Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD Y CYMBY. ...,.-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD Y CYMBY. EI HYMWELIADAU A LLUNDAIN. Yr wythnos hon mae Eisteddfod y Cymry ar ymweliad a. Llundain. Pa bryd y bu yma gyntaf nid oes hanes. Mae'r croniclau yn fud ar hyn; ond a barnu oddiwrth ei hynafiaith nid yw ond megys yn talu ym- weliad am dro a mangre ei mabod, os nad, yn wir, a chartref ei genedigaeth. Yn hen ysgrifau'r Cymry mae son yn fore am yr Eisteddfod. Myn rhai croniclwyr mai tua'r nawfed ganrif y ceir y ffeitliiau cyntaf am ei chynnal, er y dywed ereill fod traddodiadau lied sicr am Eisteddfod yn nechreu'r chweched ganrif, o dan reolaeth Urien Rheged, yn Ystum Llwydiarth. Ceir hanes i wyl y beirdd hefyd gael ei chynnal tua'r flwyddyn 1070, gan Bleddyn ap Kynfyn, tra y derbynir gyda chryn fesur o sicrwydd yr hen hanesion am Eisteddfodau yng nghastell Aberteifi-un yn nechreu'r ddeu- ddegfed ganrif gan Cadwgan ap Bleddyn, ac arall yn 1168, gan Rhys ap GrufTydd. Rhoddwyd gorchymyn swyddogol am gynnal Eisteddfodau yng Nghaerwys yn 1523 a 1568, ac o'r adeg honno hyd yn awr mae'r hanes yn llawer mwy pendant am leoliad yr hen Wyl a'r dyddiadau pan y cynhelid hi. Er adeg cynhaliad Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819; pryd y cadeiriwyd Gwallter Mechain am ei awdl farwnad i Syr Thomas Picton, y mae prif feirdd Cymru wedi bod yn ymgodymu am y gadair. Weithiau cynygiwyd hon yn flynyddol, ac weithiau yn achlysurol. 0 ddiffyg arweinwyr priodol byddai'r hen Wyl am flynyddau yn cael ei hesgeuluso, ond ar ol ami i ymgynghoriad cytunwyd yn y flwyddyn 1860 ar gynllun i gynnal yr hen Wyl bob yn ail yn Ne a Gogledd Cymru, ac yn ol y cytundeb hwnnw y cerir y gweithrediadau ymlaen heddyw. Eisteddfodau Llundain Dyma'r trydydd tro i'r Eisteddfod Genedl- aethol, yn ei Hurf bresennol, ymweled a Llundain. Bu yma o'r blaen yn 1855, ac ym mlwyddyn gyntaf Jiwbili Victoria, sef 1887. Ond nid ydym i gasglu oddiwrth hyn fod Cymry Caerludd wedi bod yn ddifater ynglyn a'r hen Wyl. Yn wir, oni bae am aelodau llengar Cymdeithas y Gwyneddigion yn niwedd y ddeunawfed a dechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ni fuasai'r fath lewyrch ar yr hen sefydliad yng Nghymru ei hun. Cynllun Cymdeithas y Gwyneddigion oedd cynnal Eisteddfodau yma a thraw ar hyd drefi Cymru-yn bennaf yn y Gogledd. Mae cynnyrcbion y rhai hyn eto yn aros. Cynhaliwyd rhai yn Machynlleth, Llanbryn- mair, Aberteifi, Casnewydd, a Llangollen, ac mewn lleoedd ereill. Cyhoeddwyd yn nghroniclau'r Gwyneddigion fod Eisteddfod i'w chynnal yng Ngborwen, Mai 12, 1789, pryd y cynygid cadair arian am y cynyrch- ion byrfyfyr goreu yn yr Wyl; ac mae'r testynau a roed ar y pryd i'r beirdd ganu arnynt yn dra amrywiol. Yn Eisteddfod 1790, yn Llanelwy, aeth tlws y Gymdeitbas i Dafydd Ddu Eryri, am ei awdl ar Ryddid," tra cadeiriwyd Twm o'r Nant am ei ganu ar destyn a roddid ar y pryd. Gorsedd ar Primrose Hill. Ceir hanes am Eisteddfod lwyddiannus yn ardal Primrose Hill yn y flwyddyn 1792, ac mae ysgrif faith ar yr Wyl yn y Gentleman's Magazine y flwyddyn honno. Ar yr ail o fis Medi y cynhaliwyd hi, a thiefnwyd yr Orsedd yn unol a gofynion y cylch derwyddol, gyda'r noeth arf a'r meini llog. Caed anerchiadau oddiar y maen yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dafydd Samuel oedd yn cyn- rychioli yr archdderwydd, a chefnogwyd ef gan amryw o lenorion enwog y cyfnod. Un o fechgyn ardal Nantglyn oedd Dafydd Samuel, a meddyg o gryn fri yn Llundain ar y pryd, ac un a gymerai gryn lawer o ddy- ddordeb yn holl fudiadau Cymreig y ddinas. Eisteddfod '55. Rhoddwyd cryn fri ar Eisteddfod 1855. Cafodd gynorthwy'r Cymry enwoca yn Llun- dain ar y pryd, ac hefyd nawddogaeth y Frenhines, y Tywysog Albert a Thywysog ieuanc Cymru-y Brenin Iorwerth yn awr. Hon oedd y gyntaf, ar raddfa eang, i gael ei chynnal yn Llundain, a rhestrir hi ymysg un o rai pwysicaf y flwyddyn honno. Cydna- byddir hi fel yr un "Genedlaethol" am y flwyddyn, a haedda hynny am rai o'i chyn- nyrchion hefyd. Testyn y gadair oedd "Gwladgarwch," ac Emrys oedd y buddugwr Enillodd Eryror Gwyllt Walia amryw. SYR JOHN H. PULESTON, D.L. [Efe oedd Cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod 1887, ac efe oedd un o'r rhai cyntaf i ddod yn gefnogydd i'r Wyl yn 1909; ond cafodd ei alw at ei dadau tra yr oeddem yn paratoi gogyfer a'r gwaith.] wobrau yn yr Wyl hon. Efe oedd y goreu ar yr englyn-yr hwn oedd I'R MORGRUGYN. Y morgrugyn, hyn a honnaf-i ddyn A rydd wers gywiraf; Llaw ddiwyd ar hyd yr haf; Llawn gewyll yn y gauaf. Ar yr englynion coffa i John Elias, anfonodd Eryror ddau gyfansoddiad i mewri ond methodd y beirniaid a dweyd p'un oedd oreu, eithr rhannwyd y wobr rhwng chwech o ymgeiswyr-allan o 40-ac ymhlith y chwech 'roedd dau o waith Eryron. Cymhariaethau Y mae'n ddyddorol sylwi ar raio destynau '55 er mwyn gweled a oes unrhyw gynnydd ynglyn a'r Wyl yn yr hanner canrif sydd wedi myned heibio. Awdl y gadair yn '55 oedd "Gwladgarwch," a'r wobr ugain gini. Awdl 1909 Gwlad y bryniau," gwobr ugain punt. Pryddest '55 "Marwnad Ardalydd Mon," gwobr deg gini. Pryddest 1909 "Yr Arglwydd Rhys," gwobr ugain punt. Cywydd '55, Llundain," gwobr pum gini. Cywydd 1909 Mynachlog Ystrad Fflin," gwobr saith punt. Ac mae amryw o destynau ereill yn '55 yn hynod o debyg i'r hyn a geir yn y rhaglen am eleni. Dyma rai o honynt Am y Bryddest oreu ar y Rhyfelgyrch i'r Crimea, a Gwarchaead Sebastopol, gwobr Deg Gini. Am y Chwe Englyn goreu i'w gosod ar feddfaen y diweddar Barch. John Elias, gwobr o Chwe Gini. Am yr Anthem oreu ar y "Magnificat," neu Gan y Forwyn Fair," gwobr o Bum Gini. Am y Gan oreu o Dri Phenill, i Dywysog Cymru ar yr un mesur. Gwobr o Dri Gini. Am yr Englyn goreu i'r Morgrugyn, gwobr o Un Gini. Am y Traethawd goreu, yn Saesneg, ar Ddaeareg (Geology) Cymru, a Chynydd gwaith ei Mwngloddiau, gwobr o Ddeg Gini. Am y Traethawd goreu yn Gymraeg neu Saesneg, ar yr Undeb Presenol rhwng Ffrainc a Phrydain, a'r Dylanwad mae'n debyg o wneyd ar Wareiddiad y Byd, gwobr o Ddeg Gini. Am y Traethawd goreu yn Saesneg, ar y Gyfun- draeth o Addysg fwyaf cymhwysiadol at amgylchiadau Cymru, gwobr o Ddeg Gini. Am y Traethawd goreu yn Gymraeg, ar Arddwr- iaeth y Gweithiwr (cottage gardening), gwobr o Bum Gini. I'r Chwareuwr goreu ar y Delyn Gymreig, gwobr o Bum Gini. I'r Canwr Penillion goreu, gwobr o Ddau Gini. Anfoner pob Taliadau i'r Union Bank," Llundain yn enw'r frysorydd. Thomas Roberts, M.D., 40, Bridge-street, Southwark. Cyfeirier pob Gohebiaethsu at yr Ysgrifenydd, Mr. Hugh Williams, 1, Montague-terrace, Trinity- square, Southwark. Rhaid i'r Cyfansoddiadau fod yn llaw yr Ysgrif- enydd ar y cyntaf o Fehefin. Y cyfansoddiadau Buddugol i fod yn eiddo'r Committi. Byddai'n ddyddorol gwybod beth ddaeth o amryw o'r darnau buddugol yn y cystad- leuon hyn. Diau i'r mwyafrif aros yn nwy- law'r "Committi" nes eu colli fel y mae'r hanes am ami i gomiti ar ei ol. Eisteddfod 1887. Eisteddfod Caerludd" y gelwid, gwyl 1887 ar y rhaglen, a chynhaliwyd hi ar Awst 9 i 12, yn Albert Hall. Caed tywydd nodedig o byfryd yn ystod yr wythnos, a deuai'r miloedd yn gynnar i Hyde Park i wylio gweithrediadau yr Orsedd. Hwfa M6n oedd yn cynrychioli Clwydfardd, yr Archdderwydd, ar y boreu cyntaf o'r Wyl; a chaed anerchiadau dyddorol gan amryw feirdd. Ymysg yr ymwelwyr o'r America oedd Granvillefab, yr hwn a adroddodd a ganlyn Rwyn caru'n ngwlad pan fyddaf draw Dros for a thir gorllewin pell I Rwyn caru rhyddid ar bob llaw Ond rhyddid Cymru'n llawer gwell. Tra'n caru byw mi garaf swyn Lechweddau prydferth Gwalia Wen Erfyniaf am i'r nefoedd ddwyn Bendithion lawer ar ei phen. Ond mae hanes cyflawn o'r Wyl hon ar gof a chadw. Y ddau wr a ofalai am ei llwyddiant oedd Mr. Vincent Evans a Mr. W. E. Davies. Hwynthwy oedd yr ysgrifenyddion, ac mae'n ddyddorol nodi mai Mr. Vincent Evans yw cadeirydd y pwyllgor gweithiol yn awr, a Mr. W. E. Davies yr ysgrifennydd hynaf; ac mae amryw o'r rhai oeddent yn aelodau o bwyllgor '87 yn aros, ac yn aelodau ffydd- lawn o'r pwyllgor eleni eto. Berw oedd cadeirfardd y flwyddyn am awdl ar Vic- toria." Ar ddydd olaf yr Wyl daeth Tywysog Cymru (y Brenin Iorwerth yn awr) i'r Wyl, a chafodd John Puleston ei wneud yn Syr. Cadfan oedd y goreu ar y Bryddest, a cbyf- lwynwyd ef i'r Tywysog. Yr un boreu cafodd "Elfed"-y pryd hynny y Parch. H. Elfet Lewis, Hull-hanner y wobr am draethawd ar farddoniaeth Gymreig.

[No title]