Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

.Sefyllfa Glowyr yn Ngogledd…

GOHEBIAETH.I

RHOS.

UNDEB ANNIBYNWYB. CYMRU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB ANNIBYNWYB. CYMRU. Cynhaliwyd cyfarfodydd yr uchod yn Mhontardulais, yr wythnos hon, pryd yr I oedd oddeutu 500 o gynrycbiolwyr yn bres- enol. Llywyddwyd gan y Parch R Roberts Rhos. Parhaodd y gweithrediadau o nos Llun hyd dydd Liu. DYDD MAWRTH Gwaith penaf y diwrnod hwn oedd der- byn adroddiadau y gwahanol Bwyllgorau Yn y prydnawn daeth busnes y Gymn a gerbron, pryd yr ymdriniwyd a seiyll a y y Gronfa; dewiswyd y Parch W Levies, Llandeilo, yn Ga-deirydd at y flwyddyn nesaf; appwyntiwyd y Parch R Peris Williams, yn Ysgrifenydd am y tair blynedd nesaf; a derbyniwyd eg-is Eglwys Soar, Llanbedr, fel y lie i gynal yr Undeb Cyff- redinol nesaf Yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch Peter Price, B.A., Dowlais, a'r Parch James Edwards, Castellnedd. DYDD MERCHER. Daeth tyrta fawr yn nghyd am 10 y boreu i wrando y Llywydd yn traddodi ei anerch- iad o Gadair yr Undeb. Gwnaeth Mr Roberts argraff ddofn ar ei wrandawyr, ac wrth gynyg diolchgarwch iddo am ei araeth odidog datgatjwyd llawenydd cyffredinol yr Undeb wrtn ei weled cystal wedi ei afiechyd blin diweddar. DIRWESTOL. Cynhaliwyd cyfarfod mawr dirwestol yn nglyn a'r gweithrediadau, pryd y siaradwyd gan Mr M'Killop, Llanerchymedd, Mon, Mr L D Jones (Llew Tegid), Bangor; Parch D Jones, Rhuthyn Parch W Crwys Williams, Brynaman. Pasiwyd penderfyniad unfrydol ar y diwedd yn llongyfarch y Lly- wodraeth ar eu gwaith yn pasio y Mesur Trwyddedol trwy Dy'r Cyffredin, y Prif Weinidog ar ei addewid glir i ail-ddwyn y Mesur i mewn y cyfle cyntaf posibl, Trysor- ydd y Gyllideb ar ei benderfyniad i wneyd i'r Fasnach dalu ei chyfran briodol am eu cyfleusderau, a Llywydd y Bwrdd Addysg am wneyd addysg ddirwestol yn rhan o'r cwrs addysgol yn yr ysgolion. DADGYSYLLTIAD. Pasiwyd penderfyniad cryf yn datgan gofid a siomedigaeth at waith y Llywod- raeth yn tynu yn ol Fesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad i Gymru wedi ei haddewid- ion mynych i'w basio yn ei holl adranau y tymhor hwn. Yn neillduol gofidient am ei fod wedi ei aberthu yn ffafr mesur a ddyg- wyd yn mlaen i heddychu plaid a wnaeth ei goreu i beryglu bodolaeth y Llywodraeth. Siaradwyd yn gryf ar y penderfyniad gan y Parch 0 L Roberts, Lerpwl, a'r Parch Towyn Jones.

Advertising

RUABON POLICE COURT.