Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Y Parch H. Barrow Williams…
Y Parch H. Barrow Williams a'r Llywodraeth. Mewn rhifyn o'r Manchester Guardian mae llythyr cryf gan y gwr Parchedig uchod ar ymddygiad y Llywodraeth yn nglyn a Dadgysylltiad. Dyma fel yr ysgritenai Fel un sydd yn trafaelio De a Gogledd Cymru yn barhaus, ac a glyw opiniynau cyfrinachol canoedd o arweinwyr Rhydd- frydol, caniatewch i mi ddweyd fod y gwrthwynebiad a'r gwrthuni deimlir at doriad addewid ddifrifol y Weinyddiaeth, a gwaseidd-dra diyni yr hyn a elwir yn .Blaid Gymreig yn llawer dyfnach nag mae llawer yn ei ddirnad. Dyma wlad sydd wedi gwasanaethu Rhyddfrydiaeth yn deyrngarol am dros ddeugain mlynedd, ac a dderbyniodd add- ewid am ei Mesur o Ddadgysylltiad dros- odd a throsodd drachefn, unwaith eto yn cael ei gosod o'r neilldu. Mae'r Blaid Wyddelig, yr hon a bleidleisiodd yn erbyn y Llywodraeth ar y Gyllideb, yn cael ei clwspi trwy ddygiad yn mlaen Fesur Tir i'r Iwerddon, i gymwyso ychwaneg o arian Prydeinig i hawliau yr Iwerddon a dyma Gymru fach deyrngarol, a gefnog- odd Ymreolaeth i'r Iwerddon er mwyn y blaid, ac nid oddiar argyhoeddiad o'i j an gen, yn cael ei gwobwwyo trwy gael eto lei hanwybyddu gan Brif Weinidog Saes- nig, gyda Chymro yn y Weinyddiaeth Ac yn awr, bid siwr, gofynir i ni ymfodd- loni ar addewid arall mai Dadgysyllt- iad fydd y Mesur cyntaf gan y Llywod- raeth yn y tymhor nesaf, os-sylwch ar- no yn graff, I- os lied farw-na chyfyd amgylchiadau gwrthwynebol." Yr wyf fit fel un, yn anewyllysgar wedi colli ymddiriedaeth yn addewidon mynych y Blaid Ryddfrydol i Gymru-y rhai a wnaed i'w tori. Mae yr Iwerddon yn chwareu i'w mantais eu hun, a chaiff ei gwobrwyo yn fawr. Hawlia Ysgotland, a chaiff lawer. Tra mae Cymru vn gwasanaethu yn deyrngarol fei cymun- wyr coed a gwenhynwyr dwfr i'r gwer- syll oil, a chaiff ei gwobrwyo trwy eir. iau. teg yn y cyhoedd ac addewidion anghyflawnedig yn y Senedd. Ac hyd nes y ffurfiwn yn blaid annibynol, cawn ein trin yn yr un modd darostyngol. Gall yr Aelodau Cymreig orphwys yn dawel, os na ddangosant fwy o ffyddion. deb i Gymru, a llai o waseidd-dra i'r Blaid Ryddfrydol—na bydd i ganoedd o honom weithio na phleidleisio iddynt yn yr ethol- tact nesat. tisioes yr awgrymir y bydd Mesur Deddf y Tlodion i gael ei ddwyn yn mlaen y tymhor nesaf gyda Mesur Dadgysylltiad. A fedr unrhyw ddyn, a barnu oddiwrth y gorphenol, amheu pa un o'r ddau a deflir ar y shilff ?" Onid yw yr amgylchiadau gwrthwynebol eisioes yn ffurfio ? Mae yr Aelodau Cymreig yn ein temtio yn fawr i waeddi, JV O Israel, dos i'th bebyll; edrych yn awr ar dy dy dy hun, Datydd," Gyda gofid dwfn yr ysgrifenaf fel hyn, ond byddai yn Hwfrdra i gadw yn ddistaw yn awr pan mae ein gwrlad anwyl yn gwaeddi allan, Achubwch ni rhag ein cyfeillion."
Advertising
RHOS HERALD COUPON INSURANCE TICKET. Applicable only within United Kingdom. Specially re-insured with the General Accident Fire and Life Assurance Corporation, Limited Chief Offices-General Buildings, Perth, I Scotland. oindon 9-10 King st, Cheapside, E.G. Offices: ( 13 Pali Mall, S.W. F. NORIE MILLER, J P., GenI. Manager, ffl whom, on behalf of the proprietors, Notice of s under the following conditions muft be sent I Within seven days of accident. jnnn oi?E hun,>red pounds wm 3PA paid to the next of kin of any person *00c^"a*rmmm who is killed by an accident to the passenger train in which the deceased vu travelling as a ticket- fcaaricg or paying pasfsenger, or who shall have been feislly injured thereby, should death result within 689 calender month after such accident. Provid- ed that the person so kiHed or injured had upon àiø or her person this page, with his or her usual gipatuse, written prior to the accident, in the groo provided below, which, together with the giving of notice within seven days to the above Corporation, is the essence of thi9 contract. This Insurance only applies to persons o ver 14 12d under 65 years of age, and holds good for the farrent issue only. No person can recover under one Coupon Ticket ill respect of the same risk. Signature This Coupon must not be cut out, but left intact is the Rhos Herald o that, being dated, forms the only evide&ce of its currency. TO TRADESMEN, &c. YOUNG MAN with two days' spare time would be pleased to assist Tradesmen, &c., with their books, or to collect unpaid Bills, &c. Excellent refer- ences.—For terms write X, Herald Office FOR SALE FUNERAL STOCK, Second Hand Hearses, ^30; 20 new patterns; Landaus, ^40 Hansoms, £ 20. Brakes tasy terms. Catalogues.—MARSTON'S Bradford Street, Birmingham. ESTABLISHED 1898. ASSISTANT INSPECTORS OF OF MINES. Mine Managers' Exams., Scholarships, and Associateship in MINING, &c,, Candidates prepared. Private Lessons hy Post. Geology, Min- ing, Engineering, Electricity and Survey- ing. Certificates awarded. Write for Syllabus. CAMBRIAN MINING SCHOOL, Glanffrwd, Porth, Glam. Sales by Auction. Freehold Property at Rhos. TO BE SOLD BY AUOTION by Messrs A JON ES & SON at the KING'S HEAD HOTEL, RHOS, on MONDAY, JULY 5th, M 8-80 o'clock in the evening.. AU that itaehold Dwelling House & Smithy situate and being No 48 Campbell Street, Rhos with the EXTENSIVE PIECE OF LAND Said the Outbuildings belonging thereto in the pation of the owner, Mr Joseph Wright. The house is of convenient size, in good re- pair, and the land has a long frontage to the Iiid6 road leading from Campbell Street. The property is conveniently situated and will command good tenants. To anyone desir- tasa of acquiring his own dwelling house this Sale affords an excellent opportunity. Further particulars may be obtained from the Auctioneers, Wrexham and Llangollen, or Messrs ALLINGTON HUGHES & BATE, Solicitors, Wrexham. VOICE PRODUCTION <#■ MR. POWELL EDWARDS BEGS to announce that he now give: lessons in VOICE PRODUCTION an< SINGING. Terms moderate.—Apply MARKET STREET, RHOS GEORGE BURROWS, Teacher of Pianoforte and Organ Playing, Singing & Theory of Music. == TERMS—MODERATE. &LWYNYCIL, CHIRK, RUABON, VISITS RHOS EACH WEEK. good: ManlUa Envelop.. .Od per 1000. +—; B. Mills & Sons, Herald Office Meetings and Entertainments Preliminay Announcement. -0- PEN U E L CHAPEL, RHOS -0- A GRAND CONCERT Ev TRE: Bethlehem Children's Choir MONDAY, OCTOBER 25th, 1909 -0- Proceeds in aid of Noddfa Baptist Chapel,, Johnstown. Important Notice. 3^EIJSSWOOI> EISTEDDFOD On "WedstMiiy, July 7th, 1909 tmr- Alteration in Music Subjects. -?Jlf2Rg (cot ander 50 or over 70 in nurn. ber) The Heraae are telling' (HydQ) aed not The Angels Chorus (as In programme). Prise v&lae €St 23 for conductor CHALLENGE SOLO for Soprano or Contralto Competitor's own cfemoa instead of Y Ser Dis- glaer. Prize 45L CHALLENGE SOLO for Tenor or Bass (Competi. tor's own ekoiee instead of O tyr'd yn ol fv ngheneth deg Prize _('I Entries to be made by June 23. Hon gees J- °ars*on, Beehive, Leeswood, Mold E A PryddSereb, Manchester House, Leeswood, Mold. u. Eisteddfod Oadeiriol Rhosllanerchrugog, DYDD LLU., GORPH. Sed, 1.909 Rhagolwg am Eisteddfod neiiiduol o Iwyddianus. riROS 500 0 GYSTADLEUWYR. Nifer y Cystadfeuthau Corawl yn I etthrtadoL Prif (Jystadleui8t]i—3 o gorau. Coram Nsibion-4 o gorau. Ail Gyst&dleuaeth—3 c gorau. Corau Plat-11 o gorau. Action Scng™5 o Bastion. Beiruiaid Cerddorol- DAVID EVANS, Vsw., MUS. BAC. W 0 JONES, Vsw., Cilfynydd. Cyfarfodydd i ddechreu am 10, 2 a 6. Disgwyfir i'r cyhoedd gymeryd fantais sydd i'w gael wrth brynu Tocynau CYN Y DYDD Blaenseddau, Tri Cyfarfod, 5s. Aijseddau- do 4s. 01-seddau do 2/6 Rhaglea y Dydd (Dartuniedig) yn bar- od yn fuan, pris zg., i'w cael gan yr Vsgo Joseph Davies, 25 Brook Street, Rhos, J T Edwards, Brynhyfryd, Ponkey. IB A L L 1 S (AUCTION ROOM ø Clie £ st^x» Street^ IBTiMKKlftcuKii, (Opposite Messrs H cV r Jones' Corn Warehouse) j SALES BY AUCTION I Every MONDAY. Valuable Household Furniture of all descriptions. I Large Variety of Bodstudgly Bedding Every necessity for HOUSEKEEPING Attend these SALES and tiave at least 30 per cent. A Magnificent Selection of Superior Furniture is always on hand, and anything may be purchased by Private Treaty. GOODS ST 0 RE DV On view each day from 9 a. m. to 7 p.m. Saturdays 9 pAL Handsome Gold Plated Watches FREE! rH r r I -Ll I FREE (Every Watch Guaranteed) For Particulars look out for R. JARVIS'S HAND- BILL Announcement. olNMIa;
^rofpii&au.
^rofpii&au. (PULPIT SUPPLIES) SAB BOTH, GORPHENAF 4, 1909. Y METHODISTIAID OALFINAIDD (Japol Mawr—10 a 6, R Jones Bethel, PonkeY-10 a 6, E Isfryn Williams M-riah, P'mkey—10 a 6, BilUst,—10-30 & 6, R Williams Johnstown—10-80 a 6, W H Lewis jPenbrefelin—10 a 6, 9 10, E Edwards, Carrog T'ttM.(mt— 2 a 6, E Edwards, Carrog Eltostylle,n-10 a 6, Thomas Jones YB ANNIBYNWYR. Bethlehsm, Rhos- 6, R Roberts Mynydd Sction—10 a 6, J Howell Salem,Banh-st—10, R Roberts, 6. Ebenezer, Queen St.-lO a 6, 0 J Owen Johnstown (8)-10-30 & 6-T Arthur Thomas Rhostyllen-2, 0 J Owen V BfciDYDDWYR. Ponuot.-IO, Thomas, Glyndyfrdwy, 6, Myfyriwr o Goleg Caerdydd Bethania, Church St-10, Myfyriwr, 6, Thomas Sion, Pankey-h) a f1, E Mitchell Tabernacle Ponkey- 10 James Jones, 6, Fred Jones Glyn goav, A Oerdorfvn- 10 a 6, aa,faria, Rhos-10, Fred Jones, 6, James Jones 10-30, & 6. Noddfa,, oh'l\stown-lO.30 a 6, J Charles Jones Petnycae-10 a 6, W B Jones Groes-st 2 W B Jones Rhostyllen—10 a 6, DISGYBLION CRIST. Bethel, Oamvbell Street-10 a 6. IV WE8LKYAIB. Rhos—LQ a 6, Charles Jones J ohnstown- 10-30, Williawi Lloyd, 6. Arholiyr Ysgol 8tryt Tsso-10, Arholi yr Ysgol, 6, William Price P>asb«nnion—10-30, William Price, 6, E Morris PRIMITIVE MJsJTiiODlSTB. « hos—10-30 & 6, Copperas—2-80 & 6, YB HQLWYB 8EFYDLBDIG Vioar, Rev J H Thomas Cnrates », Jenkins-Menlove. Jf Jchn' Ghurch-gerviceat 10-30, and 6. Bfflwys St. David—Gwasanaeth am 10 a fi St. Mary's Ohurch Johnstown—Service at S-18, & PENYCAE Vicar-Rev Joseph Davies lilt Thomas s Church-Service at 10.30 and 6 SALVATION ARM?. Barracks, Salvage Street—31-15, 2, fi-45 Ensign Shepherd, & Lieutenant R Lazzell.
MESUR YR WYTH AWR
MESUR YR WYTH AWR Yr oedd pryder mawr yn bodoli trwy y wlad yn gyffredinol dechreu yr wythnos hon, a hyny ar gyfrif yr anghydwelediad rhwng perchenog- ion glofeydd a glowyr Deheudir Cymru. Cod- odd hyn yn nglyn a Mesur yr Wyth Awr, ac yr oedd rhybuddion i derfynu ymrwymiadau wedi eu hanfon i mewn y rhai fyddai yn dirwyn i fyny haner nos Nos Fercher. Ychwanegwyd at bwysigrwydd y sefyllfa trwy fod Pwyllgor Gweithiol Undeb G-lowyr Prydain Fawr wedi pasio penderfyniad mewn cyfarfod yn Llundain dydd Mawrth yn gofyn ar i holl lowyr y wlad yn gyffredinol i ddod allan ar streic os na chan- iateid sofvnion glowvr v Deheudir. Yn canfod difrifwch y sefyllfa anfonwyd llythyr gan Mr Winston Churchill, o Swyddfa'r Bwrdd Masnach, yn appelio at lywyddion y ddwyblaid i beidio tori yr ymdrafodaeth i fyny heb gysylltu ag ef, ac yn cynyg ei wasanaeth fel cyflafareddwr. Buwyd wrthi trwy y dydd Mercher heb fedru dod i delerau. Cyn i'r rhy- buddion ddod i ben cyfarfyddwyd am haner nos Nos Fercher, ac yn y cyfarfod hwnw ter- fynwyd yn foddhaol, Ar gwestiwn y 60 oriau ychwanegol y flwyddyn mae'r perchenogion wedi cytuno a chynygion y dynion fod y mater i gael ei brofi mewn llys barn. Yn nglyn a'r mater arall mewn ymrafael, sef y shiffts dwbl, derbyniwyd cynygion y dynion, y rhai ofyn- ent am gael eu galw i ymdrafodaeth gan y meistradoedd cyn y cymer dim cyfnewidiad le. Mae'r dyfarniadau hyn wedi rhoddi boddhad mawr trwy'r wlad, ac wedi esmwyth-hau gryn lawer ar y sefyllfa. Yn y cylch hwn deallwn fod Wyth Awr yn gweithio yn rhagorol,y dynion a'r meistriaid yn cydweithio yn hedd- ychol. Dydd Iau diweddaf y daeth i rym, a thystia y gweithwyr oil y bydd yn sier o droi yn fendithiol iddynt yn mhob ystyr.
[No title]
Mr E Vincent Evans sydd wedi ei ethol yn Uywydd Undeb Cymdeithasau Llenyddol Cyrareig Llundain am y flwyddyn ddyfodol.
Eisteddfod y Rhos.
Eisteddfod y Rhos. Nos Iau diweddaf cyfarfu Pwyllgor Cyffred- inol yr uchod yn y Public Hall i gwblhau y trefniadau yn nglyn a'r uchod, a deallwn i bob peth gael ei gyflawni i foddlonrwydd. Os cawn ein ffafrio gyda tywydd braf, nid oes amheuaeth ra thry yr Eisteddfod eleni yn {wy o lwyddiant na'r trofdydd o'r blaen. Yn wir a barnu oddi- wrth yr enwau sydd i law yn yr adran gerddor- ol, ac hefyd y cynyrchion lluosog yn yr adran lenyddol, mae yn argoeli y bydd Eisteddfod Rhosllanerchrugog yn fnan y fwyaf lwyddianus yn Ngogledd Cymru. Mae nifer y cystadleu- wyr yn yr adran Gelf yn lleng, yn gymaint felly nes mae'r pwyllgor, yn cael eu cefnogi gan Dr a Mrs J C Da vies, Plas-yn-Rhos, wedi pen- derfynu cynal arddangosfa yn y Public Hall, y Sadwrn a'r Linn neFmf, a dywedir 11a fu gwell arddangosfa yn nglyn a'r un Eisteddfod leol yn y Dywysogaeth. Ond y corau wrth gwrs fydd y prif atdyniad, a gelir disgwyl cystadleuaethau yn y rhai hyn hafal i ddim geir mewn unrhyw le. Yn y bor- eu ceir cystadleuaeth Corau y Plant, pryd bydd 11 0 gorau yn cymeryd rhan, amryw o honynt sydd wedi enill buddugoliaethau pwysig. Yn ychwanegol at hyn ceir cysfcadleuaeth ddyddor- ol at yr Action Song. Yn y brif a'r ail gorawl bydd y safon yn sicr o fod yn uchel, ac yn gyfle rhagorol i gael gwrando corau o'r radd flaenaf. Ond o gylch y Corau Meibion y try y dorch y waith hon. Ceir chwech o honynt mewn ymdrechfa a'u gilydd, a hyny ar ddarn sydd yn faes ysgarmes rbagorol. Mae enw'r Moelwyn yn '-ddigon i ddangos pa fath gorau fydd yno. heb son am Machynlleth, a wnaeth- ant gymaint enw iddynt eu hunain yn Llanfyll- in yr wythnos ddiweddaf ar yr un dernyn. Yn sicr bydd y gystadleuaeth hon yn un o'r goreu- on glywyd yn y cylch er's llawer dydd. Ceisied pawb docynau cyn y dydd, a deuent i'r Orsedd yn brydlon, yr hon sydd i'w chynal y tro hwn yn Duke Street. Bydd yn ddiwrnod o wyl cyffredinol, ac ond i Ragluniaeth wenu arnom, mae ei llwyddiant wedi ei sicrhau.
--- - - ------------__-PONKEY.
PONKEY. MAB.WOLAETII.Gofidus oedd genym ddeall am farwolaeth Mr John Davies, mab Mr John Davies (diacon yn Salem), North road, Ponkey, yr hyn a gymerodd le yn hynod sydyn heddyw'r boreu (Gwener). Yr oedd allan ddechreu yr wythnos, er y cwynai gryn lawer y pryd hyny. Yr oedd yn ddyn ieuanc hawddgar a dymunol, yn aelod selog yn Mynydd Seion, ac yn fawr ei barch gan bawb o'i gydnabyddion. Mawr gyd- ymdeimlir a'r teulu yn eu trallod blin.
--------I--.--.---.--------DARLITH…
I DARLITH DAVIES. "Ysbrydollaeth y Beibl yn ol y Testament Newydd." Am bump o'r gloch prydnawn Mercher yr oedd y Capel Mawr yn orlawn o rai wedi ymgasglu i wrando ar y Parch J Puleston Jones, M.A., Pwllheli, yn traddodi y Darlith Davies. Fel rheol sych ac annyddorol i'r cyhoedd yw y darlithiau hyn, ond y waith hen llwyddwyd i ddewis testyn oedd yn ap- pelio yn fawr at gynnlleidfa yn Rhos, a llwyddodd y darlithydd i'w wisgo a dyddor- deb ag oedd yn hoelio ei wrandawyr o'r i'r diwedd. Cymerodd fel testyn, Ysbrydoliaeth y Beibl yn ol y Testament Newydd." Dy- wedodd fod ysbrydolrwydd y Beibl yn gwa- haniaethu oddiwrth ysbrydoliaeth gyffiedin dynion da, nid mewn natur ond mewn gwas- anaeth. Tebygolai y gwahaniaeth i'r un sydd yn nodweddu gwahanol swyddau yr eglwys. Rhaid iddynt, felly, mewn trefn i gael damcaniaeth am ycbrydoliaeth, yn gyn- taf oil gael cyfundrefn o ddeddfau. Yr oedd ganddynt elfenau y fath gyfundrefn yn ail Corinthiaid, drydedd benod. Y benod hon fyddai ei safon. Yr oedd desgrifiarl Sant Paul o'i weinidogaeth yn cael ei symio i fyny yn y geiriau Nid i'r llythyren. ond i'r ysbryd; canys y mae y llythyren yn Iladd ond yr ysbryd yn bywhau." Golygai gweinidogaeth yr ysbryd, weinidogaeth yn mha un yr oedd yr ysbryd yn ben. Sut y gwn fod y Beibl yn wir?" Nid oedd yn gwybod yn mlaenllaw. Yr oedd gofyn y cwestiwn fel gofyn i Apostol am ei awdur- dod. Adlewyrchiad yr Eglwys ar gymeriad ei dysgawdwr oedd yr awdurdod oreu i'w swydd. Ei waith oedd yn gosod argraff arno fel gweinidog i Grist. Yn awr ni ddy- lent hawlio i'r Beibl mwy nag a hawliai ei brif ysgrifenwyr iddynt eu hunain. Nid oedd St Paul a St loan yn gorphwys en hawdurdod ar eu swydd, os nad oeddynt yn hawlio iddynt eu hunain ysbrydoliaeth uwch. law beirniadaeth, p- ham yr oeddym yo hawlio hyny i w gwaith ? Nod y weinidog- aeth yw nid gosod ei hun rhwng y credadytl a Christ, ond i ddwyn y credadyn i'w wydd* fod. Felly rhoddwyd y Beibl i'w dwyn wyneb yn wyneb a'i ogoniant. Rhodder unrhyw beth rhyngddynt a gwir bresenoldeb Duw-pa un ai canoniaeth y Beibl, neu am- ddiffyniad dynion dysgedig o hono-rhoddet unrhyw beth rhyngddynt a Christ, ac yr oeddynt yn gwneyd y llythyren yn orchudd i guddio yr Ysbryd Nid oedd yr hyn fu y Beibl i ddynion yn y gorphenol i arglwydd. iaethu ar y gydwybod. Yr oedd yr hyn a fu yn ddyddorol, ond y cwestiwn hanffodol oedd yr hyn ydyw i ni heddvw. Yr oedd v J I llythyren yn hen, ond yr ysbryd yn fythol- t newydd.—(cym ) Ar gynygiad y Prif Athraw Prys, M.A., Aberystwyth, yn cael ei eilio gan y Parch J J Roberts (Iolo:Cae'n ufon):cynes ddiolch* wyd i'r darlithydd.
-----A.S. Cymreig yn cael…
A.S. Cymreig yn cael eu Urddo'n Farwnig. Yn rhestr y rhai a dderbyniasant deitlatl ar ddydd penblwydd y Brenin, ceir enw Mr Osmond Williams, yr A.S. dros Sir Feirion, ac o hyn allan adwaenir ef fel Syr Osmond Williams. Mae teulu y Williams's yn adna. byddus iawn yn y Sir. Ei dad oedd Mr David Williams, Castell Deudraeth, yr bwn oedd yr aelod Rhyddfrydol cyntaf er Crom. well i gael ei ddychwelyd i'r Senedd dros y Sir. Cymerodd hyn le yn 1868, blwyddyn fawr defiroad polititaidd y Dywysogaeth, pryd y rhoddodd ddyrnod marwol i Doriaeth fel na chododd byth wedyn ei ben. Ganwyd Syr Osmond Williams vn TRaC\ irmKwA4. Ij- y ryy J LXIUI 1WL1- odd gyda merch i S W Greaves, Warwick- shire, yn 1880. Wedi ymddiswyddiad v Proff 0 M Edwards, etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros y Sir, ac o hyny hyd yn awr mae wedi rhoddi gwasanaeth mawr i'w blaid. Er nad yw yn siaradwr mawr, eto bu yn ffyddlon iawn gyda hawliau Cymru, a gwnaeth aelod teilwng o'r sedd a ddaliwyd gan y diweddar Tom Ellis o Gynlas.
!Golff ar y Sul yn Prestatyn.
Golff ar y Sul yn Prestatyn. Cwestiwn sydd wedi bod yn blino gryn lawer ar y dref gyfIlym-gynyddol hon ydyw gwaith inai aelodau o'r Clwb Golff yn cyn- hyrfu er cael cyfle i chwareu ar v Sill Hwt yn hyn y mae wedi ei wahardd, gan ei fod yn groes i reolau y Clwb, a'r ychydig sydd a pharch i'r Sabboth wedi llwyddo i roddi y rheol mewn grym. Ond yr wythnos o'r blaen cymerwyd pleidlais trwy y post o'r aelodau, ac er syndod i lawer cafwyd fod 48 yn erbyn 27, o blaid chwareu, a heriant eu bod am wneyd hyny y Sul diweddaf. Fodd bynag methodd un o honynt gael digon o eofndra i gario allan eu her. Tra mae pethau fel hyn yn y chvb ei hun, y mae trigolion Lyoreu v llf vn nrmoknn/\l « o j j j & *r CKUCXliKJt adaoldai Ymneillduol yn dangos gwrthwyn- ebiad mawr, ac yn pasio penderfyniadau cryfion y protestio yn erbyn, Tueddir gan rai sydd o blaid chwareu i ddiystyru y rhai hyn, ond da genym weled fod Cynghor y Dref yn awr wedi dod allan, ac wedi rhoddi eu sylw i'r mater. Yn yr ymdrafodaeth ar- no dywedwyd y dylai yr aelodau gofio mai yn Nghymru yr oeddynt, ac edrychid ar Gymru ers cenedlaethau fel gwlad yn meddu parch dwfn i'r Sabboth. Hefyd dywedwyd na byddai caniatau hyn yn ychwanegu at fuddianau goreu y dref, ac mai camgymeriad tyddai o'r cyfeiriad hwn. Penderfynodd y Cynghor heb un yn gwrthwynebu, i basia" protest cryf yn erbyn chwareu ar y Sul.