Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ADDYSGU CYMRAEG I'R BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADDYSGU CYMRAEG I'R BEIRDD. Yn ei feirniadaeth faith ar yr un ar hugain awdlau ddanfonwyd i Eisteddfod Llundain, mae'r Athro J. Morris Jones yn rhoddi cyfarwyddyd amserol i'r cystadleu- wyr sut i ysgrifennu Cymraeg glan. Dyma ddywed:- Gellir nodi tri bai sy'n digwydd yn fynych yn yr awdlau 1. Oamosod y rhagwant. Lie bo llinell gyntaf englyn unodol union yn cynnwys cynghanedd sain, dylai'r rhagwant, sef ail odl y gynghanedd, fod ar y pumed sillaf, yn rhannu'r llinell yn ei hanner. Nid mympwy yw'r rheol, ond hen draddodiad yn tarddu o ffurf gysefin y mesur ac ystyrid ef mor bwysig gynt fel y dewisid cynghanedd sain yn hytrach na'r un arall i ddechreu englyn, er mwyn cael rhagwant ynddo. Sylwer, er engraifft, ar y saith englyn sy'n agor Marwnad Lewys Morys o waith Goronwy; dechreua pob un a chynghanedd sain, a'r rhagwant ar y pumed ymhob un. Ond yn yr awdlau hyn ceir ef ar y pedwerydd, ac ar y chweched, ac ar y seithfed. Dylid cadw at y rheol mewn toddaid hefyd, er fod llawer o ysgrifenwyr diweddar yn ei hesgeuluso yn y fan hon. 2. Gallesid tybied fod pob cyngbaneddwr yn deall mai pedair sillaf ydyw hyd eithaf y gair cyrch mewn englyn neu doddaid. Eglura'r llyfrau yn ofalus y gall fod yn bedair, yn dair, yn ddwy, neu yn un ond yn amryw o'r awdlau hyn fe geir gair cyrch o bum sillaf-hanyier y llinell yn air cyrch 3. Ceir yn fynych yn rhai o'r awdlau doddaid ar ei ben ei hun, heb gymar na dim arall i odli ag ef. Tebyg mai Dewi Wyn a ddug y gwrthuni hwn ar arfer. Anodd deall pa fodd y bodlonir dust neb a'r fath erthyl ag yw toddaid ar ei ben ei hun. Ni waeth rhoi dwy linell o fesur salm ar lawr, a galw'r rheini'n bennill. Darn o bennill yw toddaid y mae eisiau dau i lunio pennill, neu ynteu ieuo'r toddaid a rhywbeth arall ar yr un odl, megis mewn Englyn neu Waw- dodyn. Y mae'r rheolau'n bendant ar y pwnc. Eithr Rhupunt byrr, a rhupunt hir, a Chyhydedd hir, a Thoddaid, yssydd weddus roi iddynt gymhareu," medd y rheol, fel y'i rhoddir gan John Dafydd Rhys; ac mewn man arall Rhyw fesurau yssyd unic a diffrwyth wrthynt eu hunain heb eu cymharu oe rhywogaeth eu hunain neu o rywogaeth arall a fo tebyg iddynt. Canys moelion heb gymar a gwrthyn fydd- ant y rhai hyn," ac yna enwir hwynt. Y mae awdl gywydd a chywydd llosgyrniog i'w chwanegu at y rhestr uchod ond toddaid yw'r unig un a gamarferir fel hyn yn gyff- redin, ac nid oes dim yn mwy diflas. Y mae yma gryn welliant i'w ganfod yng Nghymraeg yr awdlau llai o lawer o ferfau fel "rhodda" am rhydd," a "safa" am saif eto y mae rhai o'r ymgeiswyr heb drafferthu i ddarllen yr un feirniadaeth ac heb ddysgu dim. Ceir eto lawer o ffug eiriau fel derch," a defion," a dyrchu am ddyrchafu," ac edyn am aden- ydd"; amryw yn arfer "adwaen" "I know" yn lie "adnabod"—"yr wyf yn adwaen yn lie yr wyf yn adnabod,' fel pe dywedid "yr wyf yn 'gwn, yn lie "yr wyf yn 'gwybod. Dyna lurguniad rhyfedd ar air hefyd ydyw "creig" yn lie "creigiau." Ni thry "ai" yn ei ond pan chwanegir sillaf; gair," lliosog geiriau," nid geir taith," teithiau," nid "teith"; "craig," "creigiau," nid "creig." Weithiau fe geir enw wedi ei gam acennu. Gellir maddeu i Ddeheuwr, efallai, am ddywedyd Aber Ffraw! yn lIe Aberffraw," er mai anwybodaeth dybryd yw hynny ond meddyliwch am ymgeisydd am y gadair genedlaethol yn galw Owain Glyn Dwr yn Lyndwr!" Y mae yma ddau yn euog o'r trosedd ysgeler hwn yn erbyn traddodiadau anwylaf y genedl. Ni wiw disgwyl i bob ymgeisydd fod wedi darllen cywyddau lolo Goch i— Owain glain dwyrain Glyn Dwr ond tybed na chlybu clustiau'r un o'r ddau hyn erioed Gymro dilediaith yn crybwyll enw Owain Glyn Dwr ? Tlodaidd ydyw cystrawen y rhan fwyaf o'r awdlau; a dylid nodi un gwall mynych ynddynt, sef arfer "tra" yn lie "a" i ddwyn i mewn ymadrodd amserol diferf. Fel hyn y canai Dafydd ap Gwilym— A mi neithwyr (hwyr bu hyn) Yn d' aros, liwbryd ewyn ond cystrawen y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr hyn ydyw "tra" mi 'n d' aros,"—efelychiad gwael o'r Saesneg, ac nid yw na Chymraeg na Saesneg: tra' mi 'n aros while I waiting A dyma gawn o hyd tra' 'r adar yn canu," tra' 'r haul yn ty- wynnu." Yr oedd gan yr hen faledwyr well Cymraeg ped fai'r ymgeiswyr hyn yn canu cerdd, diau y dechreuent— Fel 'r oeddwn i 'n myfyrio, Tra 'r cloc yn taro un.

[No title]

Advertising