Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dywedir fod cor Llanelli mor hyderus o fod yn llwyddiannu8 yn yr Albert Hall fel y daethant gyda hwy stoc o ribanau gyda'r geiriau Yr Enillwyr arnynt. Pan y cafwyd y ddyfarniad gwnaethant y pethau goreu a allent dan yr amgylchiadau torcalonus iddynt hwy, sef gwerthu y ribanau i Iu ldew, yr hwn a'u gwerthodd yn ei dro i aelodau cor Oaernarfon. Yn Eisteddfod fawr Utica, yr hon a gyn- helir ar y dydd olaf o'r flwyddyn hon a dydd Calan 1910, rhoddir gwobr o bedwar cant o ddoleri i'r cor meibion a gano yn oreu Llewelyn ein llyw olaf," o waith Tom Price. Myn rhai o'r critics Seisnig nad oedd y canu yn Albert Hall yn Eisteddfod 1909 cystal a'r canu glywyd yno yn 1887. Os felly, a yw ein llafur yn yr ugain mlynedd hyn wedi myned yn ofer ? Oeir erthygl ar yr Eisteddfod yn y Con- temporary Review am y mis hwn wedi ei hysgrifennu gan Mr. Ernest Rhys. Mae Mr. Rhys yn eisteddfod wr pybyr, a gwyr sut i'w desgrifio i'r Sais.