Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

-----DEDDF Y PLANT. ! -0-

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

DEDDF Y PLANT. -0- Rhybudd i'r Sawl fo'n derbyn plant dan saith am Dal. j Keown bras eiriau y rhailn ydyw Prif Ddarpariaathan'r Ddeddfi 1.—Rhaid i'r neb a ymgymero am dal a magu a chadw plentyn dan saith oed ar wahan oddiwrth ei rieni am fwy nag 48 awr, roi hys- bysrwydd dioed i'r Bwrdd Gwarcheidwaid. Dylai'r hysbysrwydd ddweyd enw'r plentyn a'i ryw, dydd ei eni a'r lie, enw'r sawl fo yn ei dderbyn a'r ty lie y cedwir ef hefyd enw a phreswylfod y neb y derbyniwyd ef oddiwrtho. 2.—Os y muda'r sawl fo wedi derbyn plen- tyn, rhaid iddo roi hysbysrwydd dioed oTr raudo i ddosbarth Bwrdd arall o Warcheidwaid, rhoi yr un hysbysrwydd i'r Gwarcheidwaid rheiny ag oedd yn ofynol pan dderbyniwyd y plentyn gyntaf. 3.—Os trosglwyddir plentyn i ofal rhywurt | arall, rhaid rhoi hysbysrwydd pwy fydd hwnnw, I a'i breswylfod. Pe digwydd i'r plentyn farw, rhaid hysbysu'r Gwarcheidwaid o hyny hefyd. 4.—Rhaid i bwy bynnag a ymgymerodd, cyn y dydd cyntaf o Ebrill 1909, a magu a chadw plentyn am dal, os yn dal i'w gadw, roi hysbys- rwydd i'r Gwarcheidwaid erbyn y 30ain dydd o Ebrill, 1909, os na roddodd pan yn derbyn y plentyn yr hysbysrwydd gofynol gan y gyfraith ar y pryd. õ.-Pob hysbysrwydd o'r fath i fod ar ysgrifen, ac i'w anfon naill a'i gyda Haw i No 9 Temple Row, Wrexham, neu mewn llythyr wedi ei gofrestru i J Oswell Bury, Ysgrifenydd i'r Gwarcheidwaid, 9 Temple Row, Wrexham. 6.—Os digwydd marw'r plentyn rhaid hys- bysu'r Crwner cyn pen 24 awr. 7.-Rhaid i bawb a dderbyniat blant dan saith am dAl adael i'r Ymwelydd neu bwy byn- nag arall benodir gan y Bwrdd Gwarcheidwaid ddod i mewn i edrych y plant a'r ty lIe y cedwir hwynt. 8 —Rhaid iddynt hefyd wneyd yn ol cyfar- wyddyd y Bwrdd Gwarcheidwaid gyda golwg ar ba faint o blant a ellir dderbyn mewn unrhyw le, a chyda golwg ar symud plentyn odditan eu gofal. 9.—Ni cheir cadw yr un plentyn dan saith am dâl gan neb y dyged gofal plentyn oddiamo drwy orchymyn y Gwarcheidwaid neu Ynad Heddwch, na chan neb a brofed yn euog o greulondeb at blentyn, oddigerth drwy gennad y Gwarcheidwaid ar ysgrifen ac ni cheir cadw plentyn dan saith (heb y cennad hwnnw) mewn unrhyw adeilad lie y bu i blentyn gael ei symud ohono am fod yr adeilad yn beryglus neu yn afiachus. IO.-Bydd i'r sawl a anufuddhao i'r gofynion hyn osod ei hun yn agored i chwe mis o garchar neu i 925 o ddirwy. 11.—Nid yw'r gofynion hyn yn cyffwrdd ag Ysbyttai, Sefydliadau Elusen, a Thai Byrddio, nac a rhieni neu Warcheidwaid y plant, nac a'u teidiau a'u neiniau, na'u brodyr a'u chwiorydd, na'u hewythrod a'u modryboedd, nac a pher- I sonau eithriwyd yn arbennig gan y Bwrdd Gwar- cheidwaid yn ol darpariaeth y Ddeddf. J. OSWELL BURY, Ysgrifenydd i'r Gwarcheidwaid, 9 Temple Row, Wrexham. 22ain o Fai, 1909.

Advertising

WmCpubau.

MR WILLIAM JONES, A.S., AR…