Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYMRU A'l SENEDDWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRU A'l SENEDDWYR. Mae pedwerydd Senedd-dymor y Wein- yddiaeth Ryddfrydig bresennol yn graddol ddirwyn i'r terfyn. I lawer o honom yr oedd y tymor hwn i fod yn dymor Cymreig, a gwelemweledigaethau, tua dwy flynedd yn ol, am ddyddiau rhyddid ar Gymru, a'r Eglwys wedi ei datgysylltu. Ond y mae'r cyfan yn aros yn yr unfan Nid yw Cymru wedi derbyn yr un driniaeth arbennig, ac nid yw'r aelodau Cymreig wedi cael mantais i brofi eu gwerth yn nydd y frwydr. Wrth daflu cipdrem yn ol ar waith y pedair blynedd hyn, rhaid i ni, fel cened- laetholwyr Cymreig, deimlo yn dra siomedig. Mae'n wir fod ein trefniant Addysg wedi cael ei gyfnewid, i ryw fesur, eto rhanedig yw ein rheolwyr a gwasgarog iawn yw ein cynlluniau. 'Does dim unoliaeth yn y gyfundrefn, hyd yn hyn er hynny, credwn fod rhai o'n diwygwyr addysgol yn dyheu am y dydd pan y daw Addysg Cymru, o'r Brifysgol i lawr at yr Ysgol Elfenol, i fod dan reolaeth yr un Cyngor. Ond, os nad ydym, fel cenedl, wedi llwyddo i gael infer o fesurau arbennig, y mae pob lie i ni ymfalchio, fel pobl, am y safleoedd pwysig y mae amryw o'n halodau wedi eu sicrhau er dechreuad y Weinyddiaeth hon. Ein prif gwyn yn y blynyddoedd a fu ydoedd nad oedd Cymru yn cael rhan o'r briwsion swyddogol, ac mae Saeson oedd yn cael eu gosod ymhob safle o anrhydedd. Bellach, mae'r rhod wedi troi, ac mae gobaith i Gymru dylawd gael rhan o'r moethau gwleidyddol hyn. Yn gynnar yn hanes y Weinyddiaeth, cafodd Mri. Bryn Roberts a Sam Moss eu gwneud yn farnwyr y Cwrt Bach yng Nghymru, a phenodiadau priodol ddigon oeddent hefyd. Nid oedd Bryn erioed yn rhyw lawer o ddyn plaid." Ceisiai ef lynnu wrth ei egwyddorion Rhyddfrydol drwy'r tew a'r teneu, a byddai hynny yn ei ddwyn i drybini a'i etholwyr yn lied ami. Un hynod o ystyfnig ac araf yw Bryn erioed, a phery i lynnu eto wrth y nodweddiadau hyn yn ei safle fel barnwr, er mawr drafferth i rai o bobl y Deheubarth. Mae'r penodiadau ereill wedi bod yn hynod o liosog. Yn wir, prin y credwn fod un dosbarth wedi llwyddo mor rhagorol yn hyn a'r blaid Gymreig. Mr. Herbert Lewis yw un o'r rhai diweddaf i ennill dyrchafiad, ac mae son fod Mr. William Jones-y dawnus wr o Arfon-i gael ei benodi yn chwip cyn y daw tymor arall i'r terfyn. Ond gan fod sibrydion am Etholiad Cyffredinol i'w clywed y dyddiau hyn, y mae'n briodol fod trefniadau addas yn cael eu gwneud yng Nghymru erbyri dydd y frwydr. Gwyddom fod cryn fywiogrwydd yn bodoli ym mhrif swyddfa y Blaid Ryddfrydig y dyddiau hyn, ac fod ami i ymdrafodaeth wedi cymeryd lie i ystyried rhai o'r cyfnewid- iadau gymerant le yn yr etholiadau Cymreig. Fel y mae'n hysbys eisoes, y mae Mr. T. H. W. Idris wedi trefnu i ymddiswyddo ar ddiwedd y tymor. Nid yw ei iechyd yn rhyw foddhaol iawn er adeg y ddamwain honno, a chred mai gwell fydd iddo geisio llonyddwch yn ei hen ddyddiau. Dilynir ei esiampl gan Syr Osmond Williams, ac mae'n helynt ddoniol yn ei etholaeth am ddewis olynydd teilwng i'r yswain diddan hwn. Haedda gwlad Feirion un o'r cenedlaetholwyr goreu, ond prin y gwelsom fod un o'r ymgeiswyr yn rhagori yn y cyfeir- iad hwn. Mae sibrwd, hefyd, fod Mr. Vaughan Davies yn bwriadu cilio o Geiedig- ion—nid i roddi lie i Sais arall, ni a obeithiwn -ac fod Syr Alfred Thomas ei hun i gael lie esmwyth ar feinciau Ty'r Arglwyddi Myn pobl Caerdydd fod angen am gyf- newidiad trylwyr yn y dull y cynrychiolir hwythau, ac mae Mr. Ivor Guest yn paratoi i fyned i le gwell. Mae gwahoddiad taer wedi ei roddi i'r Canghellor ei hun-Mr. Lloyd George-i fod yn gynrychiolydd tros Gaerdydd yn yr etholiad nesaf ond nid ydyw yn debyg y symudir y gwr hwn o Gaernarfon. Yno y mae ei gartref, a phobl y dref honno fu yn ffyddlon iddo yn nydd y pethau bychain ac mae'n gymaint urddas i gynrychioli prif dref y Gogledd ag ydyw i lywyddu prif ddinas y Deheudir. Ceir cyfnewidiadau, hefyd, yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin, a Sir Frycheiniog. Yn ychwanegol at hyn, disgwylir gornestau celyd yn amryw o'r etholaethau ereill. Mae Mr. J. D. Rees i gael curfa, a Mr. Clem. Edwards i gael seibiant o'r Ty-os ydym i gredu rhai o'r proffwydi sydd gan yr wrth- blaid-ac mae Mr. Hemmerde i gael gwrth- wynebydd Cymreig ym mherson Mr. Dafydd Rhys, y bargyfreithiwr. Yn wir, ni adewir ond dwy neu dair sedd heb ornest yng Nghymru y tro nesaf, a sicr gennym y llwyddir i ennill rhai o honynt oddiar y Rhyddfrydwyr, oni cheir y Mesur Datgysyll- tiad yn Ddeddf cyn y daw yr adeg i'r Wein- yddiaeth hon wynebu ei hetholwyr unwaith yn rhagor.

[No title]

Bwrdd y Gol.

Advertising