Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

I —MH1TI II ■■■Ill—B—IIMIIIIH…

VVviVVVWiWIWWWWMVlMM^W^1«W«Wl\\WVV\…

RHOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHOS. DYRCHAFIAD.—Deallwn fod Mr Tom Williams, Rhos, wedi ei alw i Llundain i lanw adwy yn Swyddfeydd y Mri Hughes & Lancaster, Acrefair. CYMDEITHAS GENHADOL LLUNDAIN.—Yr wythnos hon anfonwyd llythyrau at Anni- bynwyr y Rhos a'r Cylch gan y Parch R Marshland Thomson, Llywydd Undeb yr Annibynwyr, yn gofyn am gynorthwy drwy godi cronfa Deallwn fod Eglwysi yr ardal wedi cymeryd y mater mewn llaw, ac wedi addaw pob cynorthwy at yr achos. Y GYMANFA GVFFREDINOL.- Y mae y Pwyllgor Lleol perthynol i'r uchod yn brysur gwneyd y trefniadau terfynol. Cynhelir cyf- arfod cyntaf y Gymanfa mewn cysylltiad a'r Forward Movement, a bydd yn cael ei an- erch yn Gymraeg a Saesneg gan Principal Prys, Aberystwyth; Mr W Abraham A.S. (Mabon); Parch Seth Joshua; Mrs J M Saunders (yr awduresenwog); Miss Watkins; Parch J Morgan Jones, arolgywr y Mudiad, ac eraill Cynhelir cyfarfod hefyd i ddathlu 400 Mlwyddiant John Calfin. Dydd Gwener bydd pregethu yn ngwahanol gapeli yr ardil. pryd y cymerir rhan gan Weinidogion en- I wocaf yr enwad. YR ORYMDAITH FILWROL.—Cyfeiriodd y Parch R Roberts, Bethlehem, at yr orymdaith filwrol a gynhaliwyd ar y Sul, a dywedodd nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i fyddin, nac ychwaith i wasanaeth milwrol mewn Capel, ond yr oedd cynal gorymdaith filwrol ar y Sabboth yn anghyson ag egwydd- orion yr Eglwys Rydd. Nid oedd gan fat- erion milwrol unrhyw gysylltiad ag Eglwys Crist; cwestiwn ydoedd i'r wladwriaerh. Yr oedd Eglwys Crist yn Eglwys Heddwch Mewn cyfarfod o'r Eglwys uchod nos Fawrth, pasiwyd pteidtais cryf o anghymeradwyaeth yn erbyn gorymdeithiau milwrol ar y Sab- both.

JOHNSTOWN.

lawn am golli Coes.

CYMANFA DDIRWESTOL Y PLANT.

Advertising