Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

YN OL I GYMRU.

Y TRI CHANT GWEDDILL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-sydd ag angen cynorthwy arianol arnynt ydyw'r Llyfrgell a'r Amgueddfa Genedlaethol. Hyd yn hyn nid yw Cymry'r ddinas wedi gwneud rhyw lawer dros y naill na'r llall, a ,chredaf mai doeth fyddai manteisio ar y cyfle rhagorol hwn i ddangos ein cefnogaeth o'r sefydliadau rhagorol hyn. Rhagor na hyn, nid doeth fyddai anwy- byddu Llundain ei hun. Mae angen am gadw yr ysbryd cenedlaethol yn fyw ymysg Cymry ieuainc y ddinas hon, a'r hyn sydd ei eisieu yn bennaf yn awr yw cyfleusterau i ymgydnabyddu a llenyddiaeth ac a hanes Cymru. Mae yn hen bryd i ni gael casg- liad teilwng o lyfrau Cymreig i'n mysg, mewn man canolog ac o dan reolaeth rhyw bwyllgor hollol anenwadol. Yr unig sefyd- liad sydd yn dod agosaf at yr angen yw'r Clwb Cymreig, a deallaf fod mudiad ar droed i gychwyn Llyfrgell ynglyn a'r lie. Mae ,hwn yn haeddu eia cefnogaeth fel cenedl, a byddai'n weithred deyrngar a'n pobl ieuainc pe bae pwyllgor yr Eisteddfod yn ei gynorth- wyo ar y cychwyn. Nid aelodau y Clwb, yn unig, fyddai yn abl i fanteisio ar y Llyfrgell. Gall unrhyw aelod gymeradwyo ereill i fyned i'r lie ar achlysuron penodedig, ac ni fyddai yr un anhawster ar y ffordd i unrhyw Gymro fyned yno i wneud defnydd o'r cyfrolau. Rhaid cael personau cyfrifol i'n cyflwyno i freintiau'r Amgueddfa Brydeinig ei hun, a gellir yn hawdd drefnu rheolau cyffelyb ynglyn a'r rhai nad ydynt yn aelodau rheol- aidd i fyned i lyfrgell Gymreig ynglyn ag unrhyw sefydliad canolog yn Llundain. Fy awgrymiad i felly, yw, ar i'r pwyllgor drefnu i rannu y gweddill yn y drefn a ganlyn:- £ 150 i Gymdeithas yr Eisteddfod yn unol a'r addewid. £ 50 tuag at Gronfa yr Amgueddfa Genedl- aethol yng Nghaerdydd. £ 50 tuag at Gronfa y Llyfrgell Genedl- aethol yn Aberystwyth. A Y,50 tuag at gael llyfrau Cymraeg i'r Llyfrgell sydd newydd ei sefydlu at was- anaeth Clwb Cymreig Llundain. Credaf pe rhennir y tri chant yn ol y drefn uchod y byddai pob un o gefnogwyr goreu yr Eisteddfod yn cael ei lwyr foddloni, a mwy na'r oil byddai mudiadau goreu'r genedl heddyw yn cael cynorthwy amserol oddiar law'r cenedlaetholwyr Cymreig sydd yn Llundain.