Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I Special Forecast for the Week— BRILLIANT SUNSHINE." What can look nicer, more cooling and comforting this hot weather than a Straw Hat ? Why not go and inspect the STRAW HATS jj What can look nicer, more cooling and comforting this hot weather than a Straw Hat ? I Why not go and inspect the STRAW HATS of the latest style at Paris House? a You'll be greatly pleased. j J. W. JONES, paRIS HOUSE. RHOS. I\W. MfiBMiMiiM —a—gqaaBBPBiBBM^BanaMHiutfg——1—MM !)! 4 BRYNAWEL," 311 Mciiiorp of the late Mr 301)11 UbonlRs, jButcber, 50bnstown. Don Eb. J. LXXJVD JONES, Rhos. 1 :i n :s m f n :r :r J n s if f n :-1- | d d :d ld.de: r d t i Id ti j d n r r t I I i r n s :n II :1 s :fin :s |s t .1 se:— — i d d d if .n r s sf Id s .f n d Ir r n — f M 1: t I d' :m.f s :s Is d 1, d m !r :r d;- 1- j m n :n In :d.r n :r id -d jd :d Id :t d :-1- I ) se 1 :se 11 d1 d: t id1 :1 s: s 11 .r; s .f n 1- ( d :n II :1 s :s.fin :f n :d If, :si d j — There is a green hill far away Without a city wall, Where the dear Lord was crucified Who died to sare us all. We may not know, we cannot tell What pains He had to bear. But we believe it was for us He hung and suffered there. He died that we might be forgiven; He died to make us good, That we might go at last to heaven, Saved by His precious blood. 8 P-v There was no other good enough 1 To pay the price of sin I He only could unlock the gate 1 Of heaven, and let us in. 1 Oh, dearly, dearly has He loved; And we must lore Him too, | I And trust in His redeeming blood, | And try His work to do. | And try His work to do. | t
Advertising
DON'T TAKE CHANCES |S When you leave your Tailoring I order with us, you won't take | chances." You will feel absolutely sure of getting high class tailoring | at a most reasonable price. f To be well dressed does not mean extremes in style, but simply good j taste, good judgment, clothes good | in every detail J If you are critical you will appre- ciats looking over our large assort- ment of Suitings suitable for holiday wear. Our tailoring is faultless from every view point, -style, fit and fin- ish, and perhaps most important of all, you will find that garments made by us have such thoroughly good in- side tailor work that they hold their shape permanently, and give unusu- al wear. We cater to the critical- the particular people-those by whom quality-quality of the highest grade is absolutely demanded, and on that basis solicit your patronage. Speczalztë-Sutts to 77zeasure, 45s, THOMAS"& SON, 42 & is Hope Street, S WREXHAM.
I ÐATHLU 400 MLWYDDIANT JOHN…
I ÐATHLU 400 MLWYDDIANT JOHN CALFIN. Un o'r cyfarfodydd mwyaf dyddorol a .^ynhaliwyd yn nglyn a'r Gymanfa Gyff- '■redinol yr wythnos ddiweddaf oedd Cyfar- iiad Dathlu 400 Mlwyddiant John Calfio, iijjos lau. Cymeroddd y rhai canlynol ran :-( I) ¡ iSywyd Calfin, Parch Richard Morris, M.A. Oolgellau (2) Calfiniaeth ac Athroniaeth, PrifathrawPrys, M.A., Aberystwth; (3) svCaifiniaeth a Chymru, Dr Cynddylan Jones. Mawn ychydig sylwadau rhagflaenol ,,cyfeiriodd y Llywydd, (y Parch Francis Janes, Abergele) at y cyfarfodydd mawr- ¡}!on a gynhelir mewn perthynas a'r uchod -yn Geneva, y mis hwn, a dywedodd y ^aent ragbrawf o honynt yn yr anerchiad- u ag oeddynt i gael eu traddodi y noson fsfoono. Darfu i'r Parch Richard Morris, M.A., jDolgellau, ymwneyd a byvoyd Calfin mewn f. £ ttodd hynod ddyddorol ac adeiladol. Nid ..y'o unig rhoddodd hanes manwl y cyfnod yr oedd Calfin yn byw ynddo, ond hefyd yflwynodd ei bersonoliaeth mewn modd a byw. Yr oedd Calfin, fel loan JjFedyddiwr — yn wr wedi ei anfon oddi- wrth Dduw" Ganwyd Calfin yn y vjllwyddyn 1569, a bu furw yn y flwyddyn Sb54, yn ddim ond 55 mlwydd oed. Yr ,,oedd Calfin hyd yn oed cyn ei droedigaeth "D ddyn o ddylanwad ac ithrylith. Nid ^argyhoeddiad oddiwrth ffyidd drygionus jOedd yr eiddo ef, ond cyfeirind ei alluoedd iifinetdiol i sianeli eraill. Nid oedd Calfin jinewn un modd yn ddyn angrhefyddol cyn "ei ddychweliad. Dywedwyd am dano ei jfod yn oer, cul, ac anoddefgar, ond byth cÐa ddyweder ei fod yn anfoesol. Yn un- ,jon wedi ei droedigaeth, dechreuodd Calfin Dsod i fyny ei ddelfrydau o flaen y bobl angen am Eglwys newydd. Nid ..achos oedd o osod i fyny Ymneillduaeth ,-yn erbyn Pabyddiaeth, ond o osod i fyny vwirioneddau newydd, neu yn hytrach ddirnadaeth newydd am hen wirioneddau sylfaenol. Yr oedd yn rhaid i ysbryd newydd Calfiinaeth gael Eglwys,- ni fed- rat yr ysbryd wneyd ei waith a'i genhad- .aeth heb gorph. Ei waith mawr o gyn- tunio a threfnu yr ysbryd newydd i ffurf a goronodd waith mawr Calfin. Yn nat- jUriol yr oedd yn-feddyliwr mawr, a duwin- ydd dwfn ond yr oedd ei egnion aruthrol it ffurfio a rheoli y ty oedd i gynwys yr ysbryd a gynyrchodd, wedi lleihau ei weithgarwch yn y gorchwyl uwch o fyfyr- ,?dod, Un o ddelfrydau uwchaf Calfin lt)oedd argyhoeddi pobl o hawliau Duw, a irhyddid ewyllys dyn. Er iddo farw yn fUghanol ei ddyddiau, yr oedd wedi gorph- an ei waith ar y ddaear. Ymdriniodd y Pritathraw Prys yn ys- golheigaidd ac aruchel mewn papur ar .#C Calfin ac Athroniaeth." Yt oedd Calfin yn meddu ar feddwl clir, ac ymwybydd- $aeth fanwl y athronydd a'r duwinydd. wedi ei uno a ffydd gref y prophwyd Nid -oedd Luther o'i flaen yn abl i feddwl allan t|>ob ffurf ar ei athrawiaeth, a disgynodd ar Calfin i adeiladu, cyfnerthu, a gwneyd 1n gyflawn y ffurfiau o athroniaeth sydd Wedi eu hestyn i lawr i ni. Yn Calfin yr •ymbriodwyd yr oil o'r eofndra moesol a jSneddyliol, a'r eglurdeb deallol oedd yn .angenrheidiol ar gyfer gorchwyl mor fawr. ;Vr oedd yn feddianol ar feddwl cyflawn a ftttanwl y trefnydd cywrain, ac i Calfin yr ,,ydym yn ddyledus am dduwinyddiaeth bresenol ein heglwysi. Yn nyddiau Calfin r. oedd Pabyddiaeth yn lleffytheirio medd- Jjrliau y bobl, ac fel pe yn rhoddi gefynau Am eu credoau. Gwaherddid y gallu i seddwl, ac ni chaniateid i ddynion roddi ■»le i reswm o gwbl yn nglyn a'u crefydd. -Ond rhoddodd Calfin le priodol a chyf- Al'eithiol i feddwl yn eu crefydd, a gwnaeth wtydd yn beth rhesymol. Credwch fel y toydd genych ffy4d," ebai y naill, Bydd- .d genych ffydd, fel y gallwch gredu," «teddai y Hall. Nid ffydd ddireswm a -«dysgai Calfin. Eto dysgai fod Duw fel en Arglwydd yn wastadol yn y byd trwy ei effeithiolrwydd. Yr ewyllys ddwyfol oedd yn gyfrifol am bobpeth, ac nid oedd dim yn digwydd tuallan i gylch ewyllys Duw. Nid damwain aflunaidd ac anrhefu- us ydyw hanesiaeth, heb reol ni deddt, ond datguddiad araf Duw i'r byd. Er hyn nid oedd Calfin yn meddwl fod Duw yn gyfrifol am bechod yn y byd. Daliai ef fod ewyllys Duw yn gweithio yn a thrwy ewyllys dyn ond er hyny, ewyllys dyn oedd yn gytrifol am bechod, a dyn ei hun oedd yn gyfrifol am bob gweithred wriai. Fel hyn y gwnaeth Calfin osgoi yr holl ddrygedd sydd yn nglyn a Holl- dduwiaeth. Yn diweddu, dywedai y siar- adwr Pa un bynag a dderbyniwn ni ei holl athrawiaeth ai peidio, cariiataed Duw i ni ffydd ardderchog Calfin." Mater Dr Cynddylan Jones ydoedd Calfin a Chymru," yr hwn a ymdriniodd yn ei ffordd alluog ei hun, eto mewn modd hynod ddyddorol. O'r dechreu i'r diwedd cadwodd sylw ei wrandawyr fel pe mewn gefyn meddylgar, a llwyddodd i gadw y cynulliad mewn distawrwydd disgsvylgar hyd y terfyn. Yr oedd daliadau Calfin, ebai, wedi eu dwyn gan bob eglwys Cafodd Cymru ei Chalfiniaeth yn union- gyrchol oddiwrth yr hen Biwritaniaid, megis, John Howe, a John Bunyan. Peth da ar rai prydiau oedd 1 un ymffrostio yn y sect y perthynai iddi. Felly, os oedd yr holl egwyddorion sylfaenol yn cael eu coleddu gan yr holl eglwysi, pa le yr oedd Calfiniaeth yn gwneyd ei hun yn amlwg ? Yr oedd amryw bethau megis Etholedig- aeth, Pechod gwreiddiol, ac felly yn mlaen. Fodd bynag mewn adegau o ddiwygiadau crefyddol mawrion, collid golwg ar wahaniaethau credoau yn nglyn a chrefydd. Yr oedd perthynas sect yn cael ei anghofio yn achos cyflredin dynol- iaeth. Pe gwelent ddyn mewn perygl yn y m6r, ni ddywedent dyna Fethodist, neu dyna Fedyddiwr yn boddi. Collid golwg ar y gwahaniaeth, a dywedent dyna DDYN yn boddi, achubwn ef." Yn y flwyddyn 1800 dygid yn mlaen ddadl of- nadwy yn Nghymru yn nghylch daliadau Calfiniaeth, a chynorthwyodd y frwydr hono i ddwyn i fwy o eglurder, ac i gryf- hau ffydd y Calfiniaid. Yn mysg y rhai cyntaf i ddal i fyny faner Calfiniaeth yn Nghymru yr oedd Christmas Evans, a John Elias, o goffadwriaeth anfarwol. Onid yn Ngwrecsam y pregethodd John Elias ei bregeth fawr ar yr lawn ? Yna I ceir enwau mawr ysbrydiaeth-gynyrchol, I Thomas Jones, Dinbych Thomas Charles. I Bala, Dr Lewis Edwards, Bala enwau sydd yn cael y lie parchusaf yn nghalon I pob Cymro, a dynion oedd yn dal yn bur y I at athrawiaeth Calfin yn eu bywydau ac yn eu gwaith. Yna diweddodd y Dr parchedig gydag anerchiad ddysgedig ar Etholedigaeth, ac edrychai fel pe yn ym- hyfrydu mewn dadrys cwestiynau mawr, dyrus duwinyddiaeth, ac wrth ymdrin a phynciau dwfn damcaniaeth athronyddol. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarch i'r siaradwyr ar gynygiad y Parch William Evans, Pembroke Dock yn cael ei eilio gan y Parch John Williams, Brynsiencyn.
-----Dadorchuddio Ffenestr-Goffa…
Dadorchuddio Ffenestr-Goffa i Ferch Mr Lloyd George. Prydnawn Sul diweddaf, yn Nghapel Clapham Junction, Llundain, gweinyddwyd y seremoni bvydferth o ddadorchuddio ffen- estr goffa aml-liwiog i Miss Mair Eiluned Lloyd George. Yn y Carel hwn yr arferai addoli gyda'i rnham, a bu am gyfnod yn organydd yno hefyd. Mae'r ffenestr yn rhodd gan ei thad, ac wedi ei gwneyd yri y modd godidocaf. Yn ol y dariun roddir o honi ceir fod yn y canol ddarlun o ferch ieu- anc brydweddol yn eistedd o flaen organ yn chwareu, tra uwchben iddi y mae cor o ang- yhon yn hofran ar eu hadenydd ac yn dwys wrando ar y miwsig Yn gerfiedig ar un ochr iddi y mae'r gair Cariad,' ar yr ochr araB" Addfwynder," ac odditani Moliant," ynghyda'r adnod Gwyn eu byd y rhai pur o galon &c. Yna dilynir hyn gan y llin- ellau barddonol canlynol o waith Iolo Caer- narfon "Ffrwyth gras a hiraeth rhiaiufc llaith eu gruddiau Er cof am un oludog o rinweddau Addolai yma, drwy ei gwanwyn iraidd, Yn symledd gwresog ffydd a chariad peraidd, Yr Arglwydd ym rahrydferthwch ei sanct- eiddrwydd, Gan berarogli'r byd mewn gostyngeiddrwydd." Ac yn olaf y gof.ysgrif hon :— MAIH. EILUNBP LLOYD GEORGE, Yr hon a hunodd Tachwedd 29ain, 1907 Yn 17eg oed. Daeth nifer fawr o wyr Cymreig blaenaf Llundain i'r gwasanaeth, ac yn eu plith Syr J Herbert Roberts, A.S., Mr J Herbert Lewis, A S., a Mr Timothy Davies. A.S. Agorwyd y gwasanaeth gan y Parch Herbert Morgan, B A, gweinidog Bedyddwyr Cym- reig Castle Street, a'r Parch H, Elfed Lewis, M. A. Dadorchuddiwyd y ffenestr gan y Parch John Williams, Brynsiencyn, yr hwn ar ran y teulu ai cyflwynodd yn ffurfiol i'r capel a'r enwad. Traddododd hefyd anerch iad fer yn ymwneyd a nodweddion cymeriad yr ymadawedig, yr hon oedd yn Hawn o deimlad dwys, ac yn amlygu gofid dwys ar ei hoi. Diweddwyd gan y Parch D Tyler Davies, Gweinidog yr Eglwys. Yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch John Williams, Brynsiencyn. Yr oedd Mr Lloyd George yn mysg y gynulleidfa, ac efe hefyd wrandawodd ar y plant yn adrodd eu had. nodau yn y Seiat ar 01.
-----.------_--BARDDONIAETH.
BARDDONIAETH. LLINELLAC OOFFA Am y diweddar JOSEPH ROBSATS, Johnson Street, Ponkey, a f;i fa,rvv yn mitj Mehij&Li .1908. Tra'r oedd Mehefin yn ei thro Yn rhodio drwy y maesydd, Rhyw nefol alwad ddaeth i'r fro I alw Joseph ufadd Gadawodd ni yn sydyn iawn Yn nghanol ei ddiwydrwydd, 'Rol treulio'i fywyd i'w brydnawn Bu farw cyn ei h wyrddydcl. Oa'dd fedd mewn mynwent yn ein plwy' A newydd wely i orwedd, Ond teimlwn beunydd hiraeth mwy Am dano yn ein hanedd Os cauwyd bedd ar wyneb cu Y tad a fu mor ffyddlon, Hyd heddyw bedd agored sy' Yn aros yn em calon. 0 ddydd i ddydd llafuriodd ef Mor ddiwyd a'r wenynen, Rhodd galon fawr i Dduw y nef A'i law i dori angen 'R oedd ganddo glust i glywed cwyn 0 unrhyw le y deuai, A'i enw erys yn ei swyn I lawer a'i hadwaenai. Mae Eglwys Salem yn fwy llwm 'Rol colli'r brawd caredig, Mae'r fam yn teimlo hiraeth trwm Am briod fu mor ddiddig, Mae'r teulu yn hiraethu'n awr- Hiraethu am a gollwyd, Ac mao rhyw wagder-gwagder mawr, I'w deimlo ar yr aelwyd. Daeth mis Mehefin yn ei thro I wasgar blodau eilwaith, Ond ni ddaeth ef yn ol i'r fro Yn ol i dori'n hiraeth Mae blodau'r llawr er maint eu rhyw Yn byw i farw wedyn, Ond saint y llawr, yn marw i fyw Y bywyd sydd ddiderfyn. CYFAIIX.
GOHEBIAETH.I
GOHEBIAETH. I POBL Y PONKEY A'R ORSEDD. At Olygydd Herald y Rhos, Syr,—A fyddwch chwi mor hynaws a chaniatau gair byr fel atebiad i lith flodeuog Eiddigus dros y Ponkey," ymddangosodd yn y rhifyn diweddaf o'r Herald. Cas beth genym yw eiddigedd yn mhob cylch, ac yr ydym wedi craffu ar yr ymgais i'w weithio i mewn yn y cyfeiriad hwn, sef i gynyrchu rhwyg rhwng y Rhos a'r Ponkey. Ond, modd bynag, bydded hysbys i'r gwr selog Eiddugus ein bod hyd yn hyn yn un, ac yn bwriadu bod felly. Dylasai gofio fod Rhos- llanerchrugog yn enw cynhenid ar yr holl blwyf, ac yn parhau felly mewn rhai pethau, un o'r cyfryw yw yr Eisteddfod. Hefyd yn Ward y Ponkey y cynhaliwyd yr Orsedd o'r dechreu, a chyn ymddangosiad ei lith yr oedd yn dra hysbys bod y Pwyllgor wedi trefnu i symud safle yr Orsedd eleni i lawr i Duke street. Felly cladder teimladau croes, a deued pob copa walltog o drigolion y I Ponkey yno, a chant weld y Beirdd yn eu gwisgoedd urddasol, yn cadw yr hen sere- moni yn fyw gydag urddas. IAGO DDU. 0
[No title]
Syr,—Da oedd genym weled Ilythyr Eiddigus dros y Ponkey yn eich rhifyn diweddaf Credwn ei fod yn siarad teimlad cyffredinol, a'i bod yn ben bryd i rywun wrthdystio yn erbyn y diystyrwch deflir ar y rhan hon o'r ardal, nid yn unig yn y peth hyn ond materion eraill hefyd, megis gorym- daith plant yr Eglwysi Rhydd yn ddiweddar. Heblaw bod y lie a awgryma y fangre fwyat cyfleus yn y cylch i gynal Gorsedd, bydd yn ganclog o bob rhan o'r ardal. Teimlwn yn sicr mai nid creu teimladau drwg rhwrg trigolion deupen yr ardal oedd ei amcan, ond dangos i'r bobl fyn gadw bobpeth yn Rhos -(a hyny ar draul diystyru ac anwybyddu manau eraill tra yn derbyn eu cefnogaeth)— mai y ffordd oreu i weithio pethau yn hedd- ychol ac esmwyth, ac er buddianau goreu yr Eisteddfod yn gyffredinol, fydd cydnabod y naill a'r Ilall, a dangos mwy o ysbryd "give z: and take.Ydwyf, GWALCH O'R PONKEY.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL Syr,—Bum yn meddwl llawer a fydd i lythyr amserol "EG." yn eich diweddaf esgor ar rywbeth heblaw siarad. Cof genyf fod ystwr fawr wedi ei godi tua diwedd y flwyddyn o'r blaen, neu ddechieu hon, am gael Cor o'r Rhos i fyned i Eisteddfod Gen- edlaethol Llundain, ond gwyddai pawb, oherwydd prinder amser mai peth hollol an- ymarferul ydoedd hyny. Ond ni fedrir dad- leu hyn y tro yma, obiegid fod dros flwydd- yn hyd yr adeg y cynhelir hi yn Colwyn Bay. Beth pe bae rhywunblaenllaw gyda chor- au-megis dau Ysgrifenydd Eisteddfod y Rhos, neu rai o'r arweinyddion cerddorol lleol,—yn ymgymeryd i anfon at niier o bersonau gan eu galw i fyny i drafod y mater, er cael gwybod y cynllun goreu i weithio? Fel "E.G" credaf yn sicr fod digon o ddefnyddipu rhagorol yn Rhos i enill yr an h\dedd C'jnedbethol, ac hyd yn oed pe G^fiierit n ndèn i giel goruwchaf- iaeth fa\ edijpi.' ar y corau Seisnig blaenaf. Prawf o hyn oedd Eisieddf>;d Corwen flyn- yddau yn ol. Os cofiaf yn dda yr oedd Mr Wilfred Jones, Gwrecsam, yn barod ar fyr rybudd i gymeryd Cor i Lundain, a theimlaf yn sicr pe gwahoddir ef y byddai yn barod i wneyd hyny ar gyfer Colwyn Bay. Gyda cyfuniad o leisiau goreu y Rhos o dan ar- weinyddiaeth Mr Jones, byddai'r maen cys- tal ag wedi ei gario i'r wal. 2 Yr eiddoch, HEN GORAWDWR. ■■■■■'
Anrhydedd i Weinidog Cymreig…
Anrhydedd i Weinidog Cymreig yn yr America. Dywed un o'r newyddiaduron a gyhoeddir I yn yr America mewn cysyUtiad a mnterion I Cymreig. fod cwmni adnabyddus o gyhnedd- J J! wyr wedi penderfynu dwyn allan Wyddon- iadur a Geiriadur Beiblaidd newydd, i gael ei orphen mewn pedair o gyfrolau. Dewis- ¡ wyd ganddynt fel golygwyr yr enwog Dr James Orr, a'r Parch M 0 Evans, Ph D., Cincinnati. Mae Mr Evans ar hyn o bryd a gofal Eglwys arno, ond pan ddewiswyd ef i'r gwaith hwn, penderfynodd ymddiswyddo. Fodd bynag ni fynai yr Eglwys dderbyn hyn, ac mae yniau wedi cydsynio i aros fel eu gweinidog, tra mae hithau o'r ochr arall wedi trefnu i ysgafnhau ei ddyledswyddau bugeiliol, a rhyddhau y ffordd yn mhob modd er ei aliuogi i gyfiawni y gwaith pwysig hwn. Brodor o Ffestiniog ydyw Mr Evans, ond yn dra adnabyddus yn y cylch hwn ar gyfrif y ffaith iddo fod yn gweinidogaethu am gyf- nod maith yn Ngwrecsam Pan ymfndoid i'r America, yr oedd yn Weinidog i'r Eglwys Annibynol sydd yn ymgynull yn Nghapel Coffadwiiaethol Morgan Liwyd o Wynedd, a godwyd rai blynyddau yn ol yn Ngwrec- sam.
-----..____-_N-----NODION.
-N- NODION. Wedi bod yn gweithredu fel Swyddog Meddygol dros Dreffynnon ers 1872, mae Dr James Williams ar ymddiswyddo. Cyflwynwyd ysgoloriaeih drwyddedol i Ysgol Giggleswick, gwerth ^40 y fhvyddyn, i Geraint G Roberts, tnab 13 oed Mr L J Roberts, Arolygydd Ysgolion. Yn Nhlotty Croesoswallt y mae newydd farw Mrs Ann Roberts, genedigol o Lan-y- mynech, yr hon oedd dros 100 oed. Y Parch John Charles a Mr Simon Jones, U.H., oedd dau o nifer fuont o flaen Ynad- on Gwrecsam fel gwrthwynebwyr goddefol am wrthod talu y dreth addysg. ■■ Prydnawn Sul diweddaf llywyddai Mr Ellis Jones Griffith, A.S., yn Ngwasanaeth Blodau blynyddol perthynol i Eglwys y Bedyddwyr Cymreig Castle St, Llundain. Hysbysir fod y Parch Gwilym Isaac, Ton, Rhondda, wedi derhyn yr alwad gafodd gan Eglwys Ebenezer, Bedyddwyr Seisnig, Cefn Mawr. Cychwyna ar ei weinidogaeth yn mis Awst nesaf. «• Yr wythnos ddiweddaf cynheiid ymchwil- iad yn y Wyddgrug, ar ran Bwrdd y Lly- wodraeth Lleol, i ystyried cais oddiwrth Gynghor Sir FO-irt am ychwanegiad o dri aelod i gynrychioli rhai o'r rhanau niwyaf poblog yn y Sir. Am yr ail dro glaniodd Cwmni y White Star deithwyr o'r ager long Baltic yn Nghaer- I gybi dydd Sul. Oddiyno cymetwyd hwy mewn cerbydres arbenig i Lundain, lie y cyrhaeddas int yr un adeg ag y cyrhaeddai y Baltic Lerpwl Mewn cyfarfod o'r Blaid Gymreig yn Nhy'r Cyffredin appwyntiwyd Mr Wm Jones, Mr Ellis J Griffith, a Mr S Robinson i gyfarfcd chwech o ddirprwywyr odd with y Cynghor Cenedlaethol Rhyddfrydol i ym- gysylltu ar ba gwrs a gymerir mewn per- thynas a Alesur Dadgysylltiad. Mae'r cynhauaf mefus ar ddechreu yn yr Holt, ac yr oedd un o'r tyfwyr mwyaf y dydd o'r blaen yn adverteisio am ddwy fil o bobl. Canlyniad hyn ydyw fod Lrampwyr yn heidio yno o bob cwr o'r wlad. AL AL, Ateb yn gadarnhaol ddarfu y Parch J H Williams, Croesoswallt, yn nglyn a galwid oddiwrlh Eglwys Annibynol Pendref, Llano. fyllin. Yn y capel hwn y cafodd Ann Griffiths, yr emynyddes, argyhoeddiad. Syrthiodd Mr T N Richards, Caer, bell- der o ddeg troedfedd ar hugain, gan aoafu ei hun yn drwm, wrth ddychwelyd wedi bod yn gweled y Fairy Glen, yn Beitws y Coed, y dydd o'r blaen.