael yn agored am flwyddyn arall. Cywydd Mynachlog Ystrad Fflur," goreu Alafon Caernarfon. Cystadleuaeth go druenus yw hon," meddai'r Athro J. Morris Jones yn ei feirniadaeth ar y Cywydd, a'r goreu yw Ab Cynfyn." Traethawd, Cymry yn rhyfel y Rhosynau," gwobrwywyd Mri. Myrddin Evans, B A., a W. J. Griffiths, B.Sc., o Gaerdydd, am draethawd unedig. Cyfansoddiadau Cerddorol (1) Cyfeiliant i Ganeuon Gwerin Cymru; (2) Unawd Soprano, goreu am y ddau, Mr. E. T. Davies, F.R.C.O., Merthyr. Unawd Tenor, Tom Bonnell, Pentre, Ystrad Rhondda. Cystadleuaeth y Pedwarawd, goreu Mr. D. Chubb, Pontypridd, a'i gyfeillion. Unawd Mezzo Soprano, Miss Elizabeth Hall, Pembrey. Landscape in Oil, goreu Alfred Oliver, Capsl Curig ail, Mrs. Goriardot, Tongham, Surrey. Landscape in Water Colour, goreu C. Lilian Shepherd, Fulham; ail, Miss E. M. Richards, Penzance. Study of Head in Oil, goreu, M Lindsay Williams, Barry; ail, Mrs. O. M. Lloyd, Cheadle Hulme, Manchester. Painting in Oil, still life, goreu Clifford Morgan, Ebbw Vale ail, Olwen Thomas, Stockton. Painting in Watercolour, goreu "Marna"; ail, Ymdrechwr." Y BRIF GYSTADLEUAETH. Dyma brif atyniad y dydd, ac ar ol araith Mr. Balfour daeth y corau ynghyd gan ganu yn y drefn a sranlvn :— 1 1. Pembroke Dock. 2. Rhymney United, 3. Rhymney Gwent. 4. Caernarfon. 5 Caerdydd. 6. Lllanelly. Ar derfyn y canu daeth Dr. Stanford i'r llwyfan gan hysbysu mai'r goreu oedd COR CARNARVON, tan arweiniad Mr. John Williams, ac mai'r ail oedd COR LLANELLY, tan arweiniad Mr. John Thomas.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"Pedr Fardd a "Gwynfe" yw cyn- rychiolwyr yr Orsedd o'r ddau fesur a elwir "deuair-hirion" a "deuair-byrion." Ar ol i Eos Dar orlfen ei gan yn yr Orsedd, gwaeddai Dyfed :— Denu duwiau i'n daear Wna dawnus don Eos Dar." Cynhelir cyfarfod y beirdd, yn yr Albert Hall, ddydd lau, am 5 o'r gloch, ac nid yn ystafelloedd y Cymmrodorion, yn Chancery Lane. "Nid yw mantell Shakespeare ddim wedi disgyn ar yr un o awdwyr y ddrama ond gallwn feddwl fod un o honynt wedi ben- 9 thyca cap Bernard Shaw," ebai Elphin, yn ei feirniadaeth foreu Mawrth. Dyma englyn cyfarch i Llwyd ap Owen ar ei lwyddiant yn arholiad y beirdd- Drwy ei ddawn, cyfiawn cyfyd-a rhodia I anrhydedd hefyd A Llwyd ab Owen i ben byd, Ca hedfan ogylch y Cydfyd. Mae rhestr llyfrau Cymdeithas yr Eis- teddfod yn y rhifyn hwn, a dylai cefuogwyr yr hen Wyl ofalu sicrhau cynyrchion y Grymdeithas hon. Hysbysir fod y gadair wedi ei hennill, ond pwy yw'r buddugwr sy'n bwnc rhaid aros nyd ddydd lau am dano. Dywedir y bydd yn debyg o fod yn un o'r digwyddiadau mwyaf cyffrous yn ystod yr Wyl. Does dim fel edrych ymlaen. Mae pobl Llanelly am wneud cais i gael yr Eisteddfod yn 1913. Paham na cheisiant am dani yn 1911 er mwyn ychwanegu at yr ymdrech yn Albert Hall ddydd lau.