Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Syr Herbert Roberts, A.S.,…

[No title]

1 GOHEBIAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

1 GOHEBIAETH. AIr Golygydd. —A fyddwch cystal a chaniatau gongl fach yn eich newyddiad- ur pybyr er goleuo y gwallau bach gaw- som yn Eisteddfod. Bwlchgwyn, y Llun- gwyn. Daeth yno bump o Bartion i gystadlu ar Rangan brydferth Gwilym Gwent, y geiriau o waith "Telynog" y bardd ieuanc gobeithiot hwnw fu fatw pan yn 23ain mlwydd oed. Dyma'r pen- ill cyntaf, a'r unig benill hefyd a ddatgan- wyd gan yr holl bartion :— Blodenyn bach wyf fi mewn gardd Yn ar&f, ar«f wywo, A'r hlodau eraill oil a ehwardrl Tra mi jy hua yn wylo Pan dyr y wawr, bydd perlyn gwlith Ar ben p ,<b an o'r blodau, A miEEiau n eithriad yti euplith Ac eto'n fyw fel hwythau. Desgrifiad ydyw y penili cyntaf o'r Bardd wedi canfod ei hun megis blodeuyn gwywedig mewn gardd eto yn mysg lli- aws o flodaiu. oedd yn iach a chwareus a lion. Y rheswmi Telynog ganu i'r blod- euyn gwywedig oedd, arn ei tod ef ei hun yn gwywo dan eff-iith defyd y darfod- edigaeth. Yr oedd yn gweled ei hun yn myn'd gan adael ei "gyfeillion yn iach a lion, megis biodyn yn gadael blodau. Ai nid priodol a naturiol yw canu tyner ar y y testyn prudclaidd ? Ie, meddwn i ond cawsom ein condemnio am wneyd hyny. Y mae yn mynegu yn y bedwerydd lin- ell ei fod wedi methu'n lan a dal heb golli dagrau, gan wylo wrth weled ei hun yn myn'd o radd i radd, tra lleill yn chwareu yn hapus yn yr awelon megis. Yn y rhan ddiweddaf y. mae yn datgan fod y blodau yn ddigon iach i groesawu bendithiawl j wlith y borau, ac yntau yn methu sugno I dim yn ei wendid, "ac eto'n fyw fel hwythau. Ie'n fyw, ond yr oedd angau yn dechreu curo gan wneyd ei ol arno. Cof genyf glywed, Eos Morlois yn adrodd y pedwar penili ,0 waith Telynog, ac ad- roddwr dihafal oedd Eos hefyd. Yr oedd Eos yn eu hadrodd yn twy pruddaidd nag yr oeddem ni yn.eu cariu. Dywedodd y beirniad fod y ddau Barti yn colli mewn ..conception, (beth yw y gair Cymraeg), gadaw'n ar ei law ef i chwilio. Cas beth genyf yw ciywed beir- niaid yn defnyddio y termau Seisnig yma, fel pe baent ormod dynion i gydnabod yr iaith dywysogaidd Gymreig. Yr oeddynt meddai wedi rhoddi datganiad rhy wylof- us a thyvvyll o'r Pictiwr. Ha clywch chlywais i erioed dlotach ddirnadaeth, dywyllach, llymach a beichiog cr ddi- ddim, na'i ddirnadaeth ef o'r gwrthrych. Terfynaf gyda dweydr byddwch ofalus pwy sydd yn eich elorianu. E AP CANTWR. < GADVVRAETH Y; SAQBOTH. At Olygydd Heraldy Rhos. Syr,-Caniatte'wich ychyd-ig ofod i mi yn eich papur i godi fy I!ef yn. ddifloesgni yn I erbyn yr hyn a welvvyd yn y Rhos wythnos i'r Sul diweddaf. Disgwyliais i rywun arall wneyd cyn hyn, ond gan na wnaeth neb, gobeithir nad ystyhr hwn yn "out-of-date. 'Rwyf wedi cerdded; heolydd y Rhos am flynyddau lawer, a'm gwyneb tuag at deml y Duw Goruchaf, a'm calon yn hiraethu am gynteddau Seion, ond ni chlwyfwyd erioed ty nghalon mor drwm a'r boreu Sul crybwyll- edig. 'R oedd yr olygfa gywilyddus a wel- wyd ar hyd yr ystrydoedd yn ddigon i godi gwrid yn ngwyneb yr Affricanwr du, heb son am Gristionogion duwiolfrydig Rhosllanerch- rugog, ardal y diwygiad, man y cynhyrfiad- au mawr, yr Haleliwia's a'r gorfoleddu &c. Teimlaf Syr, fod caniattau Church Parades a gorymdeithiau ar ySa bboth yn waradwydd- us hyd yr eithaf, ac yn arbenig gan enwad sydd yn honi cymaint; ac yn siarad bob am- ser am gadw y Gorchymynion. Beth am "Gadw yn Sanctaidd y Dydd Sabboth?" Onid yn yr Eglwys yma, lie y gwelwyd y ) Territorials, y pasiwyd penderfyniad llym yn condemnio Suly Maer, ac yn fawr ei thrwst pan oedd pethau cyffelyb yn cymeryd lie yn Ngwrecsam ? Ynwir yr un ydoedd canlyn. iady Church Parade yn y Rhos, ag oedd gorymdei'hiau y Maer yn Ngwrècsam-pobl yn yn ymgasgiu i wag rythu ac i son a meddwl am rywbeth hebiaw rhoddi addoliad i'r hwn sydd yn teilyngu addoliad, Clwyf- wyd fi yn fgwr pan yn gweled rhai yn dod allan o dafarndai y Rhos, rhai yn ddios cedd wedi dod o'r ardaloedd cylchynol, gyda'r unig amcan o gael diottaj Yn enw pob rheswm fe ddylem fet Eglwysi Ymneillduol fod yn unfryd yn ein barn, a chanoli ein y nerth. gan osod ein gwyneb yn erbyn y fath amgylchiad. Pa jeswm sydd dros gael y pethau hyn ar y Sul ? Oni fyddai diwrnod araH yn llawer iawn amgenach i'r cyfryw rialtwch ? Nid yw y Pulpud a'r Set Fawr (yn arbenig ar y Sul) yn lie i anog pobl ieuainc i ymuno a'r fyddin a'r Itynges I'm tyb i, ymddengys y peth mwyaf gwrthun i ganiattau addoldy i gynal cyfarfodydd o'r natur hyn: Ni bydd rhyfel na rhyfela pan bydd Brenin Heddwch yn teyrnasu yn nghalonau dynion. Ond yn bendifaddeu Syr; carwn awgrymu, er mwyn i ni fod yn gyson a ni ein hunain, ein bod yn holl Eglwysi y lie, yn pasio penderfyniad llym yn condemnio cynhaliad dim a fyddo yn tynu oddiwrth burdeb a Sancteiddrwydd y Dydd Sabboth. Gofidiwn yn fawr fod cyn lleied o ddynion o nerth cymejiaid ac argyhoeddiad Cyn-Faer Gwrecsam, yr hwn a gododd ei lais fel gwr Duw, yn erbyn cyjfal unmath. o Procession ar y Sul, a ihawr hyderwn na welirbyth mwy y cyfryw beth yn Rhps.—Ydwyf, SAtBOTHWF-

BARDDONIAETH.

Arhollad Gorsedd y Beirdd.

Eisteddfod Genedlaethol Llundain…

Angladd yr Anib-ydeddus Tom\…

Advertising

Mesur Dadgysylltiad i Gymru.

Appwyntiao" "i Ggleg. y Bala,

Cyhuddiad Difrifol yn erbyn…

Gwersi Cerddorol yn N gholeg…

I'NODION.