Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

DYDD CYNTAF YR WYL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD CYNTAF YR WYL. Y BUDDLTGWYE. Canu Pennillion gyda'r tannau ga-i barti o bedwar: Goreu, Owen Jenkins a'i gyfeillion, o Lerpwl a Birkenhead. Myfyrdraeth, Goronwy Owen yn Ffarwelio a'i Wlad," W. J. Gruflydd, Tongwynlais, Caerdydd. y I Drama fer, Mr. T. O. Jones, Gwynfor, Caernarfon. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg Rhannwyd rhwng Parch. D. Tecwyn Evans, BA, Port Dinorwic, a Mr. E. Morgan Humphreys, Caernarfon. Cystadleuaeth pedwarawd datganu darn a roddir ar y pryd, Mr. Thomas (Morley Hall, Llundain), a'i gyfeillion. Am gystadlu ar y Mynegai (Index to Welsh Periodical Literature), nid oedd neb yn deilwng ond aw- grymai y beirniaid ar i'r testyn gael ei adael yn agored am flwyddyn arall. Cywydd Mynachlog Ystrad Fflur," goreu Alafon Caernarfon. (' Cystadleuaeth go druenus yw hon," meddai,r Athro J. Morris Jones yn ei feirniadaeth ar y Cywydd, a'r goreu yw Ab Cynfyn." Traethawd, Cymry yn rhyfel y Rhosynau," gwobrwywyd Mri. Myrddin Evans, B.A., a W. J. Griffiths, B.Sc., o Gaerdydd, am draethawd unedig. Cyfansoddiadau Cerddorol (1) Cyfeiliant i Ganeuon Gwerin Cymru; (2) Unawd Soprano, goreu am y ddau, Mr. E. T. Davies, F.R.C.O., Merthyr. Unawd Tenor, Tom Bonnell, Pentre, Ystrad Rhondda. Cystadleuaeth y Pedwarawd, goreu Mr. D. Chubb, Pontypridd, a'i gyfeillion. Unawd Mezzo Soprano, Miss Elizabeth Hall, Pembrey. Landscape in Oil, goreu Alfred Oliver, Capel Curig ail, Mrs. Goriardot, Tongham, Surrey. Landscape in Water Colour, goreu C. Lilian Shepherd, Fulham; ail, Miss E. M. Richards, Penzance. Study of Head in Oil, goreu, MLindsay Williams, Barry; ail, Mrs. O. M. Lloyd, Cheadle Hulme, Manchester. Painting in Oil, still life, goreu Clifford Morgan, Ebbw Vale ail, Olwen Thomas, Stockton. Painting in Watercolour, goreu "Marna"; ail, Ymdrechwr." Y BRIF GYSTADLEUAETH. Dyma brif atyniad y dydd, ac ar ol araith Mr. Balfour daeth y corau ynghyd gan ganu yn y drefn a ganlvn 1. Pembroke Dock. 2. Rhymney United. 3. Rhymney Gwent. 4. Caernarfon. 5 Caerdydd. 6. Lllanelly. Ar derfyn y canu daeth Dr. Stanford i'r llwyfan gan hysbysu mai'r goreu oedd COR CARNARVON, tan arweiniad Mr. John Williams, ac mai'r ail oedd COR LLANELLY, tan arweiniad Mr. John Thomas.

DYDD MERCHER.

DYDD IAU'.

[No title]