Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE CENTRAIji INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the Liverpool and London & Globe Insurance Co Assets exceed £ 11,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, Loss of Profits, &c., &c. Write for Prospectus: HeadOmce-t, CORNHILL, LONDON, E.G. HUGH LEWIS, Manager and Secretary. PRELIMINARY ANNOUNCEMENT. WELSH C.M. CHAPEL, WOOD GREEN cp I $ofa/e of IQfork will be held at the LECTURE HALL. CHARING CROSS ROAD C.M. CHAPEL, On Wednesday, October 20th, 1909. To be opened at 3 p.m. by Mrs. WILLIAM LEWIS, Brondesbury EISTEDDFOD GADEIRIOL.. BITTERSE) RISE Cynhelir yr uchod yn BATTERSEA TOWN HALL DYDD IRU, CHWEFHOK 3, 1910. Cystadleuaeth Gorawl: "HE WATCHES OVER ISRAEL" (Elijah) Sicrhaed pawb eu Rhaglen, drwy anfon stamp Ic. i un o'r Ysgrifenyddion- Parch. E. T. Owen, 80B, Queen's Road, Battersea E. Jenkins, 113, Queen's Road, Battersea. PRELIMINARY ANNOUNCEMENT. A Grand, CQHOl&BtT' will be held at SHIRLAND ROAD WELSH CHAPEL, Paddington, on Thursday, December 9th, 1909. TO THE WELSH RESIDENTS OF LONDON. AN eminent firm of Welsh Architects, Surveyors and Sanitary experts, holding the Diplomas of the Civil Engineers, Surveyors, and Royal Sanitary Institutes, having commenced practice in London, hope, by giving personal attention to the require- ments of Property Owners, Buyers of Businesses, &c., to prove of valuable assistance to their countrymen in the preparation of Plans and Specifications for all kinds of Buildings, Valuation, and management of properties, surveying of houses, testing of drains, &c. I Os am gyfarwyddyd dewch at y Cymry." Cyfeiriad-Architects. CELT Office, 302, Gray's Inn Road, W.C. DSIYERSITT COLLEGE OF WALES, Aberystwyth (ONE OF THE CONSTITUENT COLLEGES OF THE UNIVERSITY OF WALES). President-THE RIGHT HON. LORD RENDEL. Principal-T. F. ROBERTS, M.A. (OXON.), LL.D. (VICT.). THE nfXt. Session begins on October 5th, 1909. A i number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both male and female candidate above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 21st, 19I'9, and the following days. Students are prepared tor Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agricul- ture), Law, and Music. Sessional Composition Fee, ZCIO, with additional Laboratory Fees foi Science Students. Registration Fee, zEt. Men students reside in registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel-Warden: Professor J. W. Marshall, M.A. Women students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women-Warden: Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A Registrar.
[No title]
Mae pobl Caerfyrddin yn ymddangos yn unol iawn ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol sydd i fod yno yn 1911. Trefnir i ffurfio Pwyllgor cadarn i reoli'r gwaith, ac mae ym mwriad y mwyafrif o'r cefnogwyr i wneud yr Hen Wyl mor Gymreig ag sydd bosibl yn nhref henafol Myrddin. Mae arwyddion, medd yr Herald, fod y fasnach lechi wedi cyrraedd ei man iselaf, ac fod pethau yn awr yn gwella. Yn ystod Mehefin allforiwyd 5,932 tunell o lechi o borthladd Caernarfon, sef cynnydd o 879 tunell ar y mis cyferbyniol y llynedd. Pan gymerir i ystyriaeth yr adroddiadau ffafriol geir o dro i dro o'r gwahanol ardaloedd mae lie i dybio fod y gwaethaf wedi myned heibio.
TORIAD Y DYDD.
TORIAD Y DYDD. Yn ol pob argoeiioii mae Cyllideb Mr. Lloyd George yn berffaith ddiogel. Gwir fod yr Arglwyddi wedi bod yn bygwth dialedd ond mae'r wlad yn hollol unfarn o blaid tegwch ei gynlluniau, ac wedi sylwedd- oli eu bod yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes ein teyrnas. Byddai anturio i'r wlad am farn yr etholwyr yn beth rhy beryglus i'r Ty Uchaf ar hyn o bryd, canys os llwyddai y Rhyddfrydwyr i ad-ennill eu safle yn Nhy'r Cyffredin, byddai gallu yr Arglwyddi wedi ei gwtogi yn hollol am saith mlynedd o leiaf. Cyn gwynebu barn y cyhoedd, rhaid i'r Toriaid wrth gri mwy poblogaidd nag achos y Duciaid tylawd' a'r tir feddianwyr torcalonus Felly, credir yn gyffredin yn y cylchoedd Seneddol na wna'r Arglwyddi rhagor na datgan eu protest unol yn erbyn y gwahanol drethoedd, tra ar yr un pryd gydnabod nad doeth o'u tu hwy yw ymyrryd a safle arianol y deyrnas o dan yr amgylchiadau presennol. Pan ddechreuodd Mr. Lloyd George ar y Gyllideb hon ni freuddwydiodd erioed ei fod yn ymaflyd ym mhrif dasg ei fywyd. Ond dyna yn sicr fydd hanes yr ymgyrch hon. Bengys y gwrthwynebiad ystyfnig roddir i'w gynlluniau gan bendefigion ac uchelwyr y Deyrnas eu bod yn dechreu sylweddoli fod eu gallu a'u dylanwad mewn perygl. Er yr adeg y diddymwyd gormes yr hen farwniaid, ac y caed rhyddid i werin y deyrnas hon, ni fu erioed y fath ymladd dros hawliau y gwyr mawr ac ni fu tymor erioed yn fwy ffafriol iddynt nag yn awr, pan y mae y fath aflonyddwch ymysg y gwledydd, a'r fath ddioddef ymysg ein gweithwyr a'r dos- barth isaf mewn cymdeithas. Ond yng ngwyneb yr holl fanteision hyn mae'r uchel- wyr wedi methu yn hollol a chreu un math o frwdfrydedd yn erbyn Cyllideb Mr. Lloyd George ac mae'r prif gyfarfodydd protest sydd wedi eu trefnu ar hyd a lied y wlad wedi troi yn gymanfaoedd o fawl i'r gwr ieuanc sydd wedi dangos y fath feiddgarwch drwy ymosod ar hen hawliau oeddent, hyd yma, yn feddiannau cysegredig i Dduciaid ac Arglwyddi y deyrnas. Mae'r diwygiadau a seilir yn awr yn II hiefoiant newydd Mr. Lloyd George yn sicr o gael eu rhestru gan haneswyr yr oesau a ddel yn gyfochrog a'r gwelliantau a gaed yn adeg y Brenin loan, neu yn nyddiau Cromwell ei hun. Ac mae'n werth adgoffa fod gan Gymru ran flaenllaw yng nghyflawniadau y diwygiadau rhyfedd a bendithfawr hynny. Cymro oedd un o'r rhai cyntaf i arwyddo y Magna Gharta, breinlen rhyddid yr oesau boreu ac onid Cymro o waedoliaeth oedd Cromwell ei hun ? Dau chwyldroad gwleid- yddol mawr oedd y rhai hyn, a bu raid eu sicrhau drwy rym arfau a bxwydro caled. Ond heddyw, nid nerth cledd, ond nerth egwyddor, sydd yn ennill. Gwir fod yr hen 0 w arfau wedi eu taflu o'r neilldu, ond Did i'r Arglwyddi y mae i ni ddiolch am hyn, canys byddent hwy mor barod i ormesu a gorfodi y tylawd eto ag yn yr oesoedd gynt. Ar yr un pryd, mae'r frwydr yn llawn mor galed, a phofir hynny yn y cyndynrwydd a ddangosir gan y tirfeddianwyr, ac ereill, ar lawr Ty'r Cyffredin ac ym mhrif gyn- hadleddau y wlad. Ond ar waetha pob gwrthwynebiad ennill tir mae'r Gyllideb, ac mae'n argoeli bod yn Doriad Dydd ar hanes trefniadau arianol y deyrnas hon. 0 hyn allan, daw cyfran haeddiannol o'r baich ar ysgwyddau y cyfoethog fel ag ar y tylawd, a bydd raid i bob deiliad gyfrannu yn unol a'r safle a ddelir ganddo. I'r hwn y mae ganddo y rhoddir iddo fu yr hen arferiad ond ohyn allan rhaid newid yr ymadrodd a dweyd mai i'r hwn y rhoddir iddo y derbynnir oddi- wrtho, a dyna ydyw hanfod teyrnas lwydd- iannus ymhob oes. Ac vin-a Nshvllideb Mr. (.J C7 81 Lloyd George y ceir yr egwyddorion priodol hyn, y rhai a wedd-newidiant ein cyflwr masnachol cyn y daw cenhedlaeth arall i reoli ar Drysorlys Prydain Fawr.