Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

A GEIR ETHOLIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A GEIR ETHOLIAD. Ymholiad pennaf y cylchoedd gwleidyddol yr wythnos lion yw "A geir Etholiad Cyffredinol cyn adeg y Nadolig ? Mae adran o aelodau Ty'r Arglwyddi yn dechreu bygwth y teflir allan Gyllideb Mr. Lloyd George yn gyfangwbl, ac na roddir yr ys- tyriaeth lleiaf i'w gynlluniau. O'r ochr arall y mae Arglwydd Lansdowne- arwein- ydd Toriaidd y Ty-wedi traethu ei farn, mai newid y cynlluniau a chwtogi ar ofynion Mr. Lloyd George a wneir, a hawlia fod gan y Ty uchaf berffaith hawl cyfansoddiadol i arolygu bwriadau arianol, ac unrhyw gyn- lluniau trethol, a osodir gan Dy'r Cyffredin. Yn ol yr awdurdodau cydnabyddedig y mae'r Ty Uchaf wedi colli pob hawl cyfan- soddiadol i reoli cynlluniau arianol y wlad er adeg y werin-lywodraeth-yn agos i dri chan mlynedd yn ol, a bydd yn ergyd chwerw i'r ysbryd gwerinol yn y wlad hon os bydd i Dy'r Arglwyddi adfeddiannu y gallu hwn. Mae'n wir fod y Ty Uchaf ar bob achlysur yn y blynyddoedd diweddaf hyn wedi plygu i ofynion arianol Ty'r Cyffredin, a bynny yn arjal pan nad yw'n eydsynio a rhai o'r trefn- iadau a wneir. Hawlia pob prif-weinidog fod llais y Cyffredin yn gadarnach na llais yr Arglwyddi ar faterion arianol, ac mae Mr Balfour ei hun wedi cydnabod hynny droion. Ymhellach y mae'r Times, yn rhai o'i erth- yglau yn ystod yr wythnos ddiweddaf wedi cydnabod yr arferiad o adael pob trafnid- iaeth arianol i'r Ty isaf yn unig, ac yn bygwth y Ty uchaf y daw canlyniadau pwysfawr i unrhyw ymgais ar ran yr Arglwyddi i arolygu neu gyf newid unrhyw gynlluniau arianol. Ond y pwnc yn awr yw, a ydyw Ty'r Arglwyddi yn ddigon cadarn i hawlio y gallu newydd hwn ? Y mae'n amlwg fod y wlad yn hynod o ansefydlog ar fater y Gyllideb. Nid yw'r werin eto wedi eyflawn ddeall y darpariaethau wneir gan Mr. Lloyd George, a'r canlyniad yw, fod rhai o'r ethol- iadau diweddar wedi troi yn hynod siomedig i bleidwyr y Weinyddiaeth. Mae'n haws o lawer i ymosod ar drefniadau newydd na chynnyg gwell cynlluniau. Ac nid Ue'r wrthblaid ar unrhyw adeg yw hyfforddi'r rhai sydd mewn awdurdod sut i ymddwyD Ea cenhadaeth hwy yw pigo beiau, ac mae digon o le i feirniaid wrth arolygu'r fath fesur cynhwysfawr fel ag a gynygir yn awr gan y Weinyddiaeth. Nid yw'r Rhydd- 1 frydwyr wedi egluro cynnwys y mesur yn ddigon poblogaidd. Cred y werin fod adrannau gormesol ynddo, ac mae'r doll ar 5 wirod ac ar y myglys yn arfau miniog yn S nwylaw ein gwrthwynebwyr. Gan fod y wlad heb ei goleuo yn y mater, y mae'r 1 etholiadau yn troi yn wrthwynebol i bleid- wyr y Weinyddiaeth a chan fod hyn yn fath o arddangoseg o deimlad y wlad yn gyffredinol, cred yr Arglwyddi y gallant gyda phriod- oldeb hawlio y gallu hwn i'w dwylaw o arolygu'r gwaith a wneir gan Dy'r Cyffredin.

BETH FYDD Y

YR AELODAU CYMREIG.

Advertising