Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y Parch H. Barrow Williams…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Parch H. Barrow Williams a'r Llywodraeth. Mewn rhifyn o'r Manchester Guardian mae llythyr cryf gan y gwr Parchedig uchod ar ymddygiad y Llywodraeth yn nglyn a Dadgysylltiad. Dyma fel yr ysgritenai Fel un sydd yn trafaelio De a Gogledd Cymru yn barhaus, ac a glyw opiniynau cyfrinachol canoedd o arweinwyr Rhydd- frydol, caniatewch i mi ddweyd fod y gwrthwynebiad a'r gwrthuni deimlir at doriad addewid ddifrifol y Weinyddiaeth, a gwaseidd-dra diyni yr hyn a elwir yn .Blaid Gymreig yn llawer dyfnach nag mae llawer yn ei ddirnad. Dyma wlad sydd wedi gwasanaethu Rhyddfrydiaeth yn deyrngarol am dros ddeugain mlynedd, ac a dderbyniodd add- ewid am ei Mesur o Ddadgysylltiad dros- odd a throsodd drachefn, unwaith eto yn cael ei gosod o'r neilldu. Mae'r Blaid Wyddelig, yr hon a bleidleisiodd yn erbyn y Llywodraeth ar y Gyllideb, yn cael ei clwspi trwy ddygiad yn mlaen Fesur Tir i'r Iwerddon, i gymwyso ychwaneg o arian Prydeinig i hawliau yr Iwerddon a dyma Gymru fach deyrngarol, a gefnog- odd Ymreolaeth i'r Iwerddon er mwyn y blaid, ac nid oddiar argyhoeddiad o'i j an gen, yn cael ei gwobwwyo trwy gael eto lei hanwybyddu gan Brif Weinidog Saes- nig, gyda Chymro yn y Weinyddiaeth Ac yn awr, bid siwr, gofynir i ni ymfodd- loni ar addewid arall mai Dadgysyllt- iad fydd y Mesur cyntaf gan y Llywod- raeth yn y tymhor nesaf, os-sylwch ar- no yn graff, I- os lied farw-na chyfyd amgylchiadau gwrthwynebol." Yr wyf fit fel un, yn anewyllysgar wedi colli ymddiriedaeth yn addewidon mynych y Blaid Ryddfrydol i Gymru-y rhai a wnaed i'w tori. Mae yr Iwerddon yn chwareu i'w mantais eu hun, a chaiff ei gwobrwyo yn fawr. Hawlia Ysgotland, a chaiff lawer. Tra mae Cymru vn gwasanaethu yn deyrngarol fei cymun- wyr coed a gwenhynwyr dwfr i'r gwer- syll oil, a chaiff ei gwobrwyo trwy eir. iau. teg yn y cyhoedd ac addewidion anghyflawnedig yn y Senedd. Ac hyd nes y ffurfiwn yn blaid annibynol, cawn ein trin yn yr un modd darostyngol. Gall yr Aelodau Cymreig orphwys yn dawel, os na ddangosant fwy o ffyddion. deb i Gymru, a llai o waseidd-dra i'r Blaid Ryddfrydol—na bydd i ganoedd o honom weithio na phleidleisio iddynt yn yr ethol- tact nesat. tisioes yr awgrymir y bydd Mesur Deddf y Tlodion i gael ei ddwyn yn mlaen y tymhor nesaf gyda Mesur Dadgysylltiad. A fedr unrhyw ddyn, a barnu oddiwrth y gorphenol, amheu pa un o'r ddau a deflir ar y shilff ?" Onid yw yr amgylchiadau gwrthwynebol eisioes yn ffurfio ? Mae yr Aelodau Cymreig yn ein temtio yn fawr i waeddi, JV O Israel, dos i'th bebyll; edrych yn awr ar dy dy dy hun, Datydd," Gyda gofid dwfn yr ysgrifenaf fel hyn, ond byddai yn Hwfrdra i gadw yn ddistaw yn awr pan mae ein gwrlad anwyl yn gwaeddi allan, Achubwch ni rhag ein cyfeillion."

Advertising

^rofpii&au.

MESUR YR WYTH AWR

[No title]

Eisteddfod y Rhos.

--- - - ------------__-PONKEY.

--------I--.--.---.--------DARLITH…

-----A.S. Cymreig yn cael…

!Golff ar y Sul yn Prestatyn.